Uned babanod 'wedi achub bywyd' mam newydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uned arbennig yn cynnig cymorth i famau a'u plant

"Pe na bawn i wedi dod yma fe fyddai fy mabi heb fam - mae'r uned hon wedi achub fy mywyd."

Pan gafodd Kerry Nash wybod ei bod hi'n disgwyl ei babi cyntaf roedd hi'n llawn cyffro, fel nifer o famau newydd.

Ond pan anwyd ei mab Arwyn fis Rhagfyr, sylweddolodd Kerry yn gyflym ei bod yn cael trafferth ymdopi.

"Roeddwn i'n dihuno drwy'r nos yn flinedig iawn, iawn," meddai.

"Ac er bod pobl yn dweud wrthoch chi beth i'w ddisgwyl, roedd y profiad gefais i gymaint mwy nag oeddwn i'n ei ragweld."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kerry Nash dreulio pedwar mis yn derbyn cymorth arbenigol mewn uned mamau a babanod

Ychwanegodd: "Roeddwn i mor emosiynol... a roeddwn i'n teimlo tristwch aruthrol.

"Er bod gennych y babi anhygoel 'ma, ac wedi aros naw mis i gwrdd â nhw, roeddwn i'n teimlo mor isel a'r mwyaf unig dwi erioed wedi bod."

Fe ddaeth bydwragedd i ymweld â Kerry ar ôl iddi ddychwelyd adre ac fe sylwon nhw hefyd ei bod hi'n cael problemau.

Ac ar ôl cael trafodaeth â'r tîm iechyd meddwl lleol fe awgrymon nhw y dylai Kerry ystyried derbyn cymorth mwy arbenigol.

"Fe ddywedon nhw: 'Kerry, dwy ti ddim yn dda, mae gwir angen i ti fondio gyda'r babi. Mae yna uned mamau a babanod newydd anhygoel yn Nhonna - rydyn ni wir eisiau i ti fynd yno'."

Ffynhonnell y llun, Kerry ac Arwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kerry fod bydwragedd wedi dweud fod ganddi broblemau a bod hi angen cymorth

Aeth Kerry ac Arwyn i Uned Gobaith yn Nhonna ger Castell-nedd ddeuddydd cyn y Nadolig. Buon nhw yno am bedwar mis.

"Pan ddes i 'ma gyntaf roeddwn i yn ofnus gan ei fod e'n le anghyfarwydd. Ond yn syth roedd y staff yma i helpu gyda phob peth," meddai Kerry.

"Roedden nhw'n gofalu am Arwyn gymaint o oriau ag oedd er mwyn i fi allu gorffwys.

"Fe ges i weld meddygon, seicolegwyr a thîm gwych - roedd yna fydwraig yn yr uned hyd yn oed."

Uned Gobaith yw'r unig uned yng Nghymru all gynnig gofal 24-awr y dydd i fenywod sy'n cael profiad o salwch iechyd meddwl difrifol tra'n feichiog neu ar ôl geni.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Anita Rees fod mamau wedi gorfod teithio dros y ffin cyn agor yr uned yn Nhonna dros flwyddyn yn ôl

Mae'r uned yn cynnig cymorth i fenywod o Gymru fyddai fel arall wedi gorfod teithio'n bell.

"Cyn i'r uned fodoli fe fyddai mamau sy'n profi salwch meddwl difrifol yn wynebu penderfyniad anodd iawn," medd rheolwr y gwasanaeth Anita Rees.

"Sef naill ai i deithio dros y bont i gael gofal arbenigol yn Lloegr gyda'r heriau fyddai hynny'n ei olygu iddyn nhw a'u teuluoedd neu i fynd i uned iechyd meddwl ar gyfer oedolion - a hynny heb eu babanod.

"Mae'r uned hon yn caniatáu iddyn nhw gael y gofal priodol ar yr amser cywir yn nes at adref."

Nod yr uned yw bod yn gartref dros dro ar gyfer mamau a'u babanod.

Ma' 'na chwe ystafell wely ar eu cyfer ynghyd ag ystafell fyw, cegin a meithrinfa gyffredin, yn ogstal ag ystafell a gardd synhwyraidd.

Ma' hyd yn oed y lluniau a'r gwaith celf o amgylch y lle wedi eu dewis mewn ymgynghoriad â mamau a phlant.

Cyfle am seibiant

Y nod yw creu awyrgylch sy'n groesawgar, yn gynhwysfawr a diogel gyda staff wrth law os yw mamau am seibiant neu hoe.

