Pum munud gyda Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru
- Cyhoeddwyd
Yr haf hwn bydd Hanan Issa yn dechrau ar ei gwaith fel Bardd Cenedlaethol Cymru.
Hanan fydd y pumed bardd cenedlaethol ers i'r rôl gael ei sefydlu yn 2005, gan olynu Ifor ap Glyn, Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis.
Cymru Fyw fu'n treulio pum munud fach yn ei chwmni.
Dyweda ychydig amdanat ti dy hun.
Rwy'n fardd ac yn sgwennwr ond dwi hefyd yn mwynhau arbrofi gyda ffurfiau creadigol eraill fel gwneud ffilmiau a thynnu lluniau.
Dwi'n byw yng Nghaerdydd gyda fy ngŵr, mab a chath.
Wnest ti dyfu i fyny yn sŵn gwahanol ieithoedd gan gynnwys Arabeg trwy dy deulu Iracaidd a Chymraeg trwy dy nain a dy daid. Ydy gwahanol ieithoedd yn dylanwadu ar dy waith?
Roedd cael profiad amlieithog wrth dyfu i fyny yn fraint sydd wedi fy helpu i ddatblygu parch a chwilfrydedd at ieithoedd nad ydw i'n eu deall.
Dydw i ddim yn rhugl mewn Cymraeg nac Arabeg ond yn aml iawn mae geiriau, synau a syniadau o'r ddwy iaith yna yn treiddio i mewn i fy ngwaith.
Pryd wnest ti ddechrau barddoni?
Dwi wedi ysgrifennu barddoniaeth erioed - am ddreigiau oedd fy ngherddi cyntaf!
Roedd fy mam bob tro'n rhoi ei hamser i eistedd i lawr gyda mi a gwrando ar fy nonsens!
Wnes i benderfynu dechrau rhannu fy ngwaith mewn rhwystredigaeth bod pobl yn siarad am ferched Mwslemaidd gyda llawer o ragdybiaethau ac ystrydebau.
Fe wnes i ysgrifennu darn spoken word a'i rannu ar Facebook, wnaeth hynna gydio ym mhobl felly wnes i ddal ati i ysgrifennu.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ydy unrhyw un yn gallu bod yn fardd?
Ydy! 100%! Barddoniaeth yw dathlu a darganfod prydferthwch geiriau a mynegiant.
Beth yw pŵer barddoniaeth a rôl bardd?
I mi mae barddoniaeth yn fy helpu i wneud synnwyr o'r byd.
Dwi'n meddwl bod barddoniaeth yn dweud y gwir a dwi'n meddwl mai rôl bardd yw bod yn ddigon dewr i ddweud y gwirionedd hwnnw.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Beth wyt ti'n hoffi ysgrifennu amdano, a fel Bardd Cenedlaethol Cymru beth fydd yn dwyn dy awen dros y dair blynedd nesaf?
Dwi'n ysgrifennu am unrhyw beth a phopeth sy'n gwneud i mi deimlo. Faswn i'n hoffi defnyddio fy llais i amlygu materion cymdeithasol, hanes sydd wedi cael ei anwybyddu, ac yn gyffredinol - i adeiladu pontydd er mwyn trafod a siarad.
Ydy barddoniaeth angen bod â neges o hyd neu a all barddoniaeth fod yn wirion ac yn ffordd o chwarae ar eiriau?
Mae prydferthwch barddoniaeth yn ei amrywiaeth. Mae'r mesur rhydd a'r spoken word yn medru helpu i'r emosiynau a'r rhwystredigaethau lifo, neu er mwyn cael eich clywed.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae ffurfiau eraill fel y villanelle bron â thagu geiriau trwy'r penillion sy'n ailadrodd.
Mae barddoniaeth yn rhoi rhyddid a strwythur yn dibynnu ar y naws rydych chi eisiau ei greu.
Pwy yw rhai o dy hoff feirdd/llenorion yng Nghymru a thu hwnt?
Mae gymaint o feirdd cyffrous yng Nghymru - Taylor Edmonds, Grug Muse, Kandace Siobhan-Walker, Iestyn Tyne, Jeremy Dixon, Alex Wharton, Rhian Edwards, Marvin Thompson, Rhian Elizabeth, Rhys Owain Williams, R. S Thomas a Mererid Hopwood.
Fy hoff lenorion yw Durre Shahwar, Hammad Rind, Caryl Lewis, Eloise Williams, Matt Brown, Raymond Williams, Jan Morris, Martin Johnes, Mike Parker.
Rhai o fy hoff 'sgwennwyr tu allan i Gymru yw Darren Chetty, Inua Ellams, Sabrina Mahfouz, Terrance Hayes, Zeina Hashem Beck, Joy Harjo, Ocean Vuong, Raymond Antrobus, Ada Limon, Jay Bernard, a Franny Choi.
Wnest ti a Durre Shahwar sefydlu 'Where I'm coming from' er mwyn trefnu nosweithiau meic agored i feirdd sy'n cael eu tan-gynrychioli yng Nghymru a thu hwnt. A ddylen ni ddarllen neu wrando ar farddoniaeth?
Dwi'n credu bod gan ddarllen a gwrando ar farddoniaeth eu buddion eu hunain.
Mae darllen yn golygu bod gennych fwy o amser i ddarllen cerdd ac amsugno'r cyfan sydd ganddi i'w chynnig.
Mae gwrando ar gerdd yn cael ei pherfformio yn eich helpu i sylwi ar guriadau, rhythm a phwyslais y gerdd - efallai i chi fethu hynny wrth ei darllen.
Dwi wrth fy modd yn gwylio perfformiadau o farddoniaeth - maen nhw'n medru bod mor amrwd. Dwi wastad yn gadael y nosweithiau wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu!
Ar wahan i farddoni a llenydda, beth arall wyt ti'n mwynhau ei wneud?
Dwi'n film buff enfawr felly dwi wrth fy modd yn gwylio ffilmiau o bob math yn enwedig sinema Ffrengig a Koreaidd.
Dwi wrth fy modd efo'r môr - mae gwylio'r llanw yn mynd mewn ac allan yn clirio fy mhen. Dwi'n casglu pethau dwi'n ffeindio fel gwydr môr a cherrig llyfnion a'u cadw wrth fy nesg.
Mae gen i deulu mawr, llawer o frodyr a chwiorydd felly dwi'n mwynhau treulio amser gyda nhw a'u plant.
Hefyd o ddiddordeb: