Diwedd cydweithio Môn a Gwynedd ar bolisi cynllunio?
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i ddau o gynghorau'r gogledd fynd ar eu liwt eu hunain yn hytrach na pharhau i gydweithio ar osod polisïau cynllunio yn y dyfodol.
Ers 2010 mae Môn a Gwynedd wedi rhannu un adran polisi cynllunio mewn ymgais i arbed arian tra'n datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Lleol.
Mae'r ddogfen yn ffurfio asgwrn cefn polisïau cynllunio'r ddwy sir, dolen allanol, gan ddatgan ble dylid adeiladu hyd at 8,000 o dai a sefydlu safleoedd cyflogaeth dros gyfnod o 15 blynedd.
Ond gyda'r cynllun cyfredol dadleuol yn dod i ben yn 2026, bwriad y cynghorau yw bwrw ymlaen ar eu liwt eu hunain wrth ddatblygu cynlluniau unigol o hyn allan.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y ddau gyngor bod y penderfyniad wedi'i wneud "yn sgil y newidiadau sydd wedi bod i'r cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol" ers 2011.
Bydd y mesur ysgaru yn mynd gerbron cynghorau Môn a Gwynedd yn unigol yn ystod mis Gorffennaf i gael sêl bendith cynghorwyr.
Pryderon ynglŷn â'r polisïau
Sefydlwyd Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn yn 2011, gyda'r dyletswydd o lunio Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Ond er mabwysiadu'r cynllun yn unigol gan y ddau gyngor yn 2017, cael a chael oedd hi gyda Chyngor Gwynedd ond yn derbyn y cynllun o drwch blewyn.
Roedd rhai ymgyrchwyr iaith wedi rhybuddio y byddai codi cynifer o dai yn golygu lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg y ddwy sir.
Ers hynny mae pryderon hefyd wedi'u datgan o fewn rhengoedd y ddau gyngor, gan gynnwys haeriadau bod y polisïau cyfredol yn gweithio'n erbyn rhai pobl leol sy'n ceisio adeiladu tai o fewn eu cymunedau.
Tra bod Môn a Gwynedd yn gwneud penderfyniadau cynllunio ar wahân, mae cynllun ffurfiol yn ofyniad statudol er mwyn ffurfio'r polisïau angenrheidiol.
'Ein hanghenion a'n gofynion ein hunain'
Y llynedd fe ddadleuodd un cynghorydd o blaid Gwynedd yn torri'n rhydd o'r cynllun ar y cyd gyda Môn, gan honni nad oedd o fudd i bobl y sir.
Dywedodd y cyn-gynghorydd, Mike Stevens: "Mae gynnon ni swyddogion sy'n cael eu talu gan drethdalwyr yng Ngwynedd ond yn gweithio ar bethau ar Ynys Môn.
"Dwi ddim yn deall pam fod gennym ni gynghorwyr yng Ngwynedd hefyd yn doethinebu ar yr hyn sy'n digwydd ym Môn pan maen nhw'n cael eu hethol gan bobl Gwynedd.
"I'r gwrthwyneb, dydw i ddim yn deall pam fod gynnon ni gynghorwyr ar Ynys Môn sydd ddim yn atebol i drethdalwyr Gwynedd, yn doethinebu ar faterion yng Ngwynedd - mae gennym ni ein hanghenion a'n gofynion ein hunain."
Mewn ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd bod "achos busnes cryf" dros barhau i gydweithio, gan hefyd osgoi dyblu llwyth gwaith ar ddwy ochr y Fenai.
"Mae'r manteision i'r ddau awdurdod yn cynnwys dod â swyddogion o'r ddau gyngor ynghyd sydd ag ystod o arbenigedd cynllunio sydd wedi bod ar gael i'r ddau awdurdod er mwyn cynllunio tuag at ddiwallu anghenion yr ardal yn y dyfodol."
'Dirwyn y trefniant presennol i ben'
Ond erbyn hyn mae'n ymddangos fod y ddwy sir yn bwriadu torri cwys eu hunain.
Cadarnhaodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, bod trafodaethau ar ddirwyn y trefniant presennol i ben wedi digwydd ers ddechrau'r flwyddyn.
"Erbyn hyn rydym wedi dod i'r casgliad y dylid argymell i fwrw mlaen i ddirwyn y trefniant bresennol i ben," meddai. "Mi fydd Ynys Môn a ninnau yn trafod y mater yn fuan iawn yn eu pwyllgor gwaith nhw a'n cabinet ni.
"Os byddant yn cydsynio bydd y ddwy sir yn datblygu eu cynllun datblygu lleol newydd ar wahân."
'Newidiadau ers 2017'
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn wrth Cymru Fyw nad oedd unrhyw anghydfod wedi bod rhwng y ddau gyngor ac y byddant yn parhau i fanteisio ar gyfleon i gydweithio.
Ychwanegodd Llinos Medi bod dyfodiad Cyd-bwyllgorau Corfforedig - pwyllgorau rhanbarthol sydd wedi'u sefydlu gan Lywodraeth Cymru i wneud rhai penderfyniadau o ran cydlynu trafnidiaeth a chynllunio - wedi bod yn ffactor, er bod sawl cyngor yn anghytuno gyda'u dyfodiad.
"Amseriad ydi o yn bennaf - i ni wnaeth o weithio yn 2017 i greu cynllun ar y cyd a rŵan mae o'n gweithio i ni greu uned polisi ein hun," meddai.
"Mae 'na newidiadau wedi bod ers 2017 hefyd gyda dyfodiad y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a mae 'na elfen o ddatblygu polisi cynllunio rhanbarthol hefyd.
"'Da ni yn edrych ar y costau rŵan o greu uned ein hunain. Mae 'na gost ychwanegol ond mae'n debyg byddai angen sefydlu un p'run bynnag mewn ymateb i'r pwyllgorau newydd.
"Ond mi fyddwn yn parhau i gydweithio â Gwynedd cyhyd â mae'r cynllun presennol dal yn ei le, ac mae adnabod llefydd lle allwn wneud pethau ar y cyd dal yn flaenoriaeth i ni."
Dirwyn y trefniant presennol i ben
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y ddau gyngor: "Mae'r trefniadau cydweithio wedi bod yn cael eu hystyried gan dimau rheoli y ddau gyngor, ac yn arbennig felly wrth i gyfnod y cytundeb cydweithio presennol ddod i ben ddiwedd Gorffennaf 2022, a chyn cychwyn ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.
"Fel rhan o'r broses yma, daethpwyd i gasgliad ar y cyd y dylid argymell i Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn i fwrw ymlaen gyda phroses i ddirwyn y trefniant presennol i ben.
"Mae hyn yn sgil y newidiadau sydd wedi bod i'r cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ers sefydlu'r trefniant yn 2011, a'r amcan gan y ddau awdurdod i gael Gwasanaethau Polisi Cynllunio a Chynlluniau Datblygu Lleol Diwygiedig ar wahân sydd yn cwrdd â gweledigaethau, dyheadau ac anghenion yr awdurdodau unigol.
"Bydd y cynghorau yn parhau i gydweithio gyda'r trefniadau ar gyfer monitro'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd cyfredol yn ogystal a phan fydd cyfleon yn codi. Ond os bydd Cabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Môn yn cydsynio, bydd y ddwy sir yn llunio eu Cynllun Datblygu lleol newydd ar wahân."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2020