Phil Bennett: Dadorchuddio cerflun i un o sêr rygbi mwyaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun wedi ei ddadorchuddio yn mhentre Felinfoel i dalu teyrnged i un o feibion y pentref ac un o'r sêr mwyaf yn hanes rygbi Cymru a'r byd.
Dim ond 29 o weithiau y chwaraeodd Phil Bennett dros Gymru, ac wyth o weithiau dros y Llewod, ond mae'n cael ei gyfrif yn un o'r maswyr gorau erioed.
Cafodd gwmni rhai o'i gyd-chwaraewyr gyda Chymru a'r Llewod yn ogystal â rhai o garfan bresennol y Scarlets wrth i'r cerflun gael ei ddadorchuddio.
Breuddwyd ysgrifennydd clwb rygbi Felinfoel, Clive Richards oedd creu'r cerflun, er mwyn dangos i Phil Bennett gymaint mae pobl yr ardal yn feddwl ohono.
"Ro'n i'n siarad â ffrind i mi ryw chwe mis yn ôl a mi ddechreuon ni siarad am Phil Bennett, am yr oll mae e wedi gyflawni a mi benderfynon ni wneud rhywbeth i gofio amdano yn barhaol," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Aethon ni lawr i weld y cerflunydd, Simon Hedger a wedyn mynd ati i godi'r arian.
"Mae Phil Bennett yn arwr, ac yn llysgennad rygbi Cymru ac mi oedden ni am ddangos be mae'r gymuned yn feddwl ohono."
Mae'r cerflun wedi ei gerfio o bren, gyda'r maswr byd enwog yn cael ei gynnal gan ddraig a llew, i gynrychioli Cymru a'r Llewod.
Costiodd y cerflun tua £7,500 i'w greu a'i osod - arian a gasglwyd gan y gymuned, i ddangos eu gwerthfawrogiad.
"Rodd y seremoni yn eitha emosiynol," meddai Clive Richards, "ac mi ddywedodd Phil ryw air neu ddau i ddiolch ac roedd e yn emosiynol hefyd."
Roedd ei blant, ei wyrion a'i deulu i gyd yno, yn ogystal â Ken Owens a Jonathan Davies o dim presennol y Scarlets, a Delme Thomas a Roy Bergiers - dau o'i gyd-chwaraewyr yn nhîm Llanelli a drechodd y Crysau Duon o 9-3 yn 1972.
"Mae Phil wedi rhoi cymaint i'r pentre ac rodd e'n dweud yn glir [yn ystod y seremoni dadorchuddio] fod e wedi chwarae cwpwl o gemau i Felinfoel hefyd.
"Ro'dd yn fraint ac yn anrhydedd i fod yno."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021