Cyngor Ceredigion yn penderfynu cau tair ysgol wledig
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo argymhellion i gau tair ysgol wledig.
Yn ôl swyddogion addysg roedd angen cau ysgolion cynradd Beulah, Trewen a Chilcennin oherwydd niferoedd disgyblion isel a chostau uchel.
Dywed adroddiad y gallai'r penderfyniad arbed tua £220,000 y flwyddyn.
Roedd gwrthwynebiad wedi bod i'r cynllun yn lleo,l gydag ymgyrchwyr yn trefnu deiseb i fynegi eu tristwch ynglŷn â'r penderfyniad.
Ym mis Rhagfyr 2018 roedd gan ysgolion Beulah a Threwen gyfanswm o 18 disgybl rhyngddynt, tra bod 13 disgybl yng Nghilcennin.
Yn ôl yr adroddiad byddai cau'r ysgolion yn golygu gostyngiad sylweddol yn y gost fesul disgybl - gan ostwng o tua £7,500 i ryw £3,500 ar gyfartaledd.
Yn ystod ymgynghoriad statudol i'r cynllun roedd yna 65 gwrthwynebiad i gau Ysgol Trewen, naw ar gyfer Beulah a chwech yn achos Cilcennin.
Ar ôl i'r ysgolion gau mae disgwyl i ddisgyblion dderbyn lle mewn ysgolion cyfagos, gan gynnwys ysgolion Cenarth, Dihewyd a Felinfach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018