Dirwyon dros £1,000 i fenyw anabl am barcio mewn safle anabl
- Cyhoeddwyd
Mae menyw anabl yn wynebu dirwyon o fwy na £1,000 am ddefnyddio lle parcio i bobl anabl y tu allan i'w fflat.
Mae Cerys Gemma, sy'n byw ym Mae Caerdydd, wedi dweud nad yw'r man parcio sydd wedi'i ddyrannu iddi yn addas.
Ni all Ms Gemma, 34, ddefnyddio'r safle parcio priodol yn ei fflat yn Prospect Place gan fod piler ar un ochr a char wedi'i barcio'n agos yr ochr arall.
Mae hi wedi cael dros £1,000 o ddirwyon gan ei bod wedi defnyddio safle parcio anabl arall tu allan i'w fflat, sydd wedi'i gadw'n wag ar gyfer ymwelwyr anabl.
Dywedodd New Generation Parking Management, sy'n rheoli'r safleoedd parcio, fod y mannau yma fod i gael eu cadw'n wag ar gyfer ymwelwyr anabl, ac nid preswylwyr.
'Dwi ddim yn gallu parhau fel hyn'
Mae Ms Gemma wedi ceisio esbonio i reolwyr yr adeilad a chwmnïau parcio ei bod angen mwy o le gan ei bod yn defnyddio cadair olwyn.
"Ma' hwn wedi bod yn bla am ddwy flynedd, a dwi ddim yn gallu parhau fel hyn," meddai.
"Dwi ddim yn fodlon cael fy ngwthio allan o fy nhŷ o achos 'mod i mewn cadair olwyn."
Gofynnwyd iddi dalu'r dirwyon gan y llys sirol.
Dechreuodd Ms Gemma ddefnyddio cadair olwyn ar ôl damwain pan oedd yn 17 oed.
O achos y sefyllfa gyda'r dirwyon, mae'n "anobeithiol" ac yn gorfod gweld cwnselydd.
"Mae'n anodd i mi beth bynnag, ac rwy'n ceisio bod mor raslon ac amyneddgar wrth ddelio gyda phobl sydd ddim ag adeiladau hygyrch, ac rwy'n deall ei fod yn anodd, ond dwi'n gwrthod cael fy ngwthio allan o fy nghartref o achos un safle parcio, pan mae ganddynt wyth bae parcio hygyrch."
'Addasiad rhesymol'
Dywedodd Chris Fry, sy'n gyfreithiwr hawliau anabledd, fod yna rwymedigaeth i wneud addasiadau rhesymol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
"Y realiti yw, os nad yw'r safleoedd dyranedig yn hygyrch iddi oherwydd ei hanabledd, wel maen nhw dan rwymedigaeth i wneud addasiad rhesymol, ac efallai symud y safle hwnnw neu ei newid i fan agosach at y drws ffrynt.
"Os nad ydyn nhw, maen nhw'n mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb."
Dywedodd Ms Gemma ei bod eisiau byw bywyd hapus yn ei fflat gan wybod bod modd iddi barcio mewn safle hygyrch heb ofidio am fwy o ddirwyon.
"Pob dydd pan rwy'n dod lawr i fynd i'r car, dwi'n meddwl i fy hun 'dyma ni eto, oes yna docyn ddirwy arall?', ac mae'n ofnadwy".
Camddeall y Ddeddf Cydraddoldeb?
Mae'r cwmni New Generation Parking Management, sy'n rheoli'r mannau parcio ar gyfer yr adeiladau gan y cwmni Ringley Group wedi dweud: "Rydym ni eisiau gwneud yn glir, os ydym yn galluogi un preswylydd i ddefnyddio safle parcio anabl ymwelydd fel un ei hun, bydd yn rhaid i ni ganiatáu pob cais gan breswylwyr, ac mae hyn wedi digwydd ar draws y blynyddoedd.
"Heb os, byddai hyn yn lleihau nifer y safleoedd parcio anabl ar gyfer ymwelwyr anabl."
Ychwanegodd y cwmni: "Ni allwn wneud newidiadau i'r rheolau hyn oni bai bod y bwrdd cyfarwyddwyr yn cytuno arnynt, felly wrth feddwl am y gofid parhaus y mae Ms Gemma yn ei wynebu byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod hyn yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y bwrdd."
Mae Mr Fry yn credu eu bod wedi camddeall y Ddeddf Cydraddoldeb.
"Mae hyn yn swnio fel camddehongliad arferol o beth yw gwir ystyr cydraddoldeb, nid yw'n golygu cymhwyso'r un polisi i bawb - mae cydraddoldeb yn golygu darparu'r un cyfle ar gyfer canlyniadau teg."
Dydy Ringley Group heb ymateb i gais y BBC am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2020