Ymchwil yn datgelu'r cyswllt rhwng gwres eithriadol a thlodi

  • Cyhoeddwyd
Grangetown
Disgrifiad o’r llun,

Yn Grangetown, mae sawl ardal sy'n sgorio'n uchel o ran gwres

Mae'r bobl sy'n byw mewn ardaloedd o Brydain sydd â'r risg uchaf o ddioddef cyfnodau o wres eithriadol hefyd yn fwy tebygol o fod yn dlawd, yn ôl ymchwil newydd gan y BBC.

Yng Nghymru roedd dros hanner (57%) trigolion yr ardaloedd poethaf hefyd yn byw mewn amodau o amddifadedd.

Ardaloedd dinesig sy'n cael eu hamlygu yn y data gan fwyaf - gydag un ym mhob chwech cymdogaeth yng Nghaerdydd yn cyfuno'r pryderon am wres eithriadol a thlodi.

Mae'r newid yn yr hinsawdd sy'n digwydd o ganlyniad i allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cynyddu'r perygl o hafau crasboeth a chyfnodau o wres eithriadol.

Effaith ar drigolion incwm is

Sail yr ymchwil yw data gan gwmni Four Earth Intelligence, sy'n mapio'r ardaloedd lle gwelwyd tymheredd tir uwch o'i gymharu â'r rhanbarth gyfagos yn ystod y tri haf diwethaf

Ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban mae na' ddyfalu bod dros 6 miliwn o bobl yn byw yn yr ardaloedd yma - sydd, pan fo tymereddau'n codi'n uchel yn ystod misoedd yr haf, mewn perygl o gael eu taro waethaf gan wres eithriadol.

Mae'r BBC wedi cymharu pob cod post yn yr ardaloedd hyn â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cenedlaethol.

Y casgliad yw mai trigolion ar incwm is sydd fwyaf tebygol o fyw mewn llefydd lle mae gwres yn broblem gynyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrea Moore yn dioddef gyda COPD gan ddweud bod y gwres yn achosi i'w symptomau waethygu

Rhybuddio y gall hyn gael effaith ddifrifol ar iechyd pobl fregus mae arbenigwyr yn y maes.

"O'n i'n arfer caru torheulo," meddai Andrea Moore yn hiraethus.

"Ond erbyn hyn ar ôl pum munud [yn y gwres] dwi'n gorfod dod i mewn."

Mewn gwirionedd, cyn gynted â bod y thermomedr ar wal ei 'stafell fyw yn pasio 20°C, nid yw'n gadael ei fflat yn ardal Grangetown, Caerdydd "oni bai nad oes unrhyw ffordd o osgoi hynny".

'Mae dy fywyd di ar stop'

Cafodd y wraig 60 oed ddiagnosis o COPD ar ddechrau'r pandemig - cyflwr yr ysgyfaint sy'n achosi trafferth anadlu.

Mae tywydd cynnes yn gwaethygu'r symptomau ac yn ystod cyfnod hir o dywydd braf mae Andrea'n dweud ei bod hi "just yn eistedd tu mewn".

"Mae'n no-no llwyr i fi - dwi'n cau'r llenni, ac os yw hi'n really wael, mae'r ffan yn cael ei throi ymlaen, falle gyda photel o ddŵr wedi'i rewi o'i flaen.

"Mae dy fywyd di ar stop achos rwyt ti mo'yn mynd allan a mwynhau'r tywydd gyda ffrindiau neu dy deulu a gwneud be' ma' pawb arall yn ei 'neud.

"Ond ti ddim yn gallu anadlu achos mae'n rhy boeth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrea ei fod yn anodd anadlu oherwydd ei fod yn "rhy boeth"

Dywedodd Andrea bod ei bywyd wedi newid "mewn chwinciad" pan gafodd ddiagnosis wrth i'r cyfnod clo gyntaf gael ei gyhoeddi.

Roedd hi wedi gweithio ym myd arlwyo - weithiau chwech neu saith diwrnod yr wythnos - ond sylweddolodd na fyddai'i hiechyd yn caniatáu iddi barhau.

