'Pryder mawr' am byllau nofio yn sgil cynnydd costau

  • Cyhoeddwyd
Mae canolfan hamdden Llandysul eisoes wedi gorfod torri ar wasanaethau gan eu bod yn rhagweld colli tua £7000 y mis.
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan hamdden Llandysul eisoes wedi gorfod torri ar wasanaethau gan eu bod yn rhagweld colli tua £7,000 y mis

Mae ansicrwydd ynglŷn â dyfodol nifer o byllau nofio yng Nghymru ar ôl i gostau ynni gynyddu'n sylweddol yn ddiweddar.

Dyna'r rhybudd gan gorff llywodraethu nofio yng Nghymru gan fod cost gwresogi pyllau wedi treblu mewn rhai achosion oherwydd y cynnydd yng nghost olew a nwy.

Mae hyn wedi arwain at leihau nifer y sesiynau nofio mewn rhai pyllau.

Mae Nofio Cymru yn dweud bod y cynnydd mewn costau ynni yn 'bryder mawr' ac mae arolwg ar draws y Deyrnas Unedig yn awgrymu y gallai bron i 80% o byllau nofio'r DU fod dan fygythiad o gau yn y chwe mis nesaf.

Dywedodd Sioned Williams - Pennaeth Gweithgareddau Dŵr a Chynhwysiant Nofio Cymru: "Mae'n broblem fawr iawn ac mae'n rhoi straen sylweddol ar y diwydiant - mae ganddo'r potensial i greu rhwystrau i nofio yn y dyfodol.

"Mae nofio a gweithgareddau dŵr yn chwarae rhan hanfodol yn lles cymdeithasol a chorfforol y genedl.

"Mae'n sgil bywyd sy'n gallu achub bywydau plant ac oedolion a heb gael y pyllau nofio yn agored fe all greu niwed mawr i faint o bobl sy'n gallu nofio ac yn gallu achub eu bywyd os ydyn nhw mewn argyfwng."

Rhagweld colledion o £7,000 y mis

Un ganolfan hamdden sydd eisoes yn wynebu trafferthion yw Calon Tysul - canolfan sy'n eiddo i ac yn cael ei redeg gan aelodau'r gymuned yn Llandysul, Ceredigion.

Mae'r ganolfan eisoes wedi gorfod gwneud toriadau i'w wasanaethau fel ffordd o leihau costau gan ei fod yn rhagweld colli tua £7,000 y mis.

Y cynnydd yng nghost tanwydd yw'r brif reswm am y trafferthion, fel mae'r trysorydd Iestyn ap Dafydd wedi tystio.

"Blwyddyn yn ôl, roedden ni'n talu tua 40c y litr am yr olew i dwymo'r pwll, erbyn hyn, mae e lan at £1.10.

"Ry'n ni newydd ddechrau contract newydd gyda'r trydan hefyd ac mae hynny wedi mynd o £600 y mis i £1,800 y mis, tair gwaith y pris. Mae'r costau egni wedi mynd drwy'r to."

Mewn ymdrech i leihau costau mae nifer y sesiynau nofio cyhoeddus wedi lleihau wrth i'r ganolfan flaenoriaethu gwersi nofio i blant.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'r costau egni wedi mynd drwy'r to,' medd Iestyn ap Dafydd, trysorydd Canolfan Calon Tysul

Yn ôl rheolwr y Ganolfan, Matt Adams doedd dim modd osgoi'r penderfyniad.

"Ni 'di gorfod torri lawr ar yr oriau mae'r pwll ar agor yn eithaf sylweddol" meddai.

"Diolch byth, dydy e ddim wedi effeithio ar wersi nofio i blant ond mae e wedi effeithio ar faint o sesiynau ry'n ni'n gallu eu cynnig i'r cyhoedd. Ni 'di torri lawr o dros 50 awr yr wythnos i tua 30 yr wythnos."

Gyda dros dri chant a hanner o blant yn cael eu gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhwll nofio Llandysul bob wythnos, mae'r rheolwr yn dweud bod hynny wedi bod yn ffactor pwysig wrth benderfynu lle i wneud toriadau hefyd.

