Rhyddhau rheithgor yn achos trywanu Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Kyle Patrick WalleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kyle Walley ei drywanu yn ei gartref yn Rhosymedre, Wrexham

Mae rheithgor a glywodd achos dyn sydd wedi'i gyhuddo o drywanu a lladd dyn 19 oed yn ei gartref, wedi cael ei ryddhau.

Roedd achos Mark Harley Jones, hefyd yn 19 oed o Ffordd Caer, Wrecsam, yn cael ei glywed yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Mae Mr Jones wedi cyfaddef lladd Kyle Walley, ond mae'n gwadu ei lofruddio.

Bu farw Mr Walley ar lawr ei gegin yn Rhosymedre, Wrecsam, wrth iddo baratoi i wylio rownd derfynol Euro 2021 ar y teledu.

Cafodd fideo ei ffilmio ychydig cyn yr ymosodiad angheuol a'i bostio ar yr ap cymdeithasol Snapchat, clywodd y rheithgor yn gynharach yn yr wythnos.

Pynciau cysylltiedig