Penodi Syr Robert Buckland AS yn Ysgrifennydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol De Swindon, Syr Robert Buckland wedi ei benodi gan Boris Johnson yn Ysgrifennydd Cymru.
Mae'n olynu Simon Hart, a ymddiswyddodd o'r llywodraeth nos Fercher gan ddweud bod "dim dewis arall" iddo.
Mae Mr Johnson wedi bod yn rhoi cabinet newydd at ei gilydd ddydd Iau wedi iddo gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr.
Ond mae'n bwriadu aros fel prif weinidog nes bod y blaid wedi dewis arweinydd newydd yn yr hydref.
'Y rheswm imi dderbyn'
Dywedodd Syr Robert, sy'n wreiddiol o Lanelli, mai dim ond oherwydd ei fod yn gwybod y byddai Mr Johnson yn ymddiswyddo y derbyniodd y swydd.
Esboniodd wrth BBC Radio 4 iddo gael cynnig y swydd yn hwyr fore Iau, a'i derbyn gan ei fod yn teimlo ei fod yn ddyletswydd arno i helpu i "setlo pethau".
Dywed er bod gan brif weinidog dros dro rwymedigaeth i gyflawni polisïau presennol, y byddai'n "od" i unrhyw bolisïau newydd gael eu cyhoeddi.
Pan ofynnwyd iddo pwy allai gymryd lle Mr Johnson, dywedodd Syr Robert nad oedd yn gwybod pwy fyddai'r ymgeiswyr, cyn ychwanegu: "Dydw i ddim yn gwybod... fi, efallai."
Pan ofynnwyd iddo a oedd o ddifrif, atebodd: "Wel, pwy a wŷr. Rwyf bob amser yn barod i wasanaethu'r wlad ym mha bynnag swyddogaeth."
Ond ychwanegodd ei fod yn "senario annhebygol".
Dywed gohebydd gwleidyddol y BBC, Ione Wells, nad oedd unrhyw Geidwadwr mewn seddi Cymreig yn fodlon derbyn y swydd.
Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd Syr Robert ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2010.
Roedd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder yng nghabinet Boris Johnson o fis Gorffennaf 2019 tan Medi 2021, pan gafodd ei ddiswyddo.
Yn ymateb i'r penodiad dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies: "Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Ysgrifennydd newydd Cymru, Robert Buckland a aned yn Llanelli, y cyfarfûm ag ef gyntaf pan aeth y ddau ohonom am sedd Brycheiniog a Maesyfed dros 20 mlynedd yn ôl."
Yn siarad ar raglen BBC Wales Today nos Iau, cadarnhaodd David TC Davies y byddai yn parhau yn ei rôl fel chwip yn y llywodraeth ac fel dirprwy weinidog yn Swyddfa Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022