Cuthbert yn cymryd lle Adams i Gymru ar gyfer yr ail brawf

  • Cyhoeddwyd
Alex CuthbertFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Cuthbert wedi ennill 50 cap i Gymru

Bydd Alex Cuthbert yn cymryd lle Josh Adams ar yr asgell yn yr unig newid i dîm Cymru i herio De Affrica yn yr ail brawf yn Bloemfontein ddydd Sadwrn.

Roedd Adams yn dechrau yn y golled o 32-29 yn Pretoria ar ôl gwella o anaf i'w ben-glin, ond roedd rhwymyn ganddo arno.

Mae Adams yn cymryd lle Owen Watkin ar y fainc, gyda Cuthbert yn dechrau yn ei le ar yr asgell chwith.

Mae prop y Saracens, Sam Wainwright yn debygol o ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc, ac mae Wyn Jones hefyd ymysg yr eilyddion.

Daw'r newidiadau ymysg y propiau yn dilyn y newyddion fod Tomas Francis wedi dychwelyd adref ar ôl dioddef o gyfergyd yn y prawf cyntaf.

Mae De Affrica wedi gwneud 14 newid i'r tîm drechodd Cymru o drwch blewyn - penderfyniad mae arwr Cymru a'r Llewod Syr Gareth Edwards wedi'i ddisgrifio fel un sy'n "dibrisio" y gyfres.

Bydd y prawf olaf yn cael ei gynnal yn Cape Town ar 16 Gorffennaf.

Tîm Cymru i wynebu De Affrica ar 9 Gorffennaf

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Alex Cuthbert; Dan Biggar (capt), Kieran Hardy; Gareth Thomas, Ryan Elias, Dillon Lewis, Will Rowlands, Adam Beard, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Dewi Lake, Wyn Jones, Sam Wainwright, Alun Wyn Jones, Josh Navidi, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Josh Adams.

Tîm De Affrica

Warrick Gelant; Kurt-Lee Arendse, Jesse Kriel, Andre Esterhuizen, Aphelele Fassi; Handre Pollard (capt), Jaden Hendrickse; Thomas du Toit, Joseph Dweba, Trevor Nyakane, Eben Etzebeth, Marvin Orie, Marcel Coetzee, Pieter-Steph du Toit, Evan Roos.

Eilyddion: Malcolm Marx, Ntuthuko Mchunu, Vincent Koch, Ruan Nortje, Rynhardt Elstadt, Deon Fourie, Grant Williams, Damian Willemse.

Pynciau cysylltiedig