Cwmni arwerthwyr teuluol yn dathlu 125 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Evans BrosFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y cwmni yn Llanybydder, a bellach mae swyddfeydd yn Aberaeron, Llanbed a Chaerfyrddin

"Dwi'n falch fy mod yn cael gweithio i gwmni'r teulu er doedd dim pwysau chwaith - ond mae'r cyfan yn sicrhau fy mod yn parhau y traddodiad ac yn cael byw yng nghefn gwlad," medd Ffion Evans.

Ffion, 22, yw aelod diweddaraf teulu Evans Brothers i ymuno â'r cwmni o arwerthwyr, a'r penwythnos hwn fe fydd y cwmni a sefydlwyd gan ddau frawd yn Llanybydder yn 1895 yn dathlu 125 mlynedd o fodolaeth.

"Mae'n rhyfeddol i ddweud y gwir bod y cwmni wedi aros yn yr un teulu ers y cychwyn cynta' 'na yn Llanybydder," meddai Ffion.

"Ro'n ni fod dathlu ddwy flynedd yn ôl - ond fe ddaeth Covid ac fe fydd y dathliad hwn felly yn arbennig iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y bwrlwm yn Llanybydder ar ddiwrnod mart

Mae'r cwmni wedi ehangu yn sylweddol erbyn hyn wrth iddyn nhw gynnal mart yn Llanybydder bob dydd Llun, mart gwartheg unwaith y mis ar ddyddiau Sadwrn ac arwerthiant ceffylau llwyddiannus ar ddydd Iau ola'r mis.

Mae yna hefyd swyddfeydd gwerthu eiddo yn Aberaeron, Llanbed a Chaerfyrddin, gyda thai yn cael eu gwerthu mor bell â Machynlleth yn y gogledd i ardaloedd Caerfyrddin a Llandeilo yn y de.

John Morgan Evans a Daniel Charles Evans a sefydlodd y cwmni - dau frawd o deulu o naw o blant gyda'r rhieni Daniel a Margaret Evans yn denantiaid ar fferm Dolau Uchaf ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gâr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae mart Llanybydder wedi denu torf ers y dyddiau cynnar ar droad yr 20fed ganrif

Sefydlu'r mart a wnaed gyntaf, ac yn fuan roedd yn denu prynwyr a gwerthwyr o bob cwr gan gynnwys Yr Almaen.

Wedi marwolaeth John yn 1931 ymunodd dau frawd arall â'r cwmni, ac ers hynny mae amrywiol ddisgynyddion wedi bod â rhan flaenllaw yn yr arwerthu.

"Graddio yn Naearyddiaeth 'nes i yn Aberystwyth yn 2021 ac wedi hynny ro'dd e'n gam eitha' naturiol i ddod nôl i'r ardal a gweithio i'r cwmni," meddai Ffion.

"Doedd 'na ddim pwysau o gwbl - doedd gan fy mrawd, er enghraifft, ddim diddordeb nac aelodau iau eraill y teulu.

"Ond rwy' wrth fy modd ac mae 'na bleser mawr yn y gwaith. Does dim rheolaeth 'da ni wrth gwrs pwy sy'n prynu ond mae'n braf gallu gwerthu tai i bobl ifanc lleol.

"Mae pobl o bant yn dueddol o fynd am small holdings ac yn aml ffermwyr lleol yn mynd am ffermydd sy'n ffinio."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae mart ceffylau Llanybydder yn denu pobl o bell ac agos

Dywed Ffion hefyd ei bod yn braf gweld yr arwerthiannau anifeiliaid yn dychwelyd yn llawn wedi Covid.

"Mae prisiau y mart wedi torri sawl record yn ddiweddar ac mae cryn fynd ar dai hefyd wedi Covid.

"Mae rhywun yn ymwybodol bod y prisiau wedi codi lot - a maent llawer yn uwch na chyflogau pobl ond mae 'na alw ac mae prisiau tai ond yn adlewyrchu y cynnydd mewn costau byw."

Cwmni Evans Brothers yw un o'r cwmnïau annibynnol mwyaf yn y gorllewin, ac mae'n cyflogi rhwng 25 a 30 o bobl.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ffion, yn y canol ar y dde, yn cofnodi'r gwerthiant gyda'i thad Mark Evans

"Dwi mor falch ein bod ni yma o hyd a bod y dyfodol yn llewyrchus. Mae'n bwysig cael cwmnïau fel hyn yng nghefn gwlad," meddai Ffion.

"Bydd nos Sadwrn yn noson i'w chofio yma yn Llanybydder wrth i ni o'r diwedd gael dathlu 125 blwyddyn - neu 127 bellach! - o fodolaeth.

"Fe fydd 'na ocsiwn, band a bwyd, gyda'r elw yn mynd at dair elusen agos i'n calon ni yng nghefn gwlad Cymru - mae elusennau Tir Dewi, DPJ a Rabi yn gwneud gwaith arbennig yn cefnogi y gymuned amaethyddol.

"Ni'n edrych 'mlaen i ddathlu'n pen-blwydd yn 150 a mwy - gan symud ymlaen gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i gwrdd â gofynion cefn gwlad Cymru."