"Yn amlwg, roedd hyn yn gorfod bod yn flaenoriaeth" meddai. "Fel egwyddor, ry'n ni fel ymddiriedolwyr a rheolwr eisiau gwneud yn sicr bod y gwersi nofio yn parhau."

Disgrifiad o’r llun,

"Ni 'di gorfod torri lawr ar yr oriau mae'r pwll ar agor yn eithaf sylweddol" medd Matt Adams, rheolwr Canolfan Calon Tysul

Mae gan Calon Tysul bump o staff craidd a 10 staff achlysurol - bu'n rhaid cwtogi oriau rhain er mwyn gwneud arbedion.

Mae'r ganolfan hefyd yn bwriadu gosod paneli solar er mwyn lleihau'r biliau trydan a chyflwyno dull mwy cynaliadwy o gynhesu dŵr y pwll nofio.

Yn ôl Nofio Cymru mae pyllau eraill ar draws Cymru yn wynebu'r un heriau â Chalon Tysul.

"Da ni wedi gweld rhai pyllau yn barod yn gorfod lleihau amser agor nhw, a rhai wedi gorfod gostwng tymheredd y dŵr," meddai Sioned Williams.

"Ond mae'n bwysig nodi nid dyma'r unig her mae'r sector yn wynebu ar y funud - yn ogystal mae problemau staffio, a phrinder cemegion felly bydd Nofio Cymru yn parhau i gefnogi a chynorthwyo ein partneriaid er mwyn sicrhau bod gan bob aelod o'r cyhoedd fynediad at amgylchedd dyfrol diogel a chroesawgar."

Mae arolwg gan gorff sy'n hyrwyddo canolfannau hamdden ar draws y Deyrnas Unedig yn rhybuddio bod "pyllau nofio yn wynebu bygythiad dirfodol yr haf hwn" oherwydd gallai prisiau ynni achosi i lawer iawn fynd i'r wal.

Yn ôl arolwg ukactive fe allai 79% o byllau nofio ar draws y DU gael eu gorfodi i gau eu drysau yn y chwe mis nesaf.

Mae'r arolwg yn amcangyfrif bod y gost o gynhesu'r pyllau nofio wedi cynyddu yn aruthrol - o gyfanswm o £500 miliwn y flwyddyn yn 2019, i £1.25 biliwn eleni.

Ar ben hyn, mae prinder byd eang o clorin - y cemegyn sy'n lladd bacteria mewn pyllau nofio - yn golygu bod cynnydd sylweddol yn ei bris gyda rhai pyllau yn dweud nad ydyn nhw wedi gallu prynu clorin o gwbl.

Mae Nofio Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd nofio gan amlygu ymchwil wnaeth ganfod bod 52% o blant Cyfnod Allweddol 2 yn gadael ysgolion cynradd heb y gallu i nofio 25m heb gymorth.

'Rhaid aros ar agor er mwyn y gymuned'

Yn Llandysul, er gwaetha'r heriau mae staff a gwirfoddolwyr canolfan Calon Tysul yn benderfynol o ymladd i gadw'r adnoddau ar agor.

Cafodd y ganolfan ei chodi yn wreiddiol gan y gymuned - a thra ei bod hi ar gau yn ystod cyfnod Covid fe wnaeth cannoedd o bobl leol barhau i dalu'r ffi aelodaeth er nad oedd modd defnyddio'r adnoddau.

"Fydden ni ddim ar agor heb gefnogaeth y gymuned" meddai Iestyn ap Dafydd, y trysorydd.

"Nid yn unig bod y gymuned yn defnyddio'r gwasanaeth ond mae pobl yn byw yma sydd wedi dysgu nofio yma, sydd wedi dod â'u plant yma i ddysgu nofio, sydd bellach yn dod yma ar gyfer eu hanghenion ffitrwydd wrth heneiddio. Ry'n ni'n helpu pob cyfran o gymdeithas ac mae pawb yn deall pwysigrwydd y lle."

Ategodd y rheolwr, Matt Adams hyn drwy ddweud: "Dechreuodd y lle yng nghanol y 70au drwy gefnogaeth y gymuned. Nhw oedd eisiau gwireddu y syniad o gael pwll nofio, nhw oedd yn ymladd, codi'r arian i gyd…Mae e wir wedi bod yn rywbeth cymunedol erioed."

Pynciau cysylltiedig