'Rhaid dihuno' i gadw pobl ifanc yng nghefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad mawr yn nifer y bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion.

Mae angen "dihuno i'r broblem" a "newid canfyddiadau" er mwyn troi'r llanw ar ddiboblogi gwledig.

Dyna'r alwad gan un gwleidydd wrth i ffigurau'r cyfrifiad ddangos bod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion.

Yn y sir, cwympodd nifer y bobl rhwng 15 a 24 oed o dros 20%, yn ôl y data.

Yn ôl Elin Jones, aelod Senedd Cymru dros Geredigion, mae'r ffigurau'n "siomedig" ac yn dangos bod 'na "broblem strwythurol".

Dywedodd un a adawodd Ceredigion ar gyfer ei astudiaethau ac yna swydd, bod "llwybr clir ar gyfer gadael yr ardal, ond ddim o reidrwydd i ddod nôl".

Beth mae'r data'n ei ddangos?

Cafodd data Cyfrifiad 2021 ei gyhoeddi fis diwethaf.

Mae'n dangos gostyngiad mawr yn nifer y bobl rhwng 15-19 oed (-28%) a 20-24 (-22%) sy'n byw yng Ngheredigion.

Ar draws Cymru gwelwyd gostyngiad yn y grwpiau oedran yma hefyd, ond gostyngiad tipyn llai, gyda'r grŵp oedran 15-19 oed yn gostwng 12% a 20-24 yn cwympo 11%.

Yng Ngheredigion, roedd cynnydd o 17.2% o bobl 65 oed a throsodd, lleihad o 12.2% o bobl 15-64 oed, a lleihad o 10.1% o blant dan 15.

Newid ym mhoblogaeth Ceredigion, fesul grŵp oedran. Data rhwng 2011-2021.  .

Er bod 'na ostyngiad yn y grwpiau oedran yma mewn siroedd gwledig eraill yng Nghymru, roedd y gostyngiad yng Ngheredigion yn sylweddol.

Dros Gymru gyfan, roedd cynnydd o 17.7% o bobl 65 oed a throsodd, lleihad o 2.5% o bobl 15-64 oed, a lleihad o 1% o blant dan 15.

Newid ym mhoblogaeth Cymru, fesul grŵp oedran. Data rhwng 2011-2021.  .

'Llwybr clir i adael'

Mae pentre' Beulah yn ne Ceredigion yn un digon cyffredin yn y sir.

Fel sawl lle arall mae'r ysgol gynradd wedi cau, dyw drysau Swyddfa'r Post ddim yn agor bellach, a phrin iawn yw nifer y bobl ifanc sy'n byw yn y pentre'.

Disgrifiad o’r llun,

Fel mewn sawl pentref bach, mae Swyddfa'r Post Beulah wedi cau

Mae gan Wyn Jones a Cai Ladd, y ddau yn 31, atgofion melys o'u plentyndod yn y pentre', ond mae'r ddau bellach wedi gadael yr ardal.

Dyw hi ddim yn sefyllfa unigryw, gydag addysg a gwaith yn denu pobl ifanc o'r ardaloedd gwledig.

Symudodd Wyn i Gaerfaddon er mwyn dilyn cwrs pensaernïaeth yn y brifysgol.

"Dwi'n credu bod pobl yn annog chi i fynd i brifysgolion sy'n cael eu hystyried yn rhai da os chi'n 'neud yn dda yn yr ysgol.

"Mae hynny'n rhoi chi ar y llwybr ar gyfer swyddi sydd ddim o reidrwydd ar gael yng Ngheredigion."

"Addysg oedd y rheswm gwreiddiol i fi adael y pentre'... ond wedyn roedd 'na llawer mwy o ddewis o swyddi, a swyddi o ansawdd gwell yn gweithio yn Llundain."

Ychwanegodd: "Dwi'n credu bod 'na lwybr clir ar gyfer gadael yr ardal, ond ddim o reidrwydd i ddod nôl."

Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Cai Ladd (chw) a Wyn Jones y pentref i astudio, ond maent bellach wedi cael swyddi mewn dinasoedd

Fel Wyn, symudodd Cai i'r brifysgol, ond ni ddychwelodd i'r pentre'.

"O rhyw falle 10 o bobl rownd oedran fi, dwi'n meddwl bod dau falle dal yn byw yn Beulah, neu'r ardal o amgylch."

"Pan o'n i'n ifanc o'n i'n keen i adael y pentre' i gael blas o fywyd y tu allan i'r gymuned.

"Ond wrth i fi fynd yn hŷn, dwi'n teimlo lot cryfach ynglŷn â'r teimlad o gymuned. Mae e'n brofiad eitha' rich mewn ffordd cael byw gyda pobl ti'n 'nabod ers blynyddoedd maith.

"Dwi'n gweld eisiau symud nôl i'r gymuned nawr, ond mae'n anodd iawn o ran fy ngwaith."

