Dim gwobr er 'gwaith caled' Tŷ Pawb Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ty PawbFfynhonnell y llun, James Morris

Yr Horniman Museum yn Llundain enillodd wobr Amgueddfa'r Flwyddyn Art Fund 2022, ar draul Tŷ Pawb yn Wrecsam.

Roedd y ganolfan gelfyddydol, sydd wedi ei lleoli yng nghanol dinas fwyaf y gogledd, yn un o'r pump ar y rhestr fer.

Daw'r canlyniad wythnosau wedi i Wrecsam fethu â chipio dynodiad Dinas Diwylliant y DU 2025, er iddyn nhw gyrraedd y rownd olaf.

Cyfuniad o farchnad, orielau a gofodau cymunedol ydy Tŷ Pawb, a agorodd bedair blynedd yn ôl.

Siom - a balchder

"Yn amlwg dwi wedi fy siomi rhywfaint ond dwi'n falch iawn o'r gwaith caled mae pawb yn Nhŷ Pawb wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i roi Wrecsam ar y llwyfan rhyngwladol," meddai'r Cynghorydd Hugh Jones, sy'n gyfrifol am y celfyddydau ar Gyngor Wrecsam.

Bydd Tŷ Pawb yn derbyn £15,000 am gyrraedd y pump olaf, tra bod y buddugwyr yn cael £100,000. Y nod, yn ôl y rheolwyr, ydy buddsoddi'r arian yng Ngofod Celf Defnyddiol Tŷ Pawb, sy'n cael ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol.

Yn y cyfamser, mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno i wneud cais ar gyfer statws Dinas Diwylliant 2029, tra bod y ddinas wedi gwahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal yn 2025.

Mae Tŷ Pawb, yn ôl y Cynghorydd Jones, "ynghanol" yr holl weithgarwch diwylliannol hwnnw.

Er hynny, nododd y cynghorydd mewn adroddiad diweddar bod diffyg ariannol o dros £100,000 gan y ganolfan yn 2021-2022, a bod llai yn ymweld nag yn y cyfnod cyn y pandemig.

Roedd yr adroddiad yn hyderus, wedi dweud hynny, y byddai'r sefyllfa'n gwella wrth i bobl ddychwelyd i leoliadau celfyddydol yn raddol.