Targedau ffosffad yn 'parlysu'r broses o godi tai newydd'

  • Cyhoeddwyd
Datblygiad
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r targedau ffosffad yn golygu bod nifer fawr o ddatblygiadau ar stop mewn rhannau o Gymru

Does yna ddim atebion rhwydd na chyflym i ddatrys argyfwng cynllunio sydd wedi parlysu'r broses o godi tai newydd mewn sawl rhan o Gymru.

Dyna mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Dŵr Cymru wedi'i ddweud wrth Newyddion S4C, ar drothwy cyfarfod allweddol yn y Sioe Frenhinol i drafod y sefyllfa.

Ym mis Ionawr 2021 fe gyflwynodd CNC dargedau newydd llym ar gyfer lefelau ffosffadau mewn naw afon sydd wedi eu dynodi yn ardaloedd o gadwraeth arbennig.

Y gred yw bod 12 awdurdod cynllunio wedi eu heffeithio gan y targedau newydd, sydd rhyw 50-80% yn fwy llym na'r rhai blaenorol.

Beth ydy ffosffadau?

Mae ffosffadau yn fineralau sydd i'w darganfod mewn carthion dynol ac anifeiliaid, ac yn hybu twf planhigion.

Fe'i defnyddir mewn gwrtaith, ond fe all lefelau uchel o ffosffad gynyddu twf algae mewn dŵr, sydd yn ei dro yn lleihau lefelau ocsigen mewn afonydd a niweidio bywyd gwyllt.

Wrth asesu ceisiadau cynllunio, mae'n rhaid i awdurdodau lleol yn y naw ardal wirio nawr na fydd lefelau ffosffad yn cynyddu yn sgil unrhyw ddatblygiad.

Mae hynny yn golygu bod nifer fawr o geisiadau cynllunio ar stop, ac mae Cyngor Sir Penfro wedi gorfod gohirio'r broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Teifi, sy'n llifo heibio i Gwmann, wedi ei ddynodi yn ardaloedd o gadwraeth arbennig

Ym mhentref Cwmann, Sir Gâr, roedd cymdeithas dai Barcud yn awyddus i godi 20 o gartrefi fforddiadwy ar safle hen Ysgol Gynradd Coedmor.

Ond bu'n rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin ohirio'r cais ar y funud olaf ym mis Mawrth eleni ar ôl i CNC godi pryderon am allyriadau ffosffadau o'r safle.

Yn ôl Geraint Roberts, uwch swyddog datblygu gyda Barcud, roedd y penderfyniad yn "dipyn o sioc".

Mae'n amcangyfrif bod yna gannoedd o dai fforddiadwy sydd yn methu cael eu hadeiladu oherwydd y broblem ffosffadau.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw cymdeithas dai Barcud ddim yn gallu parhau gyda'u cynllun i godi 20 o gartrefi fforddiadwy ar safle hen Ysgol Gynradd Coedmor

"Mae'n broblem enfawr i ni oherwydd mae yna angen ar gyfer tai fforddiadwy yn yr ardaloedd gwledig yma," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grant i adeiladu'r tai ond yn amlwg 'da ni methu mynd yn ein blaenau."

Mae Mr Roberts yn bryderus nad oes yna "ffordd amlwg ymlaen".

"Mae hynny yn fy mhoeni i, i ddweud y gwir.

"Yr ateb syml yw i'r awdurdod dŵr wella y system garthffosiaeth leol drwy ychwanegu beth maen nhw'n galw yn phosphate stripping, ond does yna ddim awgrym bod hynny yn mynd i ddigwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Roberts yn rhagweld "argyfwng" os na fydd yna ddatrysiad i'r sefyllfa bresennol

Mae Mr Roberts dweud nad yw hi'n bosib adeiladu tai mewn rhannau helaeth o Geredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin oherwydd y targedau ffosffad newydd.

Mae'n yn rhagweld "argyfwng" os na fydd yna ddatrysiad i'r sefyllfa.

"Mae niferoedd pobl ddigartref yn mynd i fyny. Mae prisiau tai yn mynd fyny. Heb supply o dai newydd, s'dim gwella ar y sefyllfa."

Problem 'gymhleth a hirdymor'

Yn ôl Ioan Williams, prif ymgynghorydd CNC ar afonydd sydd yn ardaloedd cadwraeth arbennig, cafodd y targedau eu cyflwyno er mwyn "gwella ansawdd dŵr" yr afonydd.

