Ysbyty Llwynhelyg: 'Dim cynllun amgen' medd prif swyddog

  • Cyhoeddwyd
Arwydd uned frys Ysbyty Llwynelyg

Does dim cynllun amgen o ran ad-drefnu ysbytai gorllewin Cymru, meddai arweinydd y bwrdd iechyd, wrth i wleidyddion drafod newidiadau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eisiau adeiladu ysbyty newydd ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Benfro.

Yn y pen draw byddai'n golygu israddio ysbytai Llwynhelyg yn Hwlffordd a Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Ond mae 'na boeni am y pellter a'r amser ychwanegol y byddai'n cymryd i deithio o arfordir Sir Benfro i'r ysbyty newydd.

Beth ydy'r cynllun?

Mae'r ddadl dros ddyfodol Ysbyty Llwynhelyg wedi bod yn rhygnu er dros ddegawd.

Mae'r bwrdd iechyd am israddio'r safle fel rhan o gynllun ehangach i gryfhau gwasanaethau iechyd yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.

Y bwriad yw codi ysbyty newydd ar un o bum safle sydd o dan ystyriaeth, yn ogystal â chanolfannau iechyd a lles lleol.

Mae'r bwrdd yn dweud bod adeiladu ysbyty newydd yn hanfodol - gyda'r prif weithredwr yn cyfaddef nad oes cynllun arall o ran ad-drefnu'r gwasanaethau.

Ond gyda dros 11,000 yr arwyddo deiseb i'r Senedd yn gwrthwynebu israddio Llwynhelyg - mae'n bwnc llosg.

Mae Aelodau'r Senedd wedi bod yn trafod dyfodol Ysbyty Llwynhelyg ar ôl derbyn y ddeiseb.

'Mae'n hanfodol'

"Fy nheimlad i yw, ni'n byw lan yng ngogledd Sir Benfro fan hyn a mae'n hanfodol bod gwasanaethau brys yn aros mor agos â phosib i'r ardal", medd y Cynghorydd Huw Murphy o ardal Trefdraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Llwynhelyg y dylai'r gwasanaethau brys aros, yn ôl Huw Murphy

"Yn fy marn i, yn Ysbyty Llwynhelyg ddyle'r gwasanaethau yma gael eu cynnal.

"Fy nheimlad i yw, bydde cael ysbyty newydd, mor dda fyddai hynny, bydde fe'n rhoi 40 munud ar ben yr awr ry'n ni o Ysbyty Llwynhelyg nawr a ma' hynna'n hollol ddibynnol ar ba mor gyflym fyddai'r ambiwlans yn cyrraedd yr argyfwng yn yr ardal hyn.

"Dwi'n gwrthwynebu unrhyw syniad o gau Ysbyty Llwynhelyg. Hoffen i gadw gwasanaethau brys lawr fan 'ny."

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mae nifer o'u hysbytai mewn adeiladau sy'n hen ac sydd bellach ddim yn addas ar gyfer gofalu am gleifion.

Mae 'na broblemau staffio hefyd - ac felly mae'n hanfodol codi ysbyty newydd.

Mae'r safleoedd posib ar gyfer yr ysbyty newydd yn Arberth, dau leoliad yn Sanclêr, tra bod dau leoliad hefyd yn Hendy-gwyn ar Daf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Morgan yn "becso os bydd rhywun yn gorfod teithio dros awr i fynd i ysbyty brys"

I'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal mae 'na gryfderau a gwendidau i'r cynllun newydd.

"I fod yn onest, rwy'n becso amdano fe", meddai Jane Morgan o Siop Llawn Cariad yn Sanclêr, ond sy'n byw yng Nghaerfyrddin.

"Ma' nhw'n cau gymaint o ysbytai bach a wedyn ma' nhw'n mynd i 'neud yr un mawr hyn ond does gyda ni ddim yr hewlydd i fynd atyn nhw a ma' llawer o bobl yn byw yng nghefn gwlad.

"Mae eu teithiau nhw yn mynd i fod yn hir iawn i fynd i ysbyty a os maen nhw'n gorfod mynd ar frys, dwi'n becso os bydd rhywun yn gorfod teithio dros awr i fynd i ysbyty brys. Ma' hwnna yn ormod i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Deri Page ydy y bydd ysbyty newydd yn lleihau'r straen ar wasanaethau

Mae Deri Iwan Page, sy'n gigydd yn Sanclêr ond sy'n byw yn Arberth, yn credu ei fod yn syniad da.

"Dwi'n credu bydd e'n dda i'r pentref os bydd yr ysbyty yn dod lan i'r safle fel ma' nhw 'di gweud, lawr bwys roundabout y McDonalds newydd.

