Llofruddiaeth Logan Mwangi: Stori'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
Logan MwangiFfynhonnell y llun, S4C

"Dwi wedi neud cwpl o raglenni tebyg ond hon ydy'r anoddaf. Mae'n blentyn. Mae pob llofruddiaeth yn ofnadwy ond mae rhywbeth am lofruddiaeth plentyn sy'n llawer gwaeth."

Am 5.46yb ar ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf 2021, fe wnaeth mam o Ben-y-bont ar Ogwr alwad ffôn i'r heddlu i ddweud fod ei mab pum mlwydd oed ar goll.

Erbyn hyn mae'r fam, Angharad Williamson, ynghyd a'i phartner John Cole a Craig Mulligan, sy'n 14 oed, wedi eu cael yn euog o lofruddio y bachgen, Logan Mwangi.

Un sy' wedi cydweithio'n agos gyda'r heddlu yn ystod yr ymchwiliad fyw yw'r cynhyrchydd Iwan Roberts, sy' wedi dilyn yr ymchwiliad o'r cychwyn ar gyfer rhaglen ddogfen ar S4C, Llofruddiaeth Logan Mwangi, sy'n agor cil y drws ar y stori.

Mae Iwan yn esbonio: "Mae pob ymchwiliad yn anodd i'r heddlu a ni fan 'na yn ffilmio - mae yn fwy o her tro yma, achos bod o'n achos high profile ofnadwy ac yn achos ofnadwy o drist.

"I ni fel tîm mae llofruddiaeth plentyn yn cyffwrdd ti mewn ffordd gwahanol ac yn amlwg chi'n gorfod ymateb i hynny a rhoi ystyriaeth i'r effaith o ni'n troi fyny gyda camera gyda'r heddlu.

"Ni wedi bod yn ffilmio o Mehefin tan Rhagfyr llynedd ac mae o'n cael effaith ar rhywun, 'da chi'n meddwl sut mae rhywun yn gallu neud hynna?

"Mae'n neud dim synnwyr, 'da chi'n meddwl hynny o hyd.

"Mae 'na seicolegydd gyda ni fel rhan o'r tîm os oes unrhyw un eisiau siarad - gobeithio fod hynny'n helpu ni i ddelio gyda'r hyn ni wedi gweld a chlywed."

Disgrifiad o’r llun,

Logan Mwangi

Ffilmio'r heddlu

Mae Iwan a'r tîm cynhyrchu wedi cael mynediad at deledu cylch cyfyng, lluniau camerâu corff yr heddlu, datganiadau tystion a chyfweliadau heddlu sy'n dangos gam wrth gam sut y llwyddodd yr heddlu i greu darlun o'r hyn ddigwyddodd cyn ac ar ôl marwolaeth Logan, a dod a'r diffynyddion o flaen eu gwell.

Meddai: "'Natho ni saethu degau o oriau ac mae 15 awr neu fwy o gyfweliadau yr heddlu wnaethon nhw gyda'r tri oedd wedi eu cael yn euog.

"Mae'n rhan o'r broses - 'da chi'n gorfod sbio ar y stwff i neud cyfiawnhad â'r stori ac i gael syniad o beth oedd yr ymchwiliad ac hefyd pwy oedd Logan."

Roedd pob eiliad yn cyfri wrth chwilio am dystiolaeth gyda'r heddlu yn gweithio dan bwysau mawr ac mae'r rhaglen yn dangos effaith hynny ar y tîm, oedd yn cael ei arwain gan DCI Mark O'Shea a DI Lianne Rees.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

DS Ed Griffith

Mae un o'r ditectifs fu'n arwain yr ymchwiliad, DS Ed Griffith, yn datgan yn y rhaglen: "Mae hwn yn un o'r cases gwaethaf i fi weithio arno.

"Deg allan o ddeg ar y scale i ddweud y gwir. Bydd hwn yn fy meddwl am byth."

