Carcharu dyn o Ynys Môn am droseddau terfysgaeth asgell dde

  • Cyhoeddwyd
Samuel WhibleyFfynhonnell y llun, Heddlu

Mae dyn o Ynys Môn - ynghyd â thri arall - wedi ei garcharu am fod yn rhan o grŵp terfysgol asgell dde eithafol.

Cafwyd Samuel Whibley, 29 o Borthaethwy, yn euog o wyth cyhuddiad yn ymwneud â therfysgaeth.

Roeddent yn cynnwys cyhuddiadau o annog terfysgaeth ac o ddosbarthu cyhoeddiadau terfysgol.

Daeth heddlu gwrthderfysgaeth o hyd i arfau ym meddiant aelodau'r grŵp, yn ogystal â chemegau, llyfrau'n amlinellu sut i greu ffrwydron yn ogystal â negeseuon testun a fideos asgell dde eithafol.

Cafodd Whibley ddedfryd o 10 mlynedd dan glo, ac ar ôl cael ei ryddhau, bydd yn wynebu Gorchymyn Atal Troseddau Difrifol, a gorchymyn hysbysu pellach am 30 mlynedd.

Mae tri o bobl arall wedi eu dedfrydu hefyd.

Cafwyd Daniel Wright, Liam Hall a Stacey Salmon, o Keighley yn Sir Efrog, yn euog o gyfanswm o 18 trosedd yn dilyn achos yn Llys y Goron Sheffield.

Cafodd y tri ddedfrydau o rhwng 12 a thair blynedd yn y carchar.

Pynciau cysylltiedig