"Fi'n credu bydd e'n denu gwaith a chwsmeriaid lawr i'r pentref ond dwi yn gallu gweld bod e'n bach o straen i bobl Sir Benfro a phobl mas o amgylch Caerfyrddin i ddod lawr i'r pentref.

"Fi'n credu bod straen ar y gwasanaeth fel 'ma fe a gobeithio bydd yr ysbyty newydd yn gallu rhoi pethau'n iawn."

Ychwanegodd: "Fi'n credu falle bod Sanclêr yn bach fwy canolog i Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, falle bod y ddau yn cwrdd, a Hendy-gwyn hefyd, ma' hwnna reit yn y canol, ond gobeithio bydd system newydd gyda nhw fydd yn gallu cymryd llawer mwy o straen na mae Withybush a Glangwili yn cymryd nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 300 o bobl ynghyd i'r brotest tu allan i Ysbyty Llwynhelyg ym mis Chwefror

Dyw parhau gyda'r drefn fel y mae ddim yn opsiwn yn ôl y bwrdd iechyd, gyda'r Prif Weithredwr, Steve Moore yn dweud nad oes 'na gynllun arall.

I'r llawfeddyg Dr Owain Ennis, mae gwir angen ysbyty newydd gan fod "pethau wedi mynd mor anodd nawr o ran y gweithlu yn arbennig".

"Mae'n anodd iawn i gadw pobl i weithio. Mae'r ysbytai i gyd yn weddol fach yma a wedyn os oes ysbyty yn fwy o seis gyda ni, mae e llawer rhwyddach wedyn i ni gadw'r gweithlu i gyd yn un man a hefyd mae e'n codi safon y gwasanaethau ni'n gallu rhoi hefyd."

'Gofal yn dechrau llawer yn gynharach'

Dywedodd ei fod yn "derbyn y ffaith" y bydd teithiau pellach i rai cleifion, ond bod gofal wedi newid erbyn hyn.

"Ma' fe'n llawer fwy tebyg nawr na falle 10 mlynedd yn ôl, bod y gwasanaeth chi'n ei gael o'r first responders neu'r paramedics neu o'r ambulance service yn y lle cynta', mae llawer fwy ma' nhw'n gallu gwneud nawr na falle pum mlynedd, yn bendant 10 mlynedd yn ôl.

"Mae'r gofal yn dechrau llawer yn gynharach, ddim dim ond amser chi'n dod i'r adeilad newydd, felly mae hynny'n rywbeth sy'n bwysig iawn."

Ychwanegodd bod y sefyllfa o ran y gweithlu wedi gwaethygu.

"Er enghraifft, cyn y pandemig bydden i wedi gwneud falle pedwar neu bump claf oedd wedi torri clun mewn dydd, o ran theatr.

"Nawr, ma' gymaint o gaps gyda ni, dim ond tri gallwn ni wneud mewn dydd nawr, so ma' cyn lleied o driniaethau ni'n gallu eu gwneud oherwydd bod gymaint o broblemau gyda ni o'r gweithwyr."

'Gwella safonau gofal'

Yn y ddadl ar y mater yn y Senedd brynhawn Mercher fe wnaeth y gweinidog iechyd amddiffyn y cynlluniau, gan ddweud mai'r nod ydy gwella safon gofal.

"Mae'r cynnig i adeiladu ysbyty newydd, fydd â chyfleusterau gofal brys o'r safon uchaf, â'r nod o wella safonau gofal," meddai Eluned Morgan.

Dywedodd fod cleifion ar hyn o bryd yn "disgwyl yn hirach na'r hyn y bydden nhw'n dymuno am ei bod yn anodd recriwtio ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg".

"Ar gyfer y nifer fawr o bobl yng ngorllewin Cymru sy'n disgwyl am lawdriniaeth, fe fyddai'r gallu i wahanu achosion brys a gofal sydd wedi'i gynllunio yn gam positif ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gweinidog iechyd ei bod "yn anodd recriwtio ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg"

Dywedodd aelod Ceidwadol Preseli Penfro, Paul Davies fod pobl yn ei ardal yn "derbyn ein bod eisoes yn gorfod teithio ymhellach ar gyfer triniaeth arbenigol", ond y byddai "gorfodi ni i deithio ymhellach ar gyfer triniaeth allai achub bywyd a gwasanaethau brys yn hollol annerbyniol".

Ychwanegodd y bydd pobl mewn ardaloedd fel Tyddewi ac Abergwaun yn "cymryd ymhell dros awr i gyrraedd unrhyw gyfleusterau".

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell, fod "diffyg difrifol mewn buddsoddiad" wedi bod ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda o'i gymharu â byrddau eraill.

Ychwanegodd ei bod yn "allweddol" fod y bwrdd iechyd a'r llywodraeth yn sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn cael effaith ar allu cleifion i gael mynediad at wasanaethau brys.