Meddai Iwan: "Mae'n anodd iawn - mae beth ni'n gweld a chlywed dim ond yn ganran bach o beth mae'r heddlu yn gorfod delio gyda - yr adroddiadau manwl maen nhw'n darllen a beth maen nhw'n gweld a chlywed am yr hyn ddigwyddodd i Logan.

"Dwi'n gwybod mae 'di taro nifer o swyddogion yn galed iawn, yn arbennig y rhai oedd wedi gorfod mynd i'r cartref a'r rhai oedd wedi darganfod Logan yn yr afon (Afon Ogwr). Mae'n anodd iawn iddyn nhw."

Mae'r rhaglen hefyd yn dangos yr heddlu yn rhannu adroddiad y patholegydd gyda tad Logan, Ben Mwangi. Yn yr adroddiad mae manylion yr anafiadau a arweiniodd at farwolaeth ei fab - mae'n nodi byddai gan Logan siawns o 80% o oroesi, pe bai wedi cael cymorth meddygol mewn pryd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ben Mwangi

Meddai Iwan: "'Da ni'n cysgodi'r heddlu pan yn siarad efo ffrindiau, teulu neu athrawon. 'Oeddan ni wedi mynd gyda'r heddlu i gyfarfod Ben Mwangi ac wedyn yn clywed nôl beth oedd pobl yn ei ddweud am Logan a chlywed am pa fath o fachgen oedd o.

'Bachgen hapus'

"Roedd o'n fachgen hapus iawn - mae Huw Griffiths yn dweud yn y rhaglen mae'r hyn oedden nhw'n clywed amdano oedd fod gwên ar ei wyneb o bob tro ond tu ôl y drysau caeedig roedd hi'n stori wahanol.

"Doedd o ddim yn cael ei drin yn dda. 'Oedd ei dad eisiau rhoi bywyd da iddo ond bod o ddim yn cael - roedd hynny'n ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Williamson yng ngorsaf yr heddlu

Mae'r rhaglen hefyd yn dangos y tri diffynnydd wrth iddynt gael eu harestio yn ogystal â chyfweliadau allweddol Williamson a Cole. Rydym yn gweld yr eiliad mae Williamson yn newid ei stori yn gyfan gwbl, ar ôl i dystiolaeth ddamniol gael ei gyflwyno.

Meddai Iwan: "Mae'r tîm a'r swyddogion major crime Heddlu De Cymru yn 'neud gwaith anhygoel. Maen nhw'n mynd ati i ddarganfod y gwirionedd ac i drio cael cyfiawnder i'r teuluoedd hynny sy' ar ôl.

"Maen nhw'n dedicated iawn i ddarganfod y gwirionedd a trio dod a rhyw atebion i bobl."

Ymchwiliad

Yn ôl Iwan: "Mae cyfnod Covid wedi amlygu hyn - mae'n anodd iawn lle mae gwasanaethau/awdurdodau ddim wedi cael gymaint o gyswllt oherwydd Covid.

"Mae ymchwiliad yn digwydd rŵan yn achos Logan ond dwi'n dychmygu fydd nifer o blant yn debyg i Logan sy'n cael eu camdrin tu ôl i ddrysau caeedig - mae cyfnod y pandemig efo lot i ateb am.

"Yn symud ymlaen gobeithio fydd cyfleoedd i bobl weld y plant 'ma a bod nhw'n cael mwy o gyswllt gyda pobl sy'n gallu helpu nhw.

"Mae Ben Mwangi eisiau i rieni fel fo i gael gwybod os ydy'r gweithwyr cymdeithasol yn edrych ar eu plant nhw.

"Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth positif falle fyddai'n gallu dod ohono ac yn helpu plant yn y dyfodol. Pan chi'n neud y rhaglenni yma chi'n gobeithio fydd rhywbeth positif yn gallu dod allan o rhywbeth sy' mor drasig."

Pynciau cysylltiedig