"Mae'r mamau yn cael amser wedi'i ddiogelu am awr neu ddwy bob diwrnod ar gyfer nhw eu hunan," esbonia Bethan Williams, sy'n nyrs feithrin yn Uned Gobaith.

"Ac y ni'n gofalu am y babanod yn y cyfnod yma er mwyn iddyn nhw gymysgu neu neud gweithgaredd. Mae'r amser yna iddyn nhw eu hunain yn rhywbeth dy'n nhw ddim yn gallu cael adref."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah a'i babi Anakin yn mwynhau ac yn ymlacio i'r gerddoriaeth sydd ar gael

A ma' na amryw o weithgareddau y gall y mamau a'r plant fwynhau gyda'i gilydd.

Yn yr ystafell fyw mae Sarah a'i babi Anakin yn gwrando ar y delynores Bethan Semmens sy'n ymweld bob wythnos.

"Ma' Anakin wrth ei fodd yn gwrando ar y gerddoriaeth ac yn canu weithiau," meddai Sarah.

"Ac mae'r ddau ohonon ni yn gallu gwneud pethau fan hyn na fydden ni wedi gallu gwneud adref. Ma' na gymaint o gefnogaeth ac mae'r cyfleusterau yn ffantastig."

Ychwanegodd: "Ti ddim yn teimlo'n trapped fan hyn."

"Dwi'n dod yma unwaith yr wythnos i chwarae ac i gyfansoddi rhywfaint," meddai Ms Semmens.

"Rai misoedd yn ôl fe gafodd y mamau a'r plant gyfansoddi hwiangerddi - ac rwy'n gweld effaith anferth y gerddoriaeth.

"Un enghraifft dda iawn oedd plentyn oedd yma rai misoedd yn ôl oedd yn anhapus yn aml, doedd ei anadlu ddim yn dda iawn.

"Ond ar ôl un o'r sesiynau nethon nhw weld gwahaniaeth mawr - roedd ei anadlu wedi gwella ac mi roedd e'n cysgu'n llawer gwell."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr uned ystafelloedd a gweithgareddau i helpu mamau ymlacio

Yn ystod y flwyddyn ers ei hagor mae'r uned sydd dan ofal bwrdd iechyd Bae Abertawe wedi gofalu am 34 o famau a'u babanod.

Mae yna adolygiad o'r gwasanaeth yn digwydd ar hyn o bryd fydd yn lliwio penderfyniadau ar gyfer ei ddyfodol.

Mae'r Elusen Plant NSPCC yn mynnu bod angen ei ddiogelu a'i ymestyn.

"Fe gaeodd yr uned mamau a babanod blaenorol yng Nghymru yn 2013 - felly doedd dim darpariaeth ers hynny. Felly mae angen i ni sicrhau ei fod hyn parhau," meddai Cecile Gwilym, rheolwr materion cyhoeddus NSPCC Cymru.

"Ac os yw'r adolygiad yn dangos nad yw nifer y gwelyau yn ddigonol i ateb y galw, mae angen i hyn gael ei ehangu fel bod mwy o fenywod yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Bethan Williams: 'Mae'r mamau yn cael awr neu ddwy bob diwrnod ar gyfer nhw eu hunan'

A ma' Bethan Williams yn teimlo'n hynod o falch o fod yn rhan o'r ymdrech sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau rhai mamau a phlant.

"Fy hoff ran o fy swydd i yw gweld y newid," meddai

"Fi'n cofio un fam yn dod mewn oedd ddim mo'yn unrhyw beth i wneud â'r babi, do'dd hi ddim mo'yn edrych ar ôl y babi o gwbl.

"Wedyn ei gweld hi yn ystod yr wythnosau yn datblygu - dal y babi hyd yn oed - roedd hwnna'n rhywbeth anferth iddi."

"A gweld hi'n gadael wedyn - roedden ni'n chwifio fel staff. Mae'r fam yn dwli ar y babi erbyn hyn a ma' hynny'n beth hyfryd i'w weld."

A phrofiad tebyg oedd profiad Kerry Nash gyda'i mab Arwyn.

"Pe na bai'r help yma, byddai ein stori wedi bod yn wahanol iawn... Fyddwn i ddim wedi gallu ymdopi.

"Ac i fod yn onest iawn byddai Arwyn heb fam i edrych ar ei ôl e. Achubodd yr uned yma fy mywyd."

Pynciau cysylltiedig