Adfywio pyllau glo fel ffynhonnell ynni gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Gallai pyllau glo cael eu hadfywio fel ffynhonnell ynni gwyrdd yn y dyfodol.
Y gobaith yw pwmpio dŵr o byllau glo er mwyn gwresogi cartrefi a busnesau.
Fe allai'r ffynhonnell gwres cynaliadwy helpu i dorri biliau ynni a lleihau ôl-troed carbon Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwario bron i £500,000 i ddod o hyd i'r lleoliadau gorau i gynnal y gwaith.
Mae llosgi glo yn cael ei ystyried i fod yn un o gyfranwyr mwyaf i ôl-troed carbon y byd.
Cafodd rhannau o Gymru eu hadeiladu ar y diwydiant glo, ond pan gaeodd y pyllau fe lenwodd y glofeydd â dŵr.
Mae dŵr dan ddaear yn cael ei dwymo'n naturiol a gobaith Llywodraeth Cymru yw defnyddio gwres y dŵr i gynhesu cartrefi.
Bydd £450m yn cael ei ddefnyddio i alluogi'r Awdurdod Glo i ddod o hyd i'r llefydd gorau i bwmpio dŵr o byllau glo a defnyddio'r gwres i dwymo adeiladau lleol.
"Rydyn ni'n cymryd dŵr o'r pyllau glo a'i rhoi trwy gyfnewidfa gwres. Mae lefel y gwres yn cael ei gynyddu gan bwmp gwres cyn teithio trwy bibellau tanddaearol ac i mewn i dai pobl a busnesau lleol," meddai Gareth Farr o'r Awdurdod Glo.
"Mae pob cynllun dŵr twym pyllau glo yn wahanol ond mae'r nod yr un peth, sef sicrhau nad yw cwsmeriaid yn talu mwy nag y maen nhw ar hyn o bryd ar gyfer eu gwres.
"Yn y pen draw, y gobaith yw y byddan nhw'n talu tipyn yn llai."
Dywedodd gweinidog hinsawdd Cymru, Julie James: "Mae'r ymdrech i wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi yn angenrheidiol wrth i ni wynebu'r argyfwng hinsawdd a cheisio adeiladu Cymru gryfach, mwy gwyrdd a thecach.
"Mae nwy yn cael ei ddefnyddio i wresogi'r rhan fwyaf o dai yng Nghymru ar hyn o bryd, ond erbyn 2025 ni fydd tai newydd yn cael eu cysylltu i'r brif cyflenwad."
Ychwanegodd: "Mae angen i ni feddwl yn arloesol a sicrhau ein bod ni'n cyrraedd ein anghenion ynni cynaliadwy yn y dyfodol, felly rydw i'n edrych ymlaen at beth mae'r Awdurdod Glo yn darganfod trwy'r gwaith ymchwil yma.
"Mae'n gyffrous iawn i feddwl gall cymunedau bod o fewn metrau i dechnoleg sy'n barod i fynd ac sy'n wahanol i ddulliau traddodiadol a fydd yn ein helpu ni ar ein taith i gyrraedd Cymru Net Sero erbyn 2050."
Costau cynnal y prosiect yn bryder
Mae cynlluniau i gynnal prosiect gwres dŵr o byllau glo yng Nghaerau, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi arafu dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl dogfennau'r cyngor.
Codwyd pryderon ynglŷn â chostau cynnal y prosiect oedd i fod i helpu gwresogi nifer o dai yn y pentref yn ogystal â busnesau ac ysgol.
Does dim sicrwydd bydd y cynllun yn parhau ond mae'n bosib y bydd modd defnyddio dŵr o'r pwll glo lleol i wresogi'r ysgol gynradd i gychwyn.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr am ymateb i'r sefyllfa ddiweddaraf y cynllun yng Nghaerau.
Yn Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf, mae dŵr twym o ffynnon naturiol y pentref yn cael ei ddefnyddio i wresogi'r ysgol gynradd leol a'r pafiliwn.
Mae dŵr sydd tua 21 gradd selsiws yn cael ei bwmpio i gyfnewidfa gwres.
Wedyn mae'r gwres yn cael ei gymryd o'r dŵr a'i gludo trwy bibellau o dan y ddaear i'r ysgol a'r pafiliwn.
Mae'r dŵr sy'n weddill yn cael ei ryddhau i'r Afon Taf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022