Diarddel meddyg dros glinig ar-lein i blant traws

  • Cyhoeddwyd
Dr Helen Webberley
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Helen Webberley yn gwadu honiadau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol

Mae meddyg o Sir Fynwy oedd yn rhedeg clinig ar-lein ar gyfer plant trawsryweddol wedi ei diarddel am ddeufis, yn dilyn tribiwnlys meddygol.

Fe benderfynodd y panel bod addasrwydd Dr Helen Webberley i ddarparu triniaeth wedi ei amharu, a'i bod wedi rhoi cleifion dan "risg di-angen o niwed" trwy fethu â darparu gofal dilynol.

Cafodd Dr Webberley - sylfaenydd y wefan GenderGP - ei chyhuddo o fethu â rhoi gofal clinigol da yn 2016 i dri chlaf, oedd yn 11, 12 a 17 oed ac yn newid rhywedd o fenyw i wryw.

Yn ôl canlyniadau'r tribiwnlys, fe fethodd Dr Webberley gynnig gofal priodol i un claf trwy beidio trafod risg ynglyn â ffrwythlondeb cyn darparu atalyddion glasoed ar bresgripsiwn.

Ond, dywedodd panel MPTS (Medical Practitioners Tribunal Service) ei bod bellach yn gytûn bod Dr Webberley wedi "cael mewnwelediad" ers hynny ac y byddai'r meddyg yn cyflwyno newidiadau petai'n dychwelyd i'r clinig.

Cafodd Dr Webberley ddirwy yn 2018 am redeg clinig preifat yn Y Fenni heb fod wedi cofrestru.

Fe benderfynodd panel y tribiwnlys fod hynny wedi amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer hefyd.

Wrth gyflwyno tystiolaeth i'r tribiwnlys, dywedodd Dr Webberley: "Roedd effaith yr euogfarn arnaf yn enfawr, fe effeithiodd sawl peth yn fy mywyd, o fy morgais i fy yswiriant car.

"Dwi hefyd yn gwybod yr oedd y cyhoedd yn poeni amdano oherwydd cafodd ei adrodd yn eang yn y wasg, ond dwi'n gobeithio fy mod wedi gallu dangos i mi weithredu er lles fy nghleifion ar bob adeg."

Dywedodd y panel y dylid cynnal gwrandawiad adolygu i'r achos cyn diwedd cyfnod diarddel Dr Webberley.

Pynciau cysylltiedig