Dyw hi ddim yn synnu o weld y data'n awgrymu cysylltiad rhwng amddifadedd a'r rheiny sy'n byw mewn llefydd â risg uwch o ddiodde' gwres eithriadol.

Mae ardaloedd gwyrdd wedi'u "cymryd i ffwrdd ar gyfer adeiladu", meddai

"Mae 'na fwy o draffig a ma'r gwres yn dod oddi ar yr adeiladau."

Grangetown yw un o faestrefi mwya'r brifddinas - yn ardal fywiog ac amrywiol.

Ond mae hefyd yn cynnwys y bedair ardal â'r lefel ucha' o amddifadedd o ran tai yng Nghymru, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ansawdd aer yn aml yn waeth mewn ardaloedd difreintiedig, sy'n gallu gwaethygu effaith y gwres ar bobl

Mae 'na sawl cod post yma hefyd sy'n sgorio'n uchel o ran gwres, gan gynnwys un Andrea.

Mae'n dweud ei bod hi'n poeni am newid hinsawdd. Fel garddwr brwd, mae'n gofalu am randir y gymdeithas dai gerllaw a nifer o botiau o flaen ei bloc fflatiau.

"Hyd yn oed cyn fy niagnosis i ro'n i'n synhwyro bod hi'n mynd yn boethach - mae gen i blanhigion sy'n blodeuo fis Chwefror a Mawrth pan nad y'n nhw fod i wneud hynny tan yr haf," meddai.

"Nawr bod gen i COPD mae yn fy mhoeni i - fe allai achosi lot o broblemau i bobl â chyflyrau'r ysgyfaint fel fi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Fel mae'n digwydd mae stoc tai cymdeithasol Cymru ymysg yr hynaf yn Ewrop", medd Aled Guy o Dai Tarian

Mae cymdeithasau tai Cymru yn dweud bod addasu at dymereddau uwch yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Yn ôl Aled Guy, rheolwr cynaladwyedd a datgarboneiddio cymdeithas Tai Tarian, gall hyn olygu sicrhau "croes awyru" mewn adeiladau newydd, ac ystyried gosod "pethau fel canopies a blinds ar y ffenestri".

"Lle mae'n fwy o broblem yw lle ni'n trio retroffitio", meddai.

"Fel mae'n digwydd mae stoc tai cymdeithasol Cymru ymysg yr hynaf yn Ewrop.

"Mae cydweithio yn hanfodol ymysg asiantaethau, cymdeithasau a llywodraeth leol hefyd i oresgyn y broblem yma."

Mwy o bwysau ar ein cyrff

Rhybuddio mae'r corff sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd.

Gallai cyfradd y bobl sy'n marw o ganlyniad i orboethi fwy na dyblu o oddeutu 2.4 o bob 100,000 person y flwyddyn ar hyn o bryd, i 6.5 o bob 100,000 erbyn y 2050au.

"Da ni'n gwybod fod pobl â phroblemau'r galon a'r ysgyfaint yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd mwy difreintiedig," eglurodd Dr Sarah Jones, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus amgylcheddol gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Ond rydym hefyd yn gwybod bod yna nifer o amgylchiadau eraill sy'n amlygu'r effaith yna."

"Mae ansawdd aer yn tueddu i fod yn waeth mewn ardaloedd mwy difreintiedig, sy'n rhoi pwysau ar ein cyrff, felly rydych chi'n ychwanegu hynny at effaith y gwres a bydd pobl yn dechrau cael mwy o drafferth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru bod yr ymchwil diweddara'n "enghraifft arall sy'n dangos bod newid hinsawdd yn cael effaith sy'n anghyfartal ac yn anghyfiawn ar ein cymdeithas ni".

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi addasu rheolau adeiladu eleni er mwyn gorfodi datblygwyr i ystyried a lleihau'r risg o orboethi mewn datblygiadau newydd.

"Yr argyfwng hinsawdd byd eang yw'r mater mwyaf difrifol sy'n ein hwynebu ni, a mae wrth galon ein holl waith fel llywodraeth", meddai'r llefarydd.

Pynciau cysylltiedig