‘Braint’ gweld drama gan 1,800 o bentrefwyr yn diolch i Dduw

  • Cyhoeddwyd
The Cleansing of the TempleFfynhonnell y llun, Birgit Gudjonsdottir
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd o bentrefwyr yn rhan o'r Passionsspiele

Ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth Eryl Crump brynu tocyn i weld y Passionsspiele, sef drama o'r croeshoeliad sydd wedi ei chynnal gan drigolion pentref Oberammergau ers dyddiau'r pla. Gohirwyd perfformiad 2020 - oherwydd pandemig arall - felly aeth y newyddiadurwr draw i'r Almaen eleni wrth iddi gael ei chynnal yn 2022 yn lle.

Linebreak

Yn 1633, wrth i bla bubonig 'sgubo ar draws Ewrop, gwnaeth trigolion pentref bach yn yr Almaen adduned i Dduw.

Roedd yn gyfnod rhyfelgar gyda milwyr o Sweden yn meddiannu tiroedd Bafaria pan ddaeth teithiwr, Kaspar Schisler, a'r pla i Oberammergau ac o fewn wythnosau roedd mwy nag 80 wedi marw.

Os arbedwyd rhagor o farwolaethau, addawodd arweinwyr y gymuned fechan gweledig hon yn yr Almaen "gyflawni trasiedi'r Dioddefaint" ac wedi'r addewid, farwodd neb arall o'r pla.

Felly ym 1634 ym mynwent eglwys San Pedr a Paul, perfformiwyd y Passionsspiele cyntaf yn darlunio bywyd, erledigaeth, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Roedd tua 60 o bobl yn cymryd rhan yn y ddrama gafodd ei pherfformio uwchben beddau'r rhai a fu farw o'r pla.

OberammergaFfynhonnell y llun, lorian Wagner
Disgrifiad o’r llun,

Mae Oberammergau yn bentref yn yr Alpau Bafaraidd

Ddwy flynedd yn ôl, pan oedd pentrefwyr Oberammergau yn paratoi ar gyfer cyflwyniad 2020 daeth pla arall i'r byd. Bu'n rhaid gohirio'r Passionspiele oherwydd Covid-19, a gyda hynny ein cynlluniau ni ar gyfer taith i ymweld â'r Almaen i wylio'r ddrama.

Roedd Covid-19 yn ddieithr i feddygon a gwyddonwyr ac fe gymerwyd amser i'w reoli. Felly oedd hi pan gyflynwyd y Passionsspeiele cyntaf hefyd. Ychydig oedd yn hysbys am natur a tharddiad y pla a "dim ond fel digofaint Duw y gellid eu dehongli".

Yn yr Almaen ac Awstria roedd dramau tebyg yn boblogaidd gyda chofnodion bod dros 250 yn Bafaria yn yr un cyfnod. Ond tra bod y gweddill wedi diflannu o'r cof, parhau wnaeth Passionsspiele Oberammergau. Yn fuan iawn roedd y fynwent yn rhy fach a chafodd y cyflwyniad ei symud i fan agored arall ar gyrion y pentref.

Ers 1680 mae cylch deng mlynedd i'r cyflwyniad a'r Passionsspiele wedi cael ei gynnal yn barhaus ers hynny, gyda'r holl bentrefwyr yn rhan o'r perfformiad.

Daeth teulu brenhinol Saxony i'r perfformiad yn 1840 a soniwyd amdano gyntaf ym mhapurau newydd Ffrainc a Phrydain yn 1850 pan berfformiwyd y Passionsspiele 14 o weithiau i gynulleidfa o dros 45,000.

TheatrFfynhonnell y llun, Sebastian Schulte
Disgrifiad o’r llun,

Y theatr, sy'n dal cynulleidfa o 5000

Diolch i'r teithiwr entrepreneuriol Thomas Cook, a welodd y ddrama ym 1880, dechreuwyd drefnu teithiau tywys i Bafaria. Wrth i'r Passionsspiele fynd yn fwy poblogaidd adeiladwyd llwyfan parhaol ac yn ddiweddarach theatr anferth gyda bron i 5,000 o seddi.

Bellach mae nifer fawr o'r gynulleidfa o dramor. Clywais gyntaf am y Passionsspiele mewn catalog teithiau tramor yn 1969.

Yn 2012, tra ar wyliau yn Awstria a chlywed straeon am y ddrama, roedd awydd arna i fynd i'w gweld rhywbryd. Ar ôl prynu tocynnau cyn Covid-19, wrth i'r gwaharddiadau godi dyma ail drefnu'r trip, a gobeithio'n daer na fyddai dim yn ein rhwystro'r tro hwn.

Dywedodd cyfarwyddwr y Passionsspiele, Christian Stückl, 60, brodor o Oberammergau, mai'r cyflwyniad bellach yw pwrpas y pentref. Cymerir yn ganiataol bod bron pob un o'r 5,200 o drigolion sy'n gymwys, o fabanod i bobl nad ydynt yn oedrannus, yn chwarae rhan naill ai ar y llwyfan neu oddi arno.

Meddai: "Y tro diwethaf i ni orfod oedi oedd 100 mlynedd yn ôl, oherwydd ffliw Sbaen, yn ogystal â marwolaethau ac anafiadau o'r rhyfel byd cyntaf, ac wedi hynny cafodd ei aildrefnu ar gyfer 1922.

