Rhybudd am 'goctel o gyffuriau' drwy basio dŵr ar lawr

  • Cyhoeddwyd
Glastonbury Festival crowd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Glastonbury wedi arfer croesawu degau o filoedd o bobl

Mae hi'n dymor y gwyliau, pan fydd miloedd o bobl yn tyrru i ddigwyddiadau mawr a bach i fwynhau cerddoriaeth fyw unwaith eto ar ôl cyfyngiadau Covid.

Ynghanol cyffro y paratoi mae ecolegwyr o Brifysgol Bangor yn annog pobl sy'n bwriadu mynychu gwyliau yng nghefn gwlad i beidio â phasio dŵr ar lawr.

Maen nhw'n rhybuddio y gall hyn dreiddio i afonydd a nentydd cyfagos ac achosi niwed i'r amgylchedd, ac maen nhw'n annog pobl i ddefnyddio'r toiledau swyddogol ar y safle.

Dangosodd ymchwil Prifysgol Bangor bod lefelau rhai cyffuriau anghyfreithlon yn ystod gŵyl Glastonbury y tro diwethaf iddi gael ei chynnal wedi cyrraedd lefelau a allai fod yn niweidiol i amgylchedd yn yr afon sy'n llifo drwy'r safle.

Maen nhw hefyd yn apelio ar bobl i wneud mwy i geisio bod yn gyfeillgar â'r amgylchedd, gan ddweud fod cynlluniau i rannu lifft neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau'r defnydd o blastig untro a mynd ag offer a sbwriel adref â nhw yn bwysig.

Maen nhw'n dweud fod un cam syml arall y gall pobl ei wneud a all gael canlyniadau amgylcheddol enfawr.

Dywedodd Dr Christian Dunn, arweinydd yr ymchwil: "Gall cyffuriau, a chemegau eraill yn eich pi-pi gyrraedd yr afonydd yn gymharol gyflym.

"Felly mae'n bwysig iawn defnyddio'r cyfleusterau sydd wedi eu darparu gan drefnwyr yr ŵyl. Gall y coctel o gyffuriau sy'n mynd i mewn i'r dŵr niweidio pob math o fywyd dyfrol".

Mae'r adroddiad yn sôn bod "rhai pobl mewn gwyliau yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon, fel cocên ac ecstasi, a gwelsom y gall y cyffuriau hyn gyrraedd lefelau niweidiol i'r amgylchedd yn yr afon gyfagos."

Disgrifiad o’r llun,

Dr Christian Dunn: "Mae'n bwysig iawn defnyddio'r cyfleusterau sydd wedi eu darparu"

Yn ôl Dr Dunn mae'r cyffuriau hyn yn "fwyaf tebygol o fynd i'r dŵr wrth i bobl basio dŵr yn yr ardal".

Mewn datganiad i BBC Cymru dywedodd gŵyl Glastonbury fod gwarchod nentydd lleol a bywyd gwyllt yn bwysig iawn iddyn nhw, a bod trefniadau samplo dŵr trwyadl a llwyddiannus mewn lle yn ystod bob gŵyl, trwy gytundeb ag Asiantaeth yr Amgylchedd, ac nad yw'r asiantaeth wedi codi unrhyw bryderon am y trefniadau ar ôl yr ŵyl yn 2019.

Ychwanegodd ei bod yn "ymwybodol mai'r bygythiad mwyaf i'n dyfrffyrdd a'r bywyd gwyllt sydd yn byw ynddyn nhw...yw bod pobl sy'n mynychu gwyliau yn pasio dŵr ar y tir."

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwyddonwyr yn galw ar fynychwyr gwyliau i ddefnyddio toiledau swyddogol

Dywed y datganiad "nad yw'r ŵyl yn caniatáu'r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon" a'u bod hefyd yn llwyddiannus iawn wrth annog pobl i ddefnyddio'r toiledau ar y safle.

Ar hyn o bryd mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wrthi yn gwneud rhagor o ymchwil er mwyn ceisio gweld faint yn union o niwed mae hyn yn ei achosi.

Maen nhw hefyd yn bwriadu gweld beth sy'n bosib i'w wneud er mwyn tynnu'r cyffuriau o ddyfrffyrdd, neu eu hatal rhag mynd i mewn iddynt yn y lle cyntaf - er enghraifft trwy ddefnyddio gwelyau cors a gwlypdiroedd sydd wedi'u cynllunio'n arbennig.