Siom i nyrs sy'n aros 11 wythnos am basport newydd

  • Cyhoeddwyd
Ciw tu allan i Swyddfa Basport CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn ciwio tu allan i Swyddfa Basport Casnewydd

Mae yna bryder bod "cannoedd os nad miloedd" o deuluoedd yng Nghymru'n wynebu'r ansicrwydd o orfod canslo eu gwyliau haf a cholli arian oherwydd oedi wrth brosesu ceisiadau am basbortau.

Yn ôl un Aelod Seneddol Llafur o Gymru mae angen i Lywodraeth y DU fynd ati i gywiro "blynyddoedd o dan-fuddsoddiad" sydd bellach yn achosi "straen i deuluoedd ar draws Cymru".

Mae un nyrs o Ddinbych wedi colli gwyliau i ddathlu ei hymddeoliad o'r Gwasanaeth Iechyd oherwydd oedi wrth brosesu ei chais am basbort a gafodd ei gyflwyno 11 wythnos yn ôl.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod honiad mai tan-fuddsoddiad sydd wrth wraidd y broblem, gan ddweud fod y galw am y gwasanaeth yn "ddigynsail".

Ychwanegodd llefarydd bod 250,000 o geisiadau yn cael eu prosesu bob wythnos ac fe ddylai ymgeiswyr adael hyd at 10 wythnos er mwyn eu derbyn.

'Hiraethus pan aethon nhw'

Disgrifiad,

Colli gwyliau wedi oedi pasbort 'yn dorcalonnus'

Drwy gydol y pandemig mae Medwen Griffiths o bentref Henllan, ger Dinbych, wedi bod yn gweithio mewn ysbyty cymunedol fel nyrs yn gofalu am gleifion.

Wrth iddi baratoi i ymddeol ddiwedd yr haf, fe benderfynodd fynd ar wyliau i Rufain gyda ffrindiau.

Ond wrth i'r diwrnod hedfan agosáu fe ddaeth Medwen yn fwy pryderus nad oedd ei phasbort wedi cyrraedd.

Pan gyrhaeddodd diwrnod y daith i Rufain, roedd ei ffrindiau wrthi'n gadael y wlad ar eu gwyliau ond doedd Medwen dal heb dderbyn ei phasbort.

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n 11 wythnos yn union ers i Medwen gyflwyno'i chais am basport

"Ar ôl inni fod yn gweithio ers dwy flynedd drwy'r pandemig oeddan ni'n edrych ymlaen," meddai, "ond ges i fy ngadael ar ôl - dim pasport!

"O'n i reit hiraethus pan aethon nhw."

Ers cyflwyno ei chais mae Medwen yn dweud iddi gysylltu hefo'r Swyddfa Basbort sawl gwaith i geisio dod o hyd i'w chais ond yn dweud bod hynny wedi bod yn ofer.

"Doeddan nhw methu helpu. Oeddan nhw'n d'eud bod o'n prosesu a wedyn ddaru nhw ddweud doeddan nhw methu ffendio fo."

'Pob math o helynt'

Fe gyflwynodd llefarydd Llafur ar fewnfudo - AS Aberafan, Stephen Kinnock - ddadl yr wythnos ddiwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin yn galw ar Lywodraeth y DU i ymddiheuro am yr oedi.

"Mae o'n achosi pob math o straen ar deuluoedd a phryder bod pres yn cael ei golli," meddai.

"Hefyd, mae pobl wedi colli gwaith, cyfweliadau swyddi dramor ac mae'n achosi pob math o helynt."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ystod y ddadl yr wythnos ddiwethaf, fe alwodd Mr Kinnock ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r rhestrau aros drwy honni fod yr oedi o ganlyniad i dan-fuddsoddiad a diffyg paratoi.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod hynny, gan ddweud bod yr oedi a rhestrau aros o ganlyniad i alw digynsail am wasanaethau ar drothwy'r haf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Basbort bod staff yn prosesu 250,000 o geisiadau yr wythnos a bod "98.5% o geisiadau yn cael eu cwblhau o fewn 10 wythnos".

"Fe ddylai ymgeiswyr gyflwyno y cais 10 wythnos cyn bod nhw angen eu pasbort oherwydd y cynnydd yn y galw, gyda 5 miliwn o bobl wedi oedi eu ceisiadau dros gyfnod y pandemig."

Mae Medwen yn dal i aros am ei phasbort 11 wythnos ers cyflwyno ei chais a thra bod hi wrthi yn dechrau edrych ar wyliau arall ar gyfer diwedd y flwyddyn, mae'n dweud nad ydy hi am dalu dim nes bod y pasbort yn ei llaw.

Ychwanegodd: "Maen nhw isio sortio hyn allan i weld be' sy'n mynd mlaen ac mae angen mwy o bres mewn."

Pynciau cysylltiedig