"Mae gan bandemig a'r Passionsspiele draddodiad yma.

"Pan wnaeth yr epidemig coronafirws ein gorfodi i ohirio'r Passionsspiele yng ngwanwyn 2020, roedd cyfeiriadau aml at hen stori pla'r yn Oberammergau a gofynnodd sawl person i mi os oeddem yn ystyried cymryd adduned newydd. Roedd yn rhaid i mi chwerthin."

Croeshoelio'r IesuFfynhonnell y llun, Arno Declair
Disgrifiad o’r llun,

Y croeshoelio

Yn draddodiadol, mae Oberammergau yn bentref Catholig cadarn, lle mae llawer o'r murluniau ar ffasadau tai yn darlunio golygfeydd Beiblaidd neu Mair. Ond yn fwy diweddar, mae'r pentref wedi dod yn aml-ddiwylliannol.

"Mae'r ffydd Gatholig yn nodweddu Oberammergau, ond mae gennym ni Brotestaniaid a Mwslemiaid yn ein cymuned hefyd, ac mae pawb yn dod at ei gilydd ac yn cymryd rhan yn y Passionsspiele," meddai Stückl. "Eleni, am y tro cyntaf, mae gennym Fwslimiaid yn cymryd rhan."

Cyfarwyddwr theatr yn Munchen yw Frederik Mayet, 41, sy'n un o ddau berson sy'n chwarae rhan yr Iesu, fel gwnaeth o yn 2010. Mae traddodiad dwfn yn ei deulu ers 1890 ac mae ei ddau blentyn, tair ac wyth oed, gydag ef ar y llwyfan eleni.

Wrth gymharu â'r rôl 12 mlynedd yn ôl dywedodd Mayet fod y byd yn le gwahanol.

Actorion yn perfformioFfynhonnell y llun, Birgit Gudjonsdottir
Disgrifiad o’r llun,

Cychwyn y ddrama, gydag adduned y pentrefwyr

Cyn y perfformiad agoriadol dywedodd wrth ohebwyr: "Effeithiau'r pandemig, y rhyfel yn yr Wcráin, dadleoli cynyddol pobl a thrychineb ecolegol cynyddol."

Y tro hwn mae ei Iesu - o dan gyfarwyddyd Stückl - "yn fwy gwleidyddol, yn fwy blin, yn rhywun sy'n chwilio am gyfiawnder cymdeithasol."

Wrth wylio'r Passionsspiele roedd portread yr Iesu fel dyn blin yn ddiddorol. Pwysleisiodd fy magwraeth Ysgol Sul fod yr Iesu yn ddyn caredig, tawel ei ffordd ac nid yn ddyn oedd yn herio'r drefn yn uchel. Ond nid oedd yn amharu ar y cynhyrchiad pwerus hwn.

Lle arall ceir 1,800 o bentrefwyr allan o boblogaeth o tua 5,000 - yn amrywio o David Bender, 19 oed, yn chwarae'r Angel i Walter Fischer, 80 oed, yn chwarae Annas - yn cymryd rhan mewn portread syfrdanol a chyfareddol o ddyddiau olaf Iesu Grist o'i gyrraedd yn Jerusalem ar Sul y Blodau hyd at ei groeshoeliad a'i gladdedigaeth?

Yr olygfa olafFfynhonnell y llun, Arno Declair
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa olaf

Does dim rhaid i chi ddeall Almaeneg i fwynhau'r Passionsspiele. Tra bod yna olygfeydd hir, ac ambell dro'n llafurus, mae'r sgript gyfan ar gael yn Saesneg (ac ieithoedd eraill) ac mae'r stori wedi'r cyfan yn un gyfarwydd.

Mae llawer o elfennau arbennig o drawiadol yn dal sylw'r gynulleidfa heb fod angen y sgript ysgrifenedig.

Bydd golygfa'r dyrfa sy'n darlunio mynediad Iesu i Jerwsalem a golygfeydd aflafar y dyrfa ar ddiarddel y masnachwyr yn y Deml ac ar ddedfryd Iesu yn byw yn y cof.

Ac wrth gwrs, golygfa'r croeshoeliad, a chodi'r actorion sy'n chwarae'r Iesu a'r ddau leidr ar dair croes enfawr. Yna, mewn distawrwydd llethol, wrth iddi nosi, eu tynnu'n ofalus oddi ar y croesau hynny.

Croesi'r Môr CochFfynhonnell y llun, Birgit Gudjonsdottir
Disgrifiad o’r llun,

Croesi'r Môr Coch

Yn ogystal, ceir delweddau byw o'r Hen Destament sy'n lliwgar a hynod effeithiol. Maent yn cynnwys addoli'r Llo Aur a Moses yn croesi'r Môr Coch.

Er gwaethaf ei hyd, pum awr mewn dwy ran gydag egwyl o dair awr, ac eistedd ar seddi caled di-ildio mewn gwres myglyd mae'r Passionsspiele yn gynhyrchiad lle mae drama, cerddoriaeth a chân yn cyfarfod â thraddodiad ac yn cyfuno â disgleirdeb technegol i greu cyflwyniad sydd i fod i aros yn hir yn fy nghof.

Roedd gwylio'r cyflwyniad yn brofiad na fyddaf yn ei anghofio ac roedd yn fraint o'i gweld. Rwy'n falch fy mod wedi cadw gafael ar y tocynnau a brynais yn ôl yn 2020.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig