'Mae 'na lot o resymau pam na ddylwn i fod yn fyw heddiw'
- Cyhoeddwyd
O flaen torf o filoedd yn Glastonbury, fe wnaeth y band Self Esteem argraff gyda'u perfformiad egnïol o ganeuon am sut mae menywod yn cael eu trin mewn cymdeithas. Ar y llwyfan roedd Cymraes oedd yn canu o brofiad ac yn ffodus o fedru bod yno o gwbl.
Mae Marged Sion o Gaerdydd yn un o dair lleisydd a dawnswyr sy'n rhan o grŵp Rebecca Lucy Taylor fu'n teithio Prydain ac America yn ddiweddar.
Ond mae'r llwyddiant i'r Gymraes wedi dod ar ôl cyfnod anodd yn ei bywyd pan roedd hi'n gaeth i alcohol a chyffuriau yn dilyn ymosodiad rhyw ac wedi iddi fod mewn perthynas dreisgar.
Meddai: "Wnaeth y trawma wneud i fi fynd i lefydd uffernol, uffernol o dywyll ac o achos hynny mae 'na lot o resymau pam na ddylwn i fod yn fyw heddi."
'Mae dewis yn gadael dy fywyd'
Mewn rhaglen S4C, Hunan Hyder, sy'n dilyn y grŵp ar eu taith, mae Marged yn trafod effaith y trawma arni:
"Fi'n teimlo bod fi'n gallu siarad am hyn nawr bod fi yn dod at diwedd fy ugeiniau a fi'n teimlo yn gyfforddus i ddweud y stwff yma heb bod fi'n teimlo bod fi'n trio tynnu sylw at fy hunain.
"Oedd dechrau fy ugeiniau yn trawmatig yn yr ystyr ges i fy nhreisio pan o'n i'n 21.
"Nes i dreulio blwyddyn mewn iselder, yn yfed ac yn cymryd cyffuriau, a dwi'n teimlo nes i atynnu'r egni o'n i ynddo. Nes i ddiweddu mewn perthynas dreisgar o'dd 'di para bron i bum mlynedd, ac yn ystod yr amser yna nes i ddatblygu caethiwed i alcohol a chyffuriau.
"Fi'n cofio pan ges i'r emotional nervous breakdown a teimlo bod dim croen gyda fi. Ro'n i'n teimlo bod fi'n cerdded a bod dim croen ac os fydde rhywun wedi rhoi halen arna fi fydde fe wedi llosgi.
"Nath e gymryd sbel i fi allu wneud unrhyw beth heb alcohol - mynd ar y bws, mynd i'r gwaith, ffonio rhywun.
"Mae rhywbeth am fod yn rhywun sydd wedi goroesi trais a pherthynas treisgar, lle mae dewis yn gadael dy fywyd di."
Mae Marged yn dweud bod y profiad o fynd at yr heddlu yn sgil y trais wedi bod yn un "erchyll" ond bod Solace Women's Aid wedi ei helpu'n fawr.
Mae hi hefyd wedi gwneud newidiadau i'w bywyd sydd wedi ei chryfhau, yn cynnwys rhoi'r gorau i alcohol yn gyfan gwbl ers dwy flynedd.
'Fi'n teimlo'n hollol saff ar y llwyfan'
Ffactor arall yn ei hadferiad ydi bod yn rhan o Self Esteem.
Meddai: "Ma' bod ar y llwyfan yn golygu bo' fi'n gallu ail-berchnogi fy nghorff bob nos. Wy'n gallu symud fy nghorff a does neb yn gallu cyffwrdd fi tra bo' fi'n neud e'. Fi'n teimlo'n hollol saff ar y llwyfan ac ma'n rhoi lle i fi am y tro cyntaf yn fy mywyd i fod yn grac. Ni sy'n dewis pryd da'n ni'n symud a pa egni ni'n rhoi mas.
"Mae Self Esteem yn fand sy'n grymuso y gwrandawyr a fi'n meddwl taw dyna pam mae pobl yn dod i'r sioe, mae pobl yn gadael y sioe yn teimlo rhyw fath o iwfforia o be fi'n deall o be' fi di clywed gan bobl."
Yn ferch i'r cerddor Delwyn Siôn, mae canu wedi bod yn rhan o fywyd Marged erioed ac mae ei magwraeth wedi ei helpu yn ei gyrfa a'i bywyd personol.
Meddai: "Capel oedd lle nes i ddechrau dysgu sut i berfformio, sut i ddelio gyda nerfau mynd o flaen pobl i ganu a'r peth mwya' prydferth am fod yn capel ydi dy fod di'n canu o flaen pobl sy'n dy garu di a pobl sydd am fod yn rili neis efo ti os ti'n neud camgymeriadau.
"O'n i wastad â dylanwad a neges yn y tŷ o'r ffaith bod ti'n ymladd am be sy'n iawn, a ti'n symud mewn cariad i 'neud e. Pan ti mewn adegau o dywyllwch, ti'n creu goleuni dy hunan."
Mae Hunan Hyder ar gael i'w wylio ar S4C Clic, dolen allanol, BBC iPlayer a Youtube , dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: