Cymraeg clir: 'Ry'n ni'n colli hyder pobl drwy ddefnyddio jargon'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

I ba raddau mae gweinidogion a gweision sifil yn dilyn eu cyngor nhw eu hunain?

A oes angen i weinidogion a gweision sifil Llywodraeth Cymru "ymrwymo" i "ffocysu" ar "drawsnewid" eu defnydd o iaith?

Dylid osgoi defnyddio 14 gair, yn ôl y llywodraeth, oherwydd "ry'n ni'n colli hyder pobl drwy ddefnyddio jargon".

Mae'r llywodraeth o'r farn bod y geiriau hyn yn aml "yn rhy gyffredinol ac amwys, a gallant arwain at gamddehongli neu destun dibwrpas".

Y cyngor yw y dylid osgoi defnyddio'r geiriau hyn (gydag esboniadau'r llywodraeth mewn cromfachau):

  • agenda (heblaw ar gyfer cyfarfod)

  • ymrwymo neu addo (mae angen bod yn fwy penodol - rydym un ai yn gwneud rhywbeth neu ddim)

  • deialog (ry'n ni'n siarad â phobl)

  • hwyluso (yn hytrach, dywedwch rywbeth penodol ynghylch sut rydych yn helpu)

  • ffocysu

  • maethu (heblaw wrth sôn am blant)

  • trosfwaol

  • hyrwyddo (heblaw eich bod yn siarad am ymgyrch hysbysebu neu farchnata arall)

  • cadarn

  • cryfhau (heblaw ei fod yn cryfhau pontydd neu strwythurau eraill)

  • taclo neu ymgodymu (heblaw ei fod am rygbi, pêl-droed, neu ryw chwaraeon arall)

  • trawsnewid (beth ydych chi'n ei wneud i'w newid?)

Disgrifiad o’r llun,

Nod Llywodraeth Cymru yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae'r rhestr yn rhan o ganllaw arddull, dolen allanol i unrhyw un sy'n ysgrifennu ar gyfer gwefan Llywodraeth Cymru.

Ond i ba raddau mae gweinidogion yn dilyn y cyngor?

Wrth edrych ar gofnod trafodion y ddau gyfarfod llawn olaf cyn toriad yr haf yn y Senedd, dyma ddywedodd gweinidogion, mewn datganiadau a baratowyd gan weision sifil ac wrth ateb cwestiynau yn seiliedig ar eu cyngor:

Y Prif Weinidog Mark Drakeford - "rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod".

Y gweinidog iechyd Eluned Morgan - "roedd ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, yn cynnwys ymrwymiad..."

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles - "mae'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn ymrwymo i gyflwyno'r camau rwy'n eu datgan heddiw"; "mae hefyd 10 awdurdod lleol yn ffocysu ar symud ysgolion presennol ar hyd y continwwm ieithyddol"; "beth mwy gallwn ni ei wneud er mwyn cryfhau ein gallu i gynllunio ar y sail honno?".

Y gweinidog cyllid Rebecca Evans - "gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn y byrdymor o ran yr agenda i ddiwygio'r dreth gyngor", ac "mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig hefyd yn gallu arfer pŵer i wneud unrhyw beth i wella neu hyrwyddo lles economaidd eu hardaloedd".

Gweinidog yr economi Vaughan Gething - "ein hagenda gwaith teg a diogelu'r amgylchedd... ac rwy'n ymwneud â rhai o'r agendâu polisi anghyson a gwrthnysig yn Llywodraeth y DU ar ffiniau a'n masnach barhaus".

Ni wnaeth unrhyw weinidog ddefnyddio "trosfwaol", hynny yw, cyffredin, cynhwysfawr, eang.

Mae 31 gair i'w hosgoi yn Saesneg, yn ôl y canllaw, gan gynnwys: deliver, empower, initiate, key, streamline, tackling, utilise.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "llai o eiriau Cymraeg ar y rhestr oherwydd ni fydd gan bob un o'r geiriau ar y rhestr Saesneg air sy'n cyfateb yn y Gymraeg".

"Pan fydd testun ar gyfer y wefan wedi'i ddrafftio yn Saesneg, caiff unrhyw jargon ei osgoi gan gyfieithwyr fel arfer wrth gyfieithu i'r Gymraeg," meddai.

'Agored ac yn benodol'

Mae'r canllaw arddull hefyd yn rhoi cyngor i osgoi defnyddio trosiadau, oherwydd "dy'n nhw ddim yn dweud yr hyn yr ydych yn ei olygu, a gallant olygu bod pobl yn cymryd mwy o amser i ddeall".

"Er enghraifft gyrru (gallwch yrru cerbydau, ond nid cynlluniau na phobl)," meddai'r canllaw.

"Gyda'r rhain i gyd, gallwch ddefnyddio geiriau sy'n disgrifio yn union beth yr ydych yn ei wneud, yn hytrach na'r trosiad.

"Byddwch yn agored ac yn benodol."

Mae Arddulliadur BydTermCymru, dolen allanol, sy'n adnodd i gyfieithwyr, yn cynnwys mwy o enghreifftiau o jargon yn y Gymraeg ac yn dadansoddi pam bod y math hwn o air weithiau yn mynd dan groen darllenwyr.

Mae'n awgrymu, er enghraifft, "pennu hyd a lled" yn lle "cwmpasu", a "cyd-fynd" neu "gydweddu" yn lle "alinio".