Bae Ceibwr: Cymeradwyo cynllun dadleuol am dŷ newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun dadleuol i ddymchwel bwthyn a chodi tŷ newydd ar arfordir Sir Benfro wedi ei gymeradwyo.
Cafodd cais blaenorol i ddymchwel Pencastell ym Mae Ceibwr ac i godi tŷ newydd yn ei le ei wrthod.
Mae Bae Ceibwr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe'i ystyrir yn un o ardaloedd hyfrytaf arfordir gogledd Sir Benfro.
Ond ddydd Mercher, cafodd cynllun ei gymeradwyo gan bwyllgor o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dywedodd ffermwr lleol bod yr adeilad presennol wedi ei godi tua 170 o flynyddoedd yn ôl, fel pedwar bwthyn i weithwyr fferm lleol.
Cafodd y cynlluniau ar gyfer y tŷ newydd chwe ystafell wely eu disgrifio fel "dolur i'r llygad" ac fel "carbyncl" gan y cyngor cymuned lleol llynedd.
Mewn llythyr di-flewyn ar dafod at Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn 2021, dywedodd Cyngor Cymuned Nanhyfer ei fod yn gwrthwynebu'r cynlluniau yn gryf, mewn man sydd â golygfeydd "eiconig".
Wrth i Bwyllgor Rheoli Datblygiad y parc drafod y cais, dywedodd y Cynghorydd Hedydd Lloyd o Gyngor Cymuned Nanhyfer y dylid ei wrthod eto, ac y dylai aelodau "feddwl yn ofalus am yr oblygiadau".
Ychwanegodd: "Er bod yr adeilad newydd yn llai o ran uchder, fe fydd un pen yn wydr i gyd ac yn dinistrio'r olygfa o Ceibwr.
"Fe fydd un pen o'r adeilad yn sgleinio yn yr haul."
"Mae hyn yn enghraifft o gynllunio gwael. Pam bod angen adeiladu tŷ newydd ar y clogwyni?
"Cerwch nôl i'r cynlluniau gwreiddiol ac addasu Pencastell fel mae'n sefyll ar hyn o bryd."
'Mor sensitif â phosib'
Dywedodd yr ymgeisydd, Andrew Hebard, ei fod wedi gwrando ar arweiniad y swyddogion "ac wedi gwneud yn well".
"Mae'r adeilad newydd yn llai o faint a dyw e ddim yn uwch na'r adeilad gwreiddiol. Dim ond 13.6% o'r adeiladau gwreiddiol sydd yn dal i fodoli.
"Ry'n ni yn mynd i ail-ddefnyddio cerrig o'r safle. Mae adroddiad sydd wedi ei gomisiynu yn dangos na fyddai'n gwneud synnwyr ariannol i adnewyddu'r adeilad presennol.
"Fe fyddwn ni mor sensitif â phosib wrth gwblhau'r gwaith adeiladu ac ry'n ni yn awyddus i gydweithio gyda chymdogion."
Siaradodd Michael Rennie fel aelod o'r cyhoedd, gan ddweud y byddai'r cynllun yn "sefyll mas" ac yn "andwyol i'r tirlun hanesyddol".
"Dwi ddim yn derbyn bod angen dymchwel yr adeilad presennol. Mae'n bosib ei addasu i'w wneud yn fwy effeithlon. Pam bod pobl yn awyddus i newid hyn?"
Cafodd y cynllun gefnogaeth o 15 pleidlais i 1, gydag amodau.
Fe wnaeth aelodau'r pwyllgor benderfynu dirprwyo'r gymeradwyaeth derfynol i swyddogion cynllunio'r parc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021