Gŵyl Caradog: 150 mlynedd ers llwyddiant 'Côr Mawr Caradog'

  • Cyhoeddwyd
CaradogFfynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Caradog, neu Griffith Rhys Jones - un o arweinyddion côr pwysicaf Cymru?

Ganrif a hanner yn ôl fe deithiodd 500 o bobl o gymoedd y de i Lundain ac ennill cystadleuaeth gorawl oedd i arwain at Gymru yn cael ei galw'n 'Wlad y Gân'.

Ym 1872 fe enillodd 'y Côr Mawr' dan arweiniad Caradog, neu Griffith Rhys Jones, yn y Crystal Palace yn Llundain.

Dros y penwythnos, 150 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r gamp yn cael ei chofio mewn gŵyl yn ei dref enedigol, Aberdâr.

Roedd y côr yn cynnwys cantorion o bob cwr o dde Cymru - o Lanelli, Maesteg a Merthyr yn ogystal â chynrychiolaeth gref o Aberdâr a gweddill Cwm Cynon.

'Gwyrth'

"Gof oedd [Caradog] mae'n debyg o ran ei hyfforddiant - yn gweithio yng ngwaith haearn lleol yma yn Llwydcoed," meddai'r cyn-athro hanes o Aberdâr, y parchedig Hywel Davies.

"Dyn di-ddysg, ond wedi addysgu ei hunan.

"Undodwr oedd e, ac yn godwr canu gan helpu gyda'r ochr gerddorol yng nghapel Yr Hen Dŷ Cwrdd yn Aberdâr.

"Ond yn ifanc iawn fe gafodd e gyfrifoldeb i arwain côr Capel Bryn Seion yng Nghwmbach, ac yn cystadlu mewn eisteddfod yn Aberafan dan yr enw 'Caradog', ac o hwnnw wedyn daeth y llysenw arno fe'n barhaol."

Ar ôl llwyddiannau mewn eisteddfodau, daeth ei gamp fawr yn haf 1872 a'r gystadleuaeth yn Llundain oedd wedi'i threfnu gan gyfarwyddwyr cwmni'r Crystal Palace.

"Mae'n wyrth o beth," meddai Hywel Davies.

"Côr amatur fel 'na wedi mynd lan i Lundain ac ennill y brif wobr yn y gystadleuaeth gorawl yn 1872 ond nage dim ond unwaith na'th e… ond dwywaith - aeth e'n ôl yn 1873 ac ennill yr un gystadleuaeth gyda'r un llwyddiant.

"Côr amatur, cantorion amatur ond ei fod e wedi llwyddo rhoi sglein ar eu canu nhw."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cwpan Caradog sydd ar ddangos yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Fe enillodd y côr wobr o £1,000 yn 1872, a thlws enfawr werth £100,000 ar y pryd.

Mae'r tlws bellach yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Ymhlith y cannoedd oedd yn canu yn Llundain 150 o flynyddoedd yn ôl roedd Ebenezer Thomas o Faesteg a'i wraig Mary Ann.

'Côr Mawr Caradog'

Dywedodd eu gorwyres, Menna Thomas: "Mi oedden nhw'n falch iawn eu bod nhw'n aelodau o'r Côr Mawr - gymaint felly nes bod y frawddeg 'aelodau o Gôr Mawr Caradog' ar waelod eu carreg fedd.

"A phan ych chi'n ystyried bod fy hen dad-cu Ebenezer Thomas wedi marw yn 1935 a bod Mary Ann ei wraig wedi marw ym 1932 - dipyn o amser ar ôl y cystadlaethau 'ma, yna mae hwnna yn dangos pa mor bwysig oedd e iddyn nhw - chi ddim yn rhoi rhywbeth yn ddifeddwl ar eich carreg fedd, wedi'r cyfan."

I nodi canrif a hanner ers y gystadleuaeth, mae Gŵyl Caradog neu Caradogfest yn digwydd yn Aberdâr rhwng 15-17 Gorffennaf.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n fraint ffantastig," meddai arweinydd y côr, Mike Thomas

Mae 12 o gorau'r ardal yn perfformio ar hyd a lled y dref ar y prynhawn Sadwrn, gyda Chymanfa Ganu ar nos Sul, 17 Gorffennaf.

Mike Thomas, sy'n arwain Cantorion Cwmdâr a Chôr Meibion Cwmbach - ganodd gyda'r Stereophonics yn Stadiwm Principality fis Mehefin - fydd yn arwain y corau unedig yn ystod yr ŵyl, Côr Mawr 2022.

"Mae'n fraint ffantastig, fi'n edrych ymlaen," meddai Mr Thomas.

"Ni wedi cael ymarfer 'nôl ym mis Ebrill yn St Elvan, ac o'dd 300 o leisiau ar y pryd yn canu mewn eglwys, ac o'dd y sŵn yn fythgofiadwy, a phawb yn sylweddoli oedd hwn yn arbennig."

'Hwb i Gymru'

Roedd llwyddiant Côr Mawr Caradog wedi rhoi hwb i Gymru gyfan, yn ôl Hywel Davies.

"Dyma sail dwi'n credu i'r sôn am Gymru fel Gwlad y Gân - mi aeth y sôn am lwyddiant y côr mawr trwy Gymru benbaladr.

"O'dd e'n cael ei weld hefyd fel rhyw fath o iawn dros yr anfri a fwriwyd ar Gymru adeg Brad y Llyfrau Gleision.

"O'dd hwn yn adfer rhywfaint o hunan barch, a dyna dwi'n credu yw un o'r rhesymau pam oedd pobl mor barod i arddel llwyddiant y côr fel rhyw fath o wobr gysur i'r hyn a ddigwyddodd gynt."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hywel Davies fod Caradog yn "arwr cendlaethol"

Cafodd cofeb i Griffith Rhys Jones, neu Caradog, ei chodi ar y sgwâr ynghanol Aberdâr ym 1920, wedi'i dylunio gan Sir William Goscombe John.

Gobaith trefnwyr yr ŵyl yw bydd y digwyddiad hefyd yn codi ymwybyddiaeth o gamo y Côr Mawr 150 o flynyddoedd yn ôl.

"Mae'n dangos bod canu corawl yn parhau yn rhan o'n treftadaeth ni," meddai'r parchedig Hywel Davies.

"Mae e'n arddel dyn a oedd yn arwr cenedlaethol ar un adeg.

"Ac er mwyn cadw'r cysylltiad â chanu corawl mi fydd 'na Gymanfa Ganu yng Nghapel Green Street - cymanfa ganu ddwyieithog ac yn eciwmenaidd, fe fyddai'n cael y fraint i'w harwain hi a gobeithio daw nifer o bobl fel bo' ni'n cofio camp Caradog yn arwain y côr mawr ac yn hyfforddi pobl i ganu dan ddisgyblaeth gerddorol go iawn."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf

Mae Menna Thomas a'i theulu yn ymfalchïo yn y cysylltiad rhwng eu cyndeidiau nhw a'r Côr Mawr.

"Achos ei fod e wedi bod mor bwysig iddyn nhw, fel teulu mae e'n rhywbeth 'yn ni yn ei drysori," meddai.

"Ac yn bersonol, fel un sydd â hoffter mawr iawn o gerddoriaeth ac sy'n mwynhau canu mewn corau fy hun, dwi'n teimlo bod 'na gysylltiad arbennig rhyngddo ni."