'Angen gwella system adrodd am gynnwys peryglus ar-lein'

  • Cyhoeddwyd
Grŵp o bobl ifanc yn trafod
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Pontypridd yn poeni nad oes digon yn cael ei wneud i ddileu cynnwys niweidiol ar-lein

Mae grŵp o bobl ifanc o dde Cymru yn galw ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol i wella eu prosesau ar gyfer adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein.

Fe wynebodd rhai o enwau mawr TikTok a Meta gwestiynau gan fyfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Pontypridd.

Dywedodd y platfformau eu bod yn gwrando ar adborth ac yn annog pobl i ddefnyddio'r nodweddion diogelwch sydd ar gael.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan yr AS Llafur Alex Davies-Jones wrth i Fil Diogelwch y We Llywodraeth y DU fynd drwy'r Senedd yn San Steffan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae platfformau digidol yn dweud bod systemau mewn lle i atal cynnwys niweidiol a'i ddileu

"Does braidd diwrnod yn mynd heibio lle nad ydw i'n profi rhywbeth negyddol," dywedodd Caitlin, 17 oed.

"Dwi'n meddwl, yn bersonol, bod y cyfryngau cymdeithasol yn reit beryglus.

"Wrth sgrolio drwy TikTok ddoe, mae 'na lawer o heriau sy'n cael eu hanelu at ferched ifanc i fwyta tua 300-400 calori y dydd... [a] gallai arwain at sawl anhwylder bwyta."

Mae Caitlin wedi ceisio adrodd am gynnwys niweidiol sawl tro, a'i hymdrechion yn aml yn aflwyddiannus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Dwi'n meddwl y dylid edrych i mewn i'r broses adrodd ychydig yn fwy, gan ei bod yn cymryd gymaint o amser i bethau gael eu dileu. Erbyn eu bod nhw wedi cael eu cymryd o 'na, mae'r niwed eisoes wedi ei wneud."

Dywedodd TikTok ei fod yn cael gwared ar gynnwys a allai fod yn beryglus o ran anhwylderau bwyta.

Mae Caitlin ei hun wedi delio â cham-drin ar y we ar ôl iddi rannu neges ynglŷn â phêl-droediwr Manchester United, Mason Greenwood, yn cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio - cyhuddiad y mae ei wadu.

"Fe siaradais i am yr holl sefyllfa gyda Mason Greenwood a dywedodd rhywun y dylid ymosod arna' i amdano fe.

"'Dwi'n teimlo oherwydd y cyfryngau cymdeithasol, mae lleisiau menywod yn cael eu clywed yn llai - 'dwi'n teimlo ein bod ni'n cael ein gwthio'n ôl rywfaint.

"Mae'n ryw fath o ryfel arnom ni mewn ffordd... mae e fel petai na allwn ni siarad heb gael niwed."

Fe amlinellodd rhai o'r myfyrwyr eraill elfennau positif y platfformau cymdeithasol, fel cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau ac ymgyrchoedd hunan-werth.

"Mae 'na lot o bethau positifrwydd corff yn mynd o amgylch nawr nad oedd yn arfer gwneud," dywedodd Isabelle, sydd hefyd yn 17.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pobl ifanc o Bontypridd gyfle i holi cynrychiolwyr o'r byd digidol

Fe gafodd disgyblion sy'n gweithio ar brosiect i wella diogelwch ar-lein gyfle i ofyn cwestiynau wrth enwau mawr y byd technoleg mewn digwyddiad rhithiol.

Fe ofynnodd Brooke, 13: "Mae pobl ifanc yn teimlo ei bod yn anodd iawn adrodd a dileu cynnwys niweidiol. Sut allwch chi wneud y broses hon yn haws?"

Dywedodd pennaeth polisi diogelwch cyhoeddus TikTok yn Ewrop, Alexandra Evans, ei bod o'r farn bod mecanwaith adrodd platfformau yn "weledol" ond dywedodd ei bod yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr.

Fe ddywedodd hefyd bod ffyrdd o flocio. "Er enghraifft," meddai, "os nad ydych chi'n hoffi'r geiriau 'casáu' neu 'collwr', fe allwch chi osod rhestr o eiriau a fydd yn cael eu hidlo allan o'ch blwch sylwadau."

Dywedodd Megan Thomas, rheolwr cyswllt polisi cyhoeddus Meta, sy'n berchen ar Facebook ac Instagram, fod y cwmni wedi datblygu nodweddion newydd sydd "wedi eu dylunio i helpu atal pobl rhag gorfod profi unrhyw fath o gynnwys niweidiol ar ein platfformau yn y lle cyntaf".

Roedd Poppi, 13, eisiau gwybod faint o negeseuon niweidiol sy'n cael eu dileu o'r gwefannau bob dydd, a beth yw'r goblygiadau i'r unigolion sy'n cyhoeddi negeseuon o'r fath yn rheolaidd.

Fe ddywedodd y ddau lefarydd nad oedden nhw'n gwybod beth yw'r ffigyrau dyddiol, ond bod yna adroddiadau bob tri mis.

"Mae yna sbectrwm o niwed, mae yna sbectrwm o ymddygiadau ac ry'n ni'n ceisio bod yn benodol yn ein hymatebion," dywedodd Ms Evans o TikTok.

"Ond hefyd o ran yr achosion eithriadol hynny, o ran yr ymddygiadau hynny nad ydyn ni'n ei oddef ar unrhyw sail, ry'n ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn ymateb ac yn dileu'r math hwnnw o weithgarwch ar draws ein holl lwyfannau."

'Bylchau'

Mae deddfau diogelwch ar-lein newydd yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU, ond rhybuddiodd AS Llafur Pontypridd a llefarydd technoleg yr wrthblaid, Alex Davies-Jones, bod yna "fylchau" yn y ddeddfwriaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod y Bil Diogelwch Ar-lein "eisoes yn sicrhau gwelliannau mawr i ddiogelwch menywod a genethod" ac yn "amddiffyn merched ifanc rhag cynnwys niweidiol".

Fe ychwanegodd y llefarydd y gallai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol sy'n methu â gweithredu wynebu dirwyon sylweddol.