Dad-droseddoli cyffuriau: 'Gallai fod manteision' medd uwch heddwas
- Cyhoeddwyd
Mae prif gwnstabl cynorthwyol Heddlu De Cymru wedi dweud y gallai fod manteision o rywfaint o ddad-droseddoli cyffuriau.
Dywedodd David Thorne nad yw statws troseddol defnyddio cyffuriau "lefel isel" yn helpu pobl sy'n gaeth i roi'r gorau i'r arferiad.
Dywedodd Mr Thorne bod atal defnydd a thriniaeth yn bwysig wrth fynd i'r afael â'r mater.
Yn y cyfamser dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yr hoffai weld y gyfraith yn newid er mwyn caniatáu defnydd o ystafelloedd cymryd cyffuriau.
Siaradodd y ddau yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin.
Dywedodd Mr Thorne wrth ymchwiliad y pwyllgor i gyffuriau fod gan ranbarth Heddlu De Cymru 53 o grwpiau troseddau trefniadol, y mwyafrif ohonynt yn ymwneud â chyffuriau,
Ychwanegodd bod marwolaethau oherwydd cyffuriau wedi dechrau codi eto ar ôl cyfnodau clo.
Wrth siarad ar banel o uwch swyddogion heddlu eraill, dywedodd Mr Thorne fod "angen camu i'r diriogaeth hon" o ddad-droseddoli "yn ofalus iawn".
Dywedodd fod yna "swm enfawr o niwed" yn dod o gam-drin alcohol, "er ei fod yn gyfreithlon", ac mae yna "farchnad ddu sylweddol" ar gyfer tybaco ac alcohol.
Ond ychwanegodd: "Rwy'n meddwl bod rhai buddion wedi'u dangos o ddad-droseddoli lefelau isel... o ran cael pobl i gael triniaeth yn hytrach na'u troseddoli."
Yn ddiweddarach ychwanegodd: "Drwy droseddoli defnydd lefel isel o gyffuriau, yr hyn rydyn ni'n ei weld yw nad yw'n helpu pobl sy'n gaeth i roi'r gorau i'r arferiad a dod oddi ar y cylch hwnnw o ddibyniaeth.
"Mae'r ochr atal a thriniaeth yn bwysig o ran atal y cylch hwnnw."
Dywedodd nad oedd yn meddwl y byddai gorfodaeth "byth yn diflannu ac mae'n hollol iawn ei fod yno".
Ond ychwanegodd: "Mae angen i ni edrych yn ofalus ar y defnydd lefel isel hwnnw ac ai troseddoli yw'r dull cywir ar gyfer hynny.
"Efallai y bydd tystiolaeth yn dweud bod yna ffyrdd gwell o ddelio ag ef."
Ystafelloedd defnyddio cyffuriau
Yn ddiweddarach dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin o'r blaid Lafur, y byddai yn gefnogol i ystafelloedd defnyddio cyffuriau - cyfleusterau lle gall pobl sy'n defnyddio cyffuriau gael eu goruchwylio, sydd eisoes ar waith mewn mannau eraill yn Ewrop.
"Byddwn i'n eiriolwr drostyn nhw yng Nghymru, fodd bynnag mae'r ddeddfwriaeth yn gwahardd hynny rhag digwydd," meddai wrth y pwyllgor.
"Byddwn yn bersonol yn gefnogol i hynny fel ffordd ymlaen ond y cafeat fyddai y gallai'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, sydd dros 50 oed bellach, gael ei diwygio."
Roedd ystafelloedd defnyddio cyffuriau wedi cael eu hargymell gan ragflaenydd Mr Dunbobbin, Arfon Jones o Blaid Cymru.
Dywedodd Mr Thorne er bod yna fanteision gydag ystafelloedd defnyddio cyffuriau - sef caniatáu i bobl gymryd cyffuriau mewn amgylchedd diogel - fod "rhai pryderon".
"Byddai'r gadwyn gyflenwi yn sefydlu siop mae'n debyg yn eithaf agos at yr ystafell," meddai.
Ond dywedodd fod triniaeth gyda chymorth heroin yn cael ei hystyried o ddifrif gyda Llywodraeth Cymru, lle mae cyffuriau gwaharddedig yn cael eu rhoi.
Dywedodd David Sidwick, Comisiynydd Heddlu a Throseddu y Ceidwadwyr ar gyfer Dorset, fod mwyafrif y comisiynwyr yn gwrthwynebu dad-droseddoli a defnyddio ystafelloedd cyffuriau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd18 Medi 2017