Mae'n dweud fod y broblem yn "gymhleth" a "hirdymor" a bod ffosffadau yn dod o weithfeydd trin dŵr gwastraff, amaethyddiaeth, tanciau septig a'i fod hyd yn oed yn bodoli mewn past dannedd.

Mae'n dweud bod yna "lawer o atebion", sydd yn cynnwys gosod technoleg i dynnu ffosffadau o'r dŵr.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ioan Williams o CNC, "rhan o'r ateb" yn unig ydy diweddaru technoleg mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr a anfonwyd gan Dŵr Cymru at gynllunwyr y llynedd, sy'n awgrymu taw dim ond mewn llond dwrn o weithfeydd trin dŵr gwastraff mae yna offer arbenigol i dynnu ffosffadau.

O'r 829 gorsaf trin dŵr gwastraff dan reolaeth Dŵr Cymru, dim ond mewn 46 y mae yna offer i dynnu ffosffadau.

Mae yna fwriad i fuddsoddi mewn 12 safle arall erbyn 2025, yn ôl y llythyr.

'Rhaid mynd at wraidd y ffynonellau'

Yn ôl Steve Wilson, rheolwr gyfarwyddwr gwasanaethau dŵr gwastraff Dŵr Cymru, roedd y targedau newydd a gyhoeddwyd ym mis Ionawr y llynedd yn "syndod" am fod Dŵr Cymru yn trafod cynlluniau buddsoddi gyda CNC.

Mae'n dweud fod gwaith ymchwil newydd ar afonydd Wysg a Gwy yn dangos bod rhwng 25% a 30% o ffosffadau yn yr afonydd yn deillio o'r gweithfeydd trin dŵr gwastraff, a bod 70% yn dod o ffynonellau eraill fel ffermio a thanciau septig.

Disgrifiad o’r llun,

Does "dim ateb dros nos" i'r broblem, meddai Steve Wilson o Dŵr Cymru

Yn ôl Mr Wilson mae Dŵr Cymru yn buddsoddi £800m i wella gweithfeydd trin dŵr gwastraff, ond dyw hi ddim yn ymarferol i roi cyfarpar i dynnu ffosffadau ymhob un.

"Hyd yn oed petasen ni yn gosod offer i dynnu ffosffadau ym mhob gwaith, fydd y dŵr ddim yn cwrdd â'r safonau newydd," meddai.

"Mae'n rhaid mynd at wraidd y ffynonellau eraill o ffosffadau - dyna'r her.

"Sut mae gweithio gydag amaeth, gyda thirfeddianwyr, gydag awdurdodau lleol, i geisio canfod y ffynonellau hynny."

Mae'n dweud bod modd datblygu ffyrdd eraill o leihau ffosffadau, fel datblygu gwlypdiroedd, ond does yna "ddim ateb dros nos". Mae rhai o'r planhigion yn y gwlypdiroedd yn medru amsugno ffosffadau.

'Uchel iawn ar yr agenda'

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal uwchgynhadledd yn y Sioe Frenhinol i drafod y ffordd ymlaen.

Yn ôl Ioan Williams o CNC, "rhan o'r ateb" yn unig ydy diweddaru technoleg mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff.

Mae'n dweud bod y cyfarfod yn y Sioe yn profi fod y pwnc yn "uchel iawn ar yr agenda".

"Beth ni'n gobeithio cael mas o'r cyfarfod yw bod ni a'n partneriaid i gyd rownd y ford yn y cyfarfod yna," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil yn dangos bod tua 70% o ffosffadau yn afonydd Wysg a Gwy yn deillio o ffermio a thanciau septig

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr achos dros godi tai cymdeithasol "mor gryf ag erioed", a dyna pam y cyhoeddwyd targed i godi 20,000 o dai carbon isel i'w rhentu yn ystod tymor presennol y Senedd.

"Mae iechyd ein hafonydd o bwysigrwydd enfawr i'r llywodraeth," meddai llefarydd.

"Dyma pam rydym yn trefnu uwchgynhadledd afonydd ACA (ardaloedd cadwraeth arbennig) fel y bydd cyfle i bob un ystyried sut y gallan nhw gyfrannu syniadau a datrysiadau."

Pynciau cysylltiedig