Y Senedd i barhau i ganiatáu gweithio o bell i ASau

  • Cyhoeddwyd
Siambr y SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Senedd Cymru yn cadw trefniadau gweithio o bell, ddaeth i fodolaeth oherwydd y pandemig, yn barhaol.

Ers gwanwyn 2020 mae'r Senedd wedi caniatáu i wleidyddion gymryd rhan drwy fideo gynadledda.

Er bod y rhan fwyaf o wleidyddion bellach yn mynychu'r siambr neu ystafelloedd pwyllgora yn bersonol, mae rhai yn dweud bod y system yn gwneud y sefydliad yn fwy hygyrch i bobl â chyfrifoldebau gofalu.

Ond mae'r Torïaid yn dweud bod Cymru yn ethol pobl "i'w cynrychioli yn y Senedd, nid i'w cynrychioli o'u soffa".

Mae'r cynlluniau wedi'u cefnogi gan grwpiau Llafur a Phlaid Cymru yn Senedd Cymru, felly mae disgwyl iddynt basio pan fydd pleidlais ddydd Mercher.

Zoom

Ym mis Mawrth 2020 rhoddodd y Senedd y gorau i gyfarfod wyneb yn wyneb a throi at sesiynau rhithwir llawn, gan ddefnyddio Zoom.

Symudodd yn ddiweddarach i fformat hybrid, lle gallai aelodau o'r Senedd fod yn bresennol mewn niferoedd cyfyngedig.

Ar ôl cyfnod byr pan ddychwelodd trafodion rhithwir y gaeaf diwethaf, mae cyfyngiadau wedi'u lleddfu ar faint o wleidyddion all fynd i Senedd Cymru.

Roedd disgwyl i weithio o bell a phleidleisio ddod i ben ym mis Awst, ond ar ôl adolygiad mae uwch aelodau'r Senedd ar y pwyllgor busnes trawsbleidiol wedi cynnig caniatáu i Aelodau barhau i ymuno â dadleuon a phwyllgorau o bell.

Mae'r rhai sydd o blaid yn dweud y gallai helpu i ddenu mwy o bobl amrywiol i wasanaethu fel Aelodau o'r Senedd, ond roedd pryderon y gallai effeithio ar ansawdd dadleuon a chraffu.

Gofal plant

Dywedodd Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, ei bod wedi defnyddio gweithio o bell yn rheolaidd am resymau gofal plant, fel pan mae ei mab wedi bod yn sâl, neu pan nad oes neb arall wedi gallu mynd ag ef i'r ysgol.

"Gall bod yn gorfforol bresennol yng Nghaerdydd ar gyfer popeth fod yn hynod heriol i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, neu sy'n byw ymhell i ffwrdd neu ag anabledd corfforol," meddai.

"Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl fyddai'n gwneud cynrychiolwyr ardderchog ddim yn sefyll etholiad."

Mae Hefin David, AS Llafur Caerffili, yn dad i ddau o blant, un ohonynt yn awtistig.

Dywedodd fod y system hybrid yn golygu y gall fynychu pwyllgorau yn syth o'r daith i'r ysgol, ond pe bai'n rhaid iddo fynd i Gaerdydd byddai'n colli'r sesiwn.

"O safbwynt tad sengl, dwi'n ei chael hi'n llawer haws bod yn agosach at ysgol fy mhlant... na phe bawn i'n gorfod dod i mewn".

"Mae'r rhan fwyaf o aelodau'n tueddu i ddod i lawr beth bynnag - mae hyblygrwydd ychwanegol yn cael ei ddefnyddio pan fo angen."

Daeth trefniadau hybrid yn Nhŷ'r Cyffredin i ben yn haf 2021, er eu bod yn dal i gael eu defnyddio yn yr Alban.

'Cynrychioli o'u soffa'

Ond dywedodd prif chwip y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: "Mae pobl Cymru yn ethol pobol i'w cynrychioli yn y Senedd, nid i'w cynrychioli o'u soffa.

"Nid oes unrhyw reswm dros gynnal cyfarfodydd hybrid y Senedd na'i bwyllgorau nawr bod y pandemig wedi cilio.

"Os yw seneddau mewn mannau eraill yn y DU a ledled y byd yn gallu cyfarfod yn llawn yn bersonol yna fe ddylen ni hefyd."