Pwy sy'n mynd i ofalu?

Wrth i nifer y bobl ifanc yng Ngheredigion ostwng, mae cyfran y bobl hŷn yn cynyddu.

Cododd nifer y bobl 65+ oed yn y sir 17% rhwng 2011 a 2021. Mae hynny'n debyg i'r cynnydd ar draws Cymru, gydag 18% yn rhagor o bobl dros 65 oed yn 2021.

Mae'r heneiddio yma yn poeni sawl un, gan gynnwys Lyndon Lloyd MBE, sy'n byw yn Beulah hefyd, ac yn llywydd Age Cymru Ceredigion.

Mae'n poeni nad oes digon o bobl ifanc i ofalu am henoed y sir.

"Mae 'na adroddiad fan hyn o 2012 - 10 mlynedd 'nôl yn union - i'r cyngor sir, yn proffwydo beth ry'n ni'n sôn amdano heddi. Fe ddylai'r cynghorau sir ar draws Cymru fod wedi bod yn cynllunio.

"Be' sy'n poeni ni nawr yw diffyg gofalwyr. Mae angen mwy o ofalwyr."

Mae angen i gyrff cyhoeddus a busnesau gydweithio i "ddihuno lan" i'r broblem sydd "ddim wedi mynd bant yn anffodus", meddai Elin Jones.

"Licsen i weld... ni'n dod â nifer o bobl at eu gilydd i feddwl am beth yw'r datrysiadau.

"Sut gall y cyrff cyhoeddus yna edrych ar fuddsoddi mewn gwahanol gynlluniau fydd yn gallu sicrhau bod ganddo ni well canlyniadau mewn 10 mlynedd. Ond bod e'n cael ei arwain gan bobl ifanc.

"Roedd 'na gynllun tua 20 mlynedd nôl yn yr ardal yma - Llwybro - lle roedd yna gysylltiad gyda'r bobl ifanc yn cael ei gynnal.

"Roedd yr awdurdodau - Awdurdod Datblygu Cymru bryd hynny - yn cadw'r cysylltiad gyda'r bobl ifanc am y cyfleoedd oedd yma.

"Dwi'n sicr yn credu bod angen cynllun a bach o strwythur i gadw cysylltiad gyda'r bobl ifanc hynny sy'n gadael ein hysgolion ni i fynd i goleg bant neu i weithio bant."

Disgrifiad o’r llun,

Galwodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones hefyd am greu corff newydd i daclo'r broblem

Ar Dros Frecwast, dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, y byddai'r sefyllfa'n gallu peryglu dyfodol yr iaith hefyd.

"Mae dyfodol y Gymraeg yng Ngheredigion yn y fantol os nag yw pobl ifanc yno i'w siarad hi," meddai.

"Dwi ddim yn credu ei bod hi o fewn gallu cynghorau sir i wneud y math yma o waith, mae angen rhywbeth llawer iawn mwy grymus.

"Nid llywodraeth, nid Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, ond sefydliad arall sydd â'r grym i wneud y math yma o waith i ddeall y sefyllfa ar draws Cymru, ond i weithredu yn llawer iawn mwy lleol - corff hyd braich i lywodraeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ardal sy'n denu ymwelwyr, ond sut mae cadw pobl ifanc yng nghefn gwlad mewn siroedd fel Ceredigion?

Dyw'r sefyllfa ddim yn unigryw i Gymru. Mae'n batrwm sydd i'w weld ledled y byd.

Yn Yr Eidal, er mwyn denu pobl ifanc mae rhai pentrefi wedi bod yn gwerthu hen gartrefi am €1 i geisio denu pobl ifanc i fagu teuluoedd yno.

Mae angen i lywodraethau yn lleol ac yn genedlaethol ymateb i'r her, yn ôl yr Athro Rhys Jones, sy'n arbenigo mewn daearyddiaeth ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae angen "cynllunio bwriadol" meddai, gyda rhoi arian i bobl ifanc a theuluoedd yn "un opsiwn".

"Ond wrth gwrs yr eironi arall sydd fan hyn, falle bod ni'n gweld dechrau proses sydd yn mynd i fod yn fwy dylanwadol yn y dyfodol, ni'n gweld hyn yn digwydd ar yr union adeg pan ry'n ni wedi codi wal o amgylch Prydain i bob pwrpas yn sgil Brexit, wedi gwneud mudo i'r wlad yn anoddach na beth fydde fe wedi bod yn y gorffennol.

"Efallai ymhen 10 neu 20 mlynedd falle bydd yn rhaid ailedrych ar hyn ac yn gorfod agor y ffiniau unwaith eto achos bod angen y gweithwyr yma.

"Gweithwyr er mwyn cefnogi gwasanaethau, gweithwyr er mwyn talu trethi."

Pynciau cysylltiedig