Tŷ Pawb yn cael ei enwebu ar gyfer Amgueddfa'r Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan gelfyddydol "unigryw" yn ninas fwyaf y gogledd yn y ras i gipio gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn Art Fund 2022.
Pe bai Tŷ Pawb yn llwyddo, byddai'n "wobr i Wrecsam gyfan", yn ôl y cyfarwyddwr creadigol, Jo Marsh.
Cyfuniad o orielau, unedau marchnad a gofodau cymunedol ydy'r adeilad, a agorodd yn 2018 yn dilyn gwaith ailddatblygu gwerth £4.5m.
Yn ôl Ms Marsh, y ffordd mae'r gwahanol agweddau'n cydblethu, yn ogystal â'r pwyslais ar bobl a chymuned, yw'r prif resymau fod Tŷ Pawb ar y rhestr fer.
Daw'r enwebiad yn sgil cyfnod prysur ym mywyd diwylliannol yr ardal, a'r ymgais aflwyddiannus i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025.
Mae gwobr Art Fund yn dod gyda gwobr ariannol o £100,000 i'r amgueddfa fuddugol, ac mae'r pump sydd ar y rhestr fer yn cael £15,000.
Yn achos Tŷ Pawb, mae'r arian hwnnw'n mynd at weithgareddau yn eu Lle Celf Defnyddiol - gofod oedd gynt yn oriel.
"Dydan ni ddim yn rhaglennu'r gofod yna gydag arddangosfeydd bellach, ond gyda phobl," meddai Ms Marsh.
"Felly mae 'na ystod o grwpiau gwahanol yn dod i'r gofod pob wythnos."
Dywedodd bod y cyfuniad o fasnachu, celf a chymuned yn cynrychioli "math unigryw o wytnwch" ac mai dyna pam fod Tŷ Pawb wedi cael ei enwebu.
"Dydan ni ddim yn edrych arnyn nhw fel cymdogion sydd ar wahân a ddim yn perthyn i'w gilydd, ond fel un cynnig diwylliannol eang."
Ychwanegodd: "Roedd fa'ma, i raddau, yn lle annisgwyl i fod ar restr fer Dinas Diwylliant [2025]… ond digwyddodd hynny achos cyfoeth ein diwylliant, yr holl ieithoedd sydd o fewn y sir, y sîn gerddorol fyrlymus a'r sîn celf llawr gwlad.
"Felly, pe bai Tŷ Pawb yn ennill Amgueddfa'r Flwyddyn, byddai'n wobr i Wrecsam gyfan, mewn gwirionedd."
Yr amgueddfeydd eraill ar y rhestr fer ydy'r Museum of Making yn Derby, yr Horniman Museum yn Llundain, y People's History Museum ym Manceinion a'r Story Museum yn Rhydychen.
Jenny Waldman, cyfarwyddwr Art Fund, yw cadeirydd y panel beirniadu, a dywedodd bod Tŷ Pawb yn "un o'r ymgeiswyr mwyaf anghyffredin".
"Un peth sydd wedi creu argraff arnom ni ydy bod 'na eglurder o ran amcan Tŷ Pawb i gynnwys pawb o'r gymuned yn Wrecsam a thu hwnt," meddai Ms Waldman.
Marchnad y Bobl oedd ar safle Tŷ Pawb cyn yr ailddatblygiad, gafodd ei gwblhau pedair blynedd yn ôl.
Cododd sawl problem yn ystod ei misoedd ar ei newydd wedd, gan gynnwys anghydfod rhwng Cyngor Wrecsam a stondinwyr a chwestiynau am reolaeth ariannol y ganolfan.
Mae Phil Phillips, sy'n arwain teithiau tywys am hanes yr ardal, yn credu bod y gymuned bellach wedi dechrau perchnogi'r safle.
"Mae 'di bod yn ara' deg achos y problemau i gyd, ond dwi'n siŵr eu bod nhw yn [ei berchnogi] rŵan," meddai.
"Heb ddim amheuaeth, mae o'n tyfu."
Ar yr un diwrnod ag ymweliad y beirniaid, roedd Mared Jones yn mwynhau cinio ger un o'r stondinau bwyd.
"Mae Tŷ Pawb yn lle delfrydol i blant gael rhedeg o gwmpas. Mae'n lle lyfli, efo digon o lefydd i fwyta a digon i'w wneud yma," meddai.
'Mae Tŷ Pawb yn sbesial'
Yn y dyddiau diwethaf mae arddangosfa newydd wedi agor yn oriel y ganolfan, sy'n dangos gwaith tecstiliau teilwyr a gweheuwyr.
Y prif atyniad ydy Cwilt y Teiliwr, darn gafodd ei greu gan ddyn o Wrecsam yng nghanol y 19eg ganrif.
Benthyciad yw'r eitem hon o Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, a enillodd gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn yn 2019.
Ar wal gyfagos mae gwaith Adam Jones, artist a theiliwr lleol sydd bellach yn byw yn Llundain. Mae o'n gwerthu dillad wedi ei ysbrydoli gan Wrecsam ei blentyndod yn y 1990au.
"Dwi'n jyst excited ein bod ni ar y shortlist, i fod yn onest, i bobl glywed am y pethau da sy'n digwydd yma," meddai.
"Doedd 'na ddim lot i'w wneud pan o'n i'n teenager, ond mynd i dre', siopa, mynd allan yn y nos ac yfed.
"Ond rŵan, mae 'na llefydd fel 'ma. Mae Tŷ Pawb yn sbesial, dwi'n meddwl."
Bydd enillydd gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn Art Fund 2022 yn cael ei gyhoeddi nos Iau, 14 Gorffennaf, ar The One Show ar BBC One.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021