Mwy o blant Cymru yn byw mewn tlodi
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfran o blant mewn tlodi yng Nghymru wedi codi o 31% i 34%, yn ôl adroddiad newydd - er gwaethaf cwymp mewn rhannau eraill o'r DU.
Daw'r ffigyrau o ymchwil gan elusen End Child Poverty a Phrifysgol Loughborough, wnaeth graffu ar y flwyddyn 2020/21 - cyn i Covid ymyrryd ar addysg degau ar filoedd o blant.
Ystyrir i blant fyw mewn tlodi os yw incwm yr aelwyd fwy na 60% islaw'r cyfartaledd, wedi hepgor costau tai. Mae'r gyfradd ar ei gwaethaf yng Nghasnewydd.
Yno mae 36.3% o blant yn byw mewn tlodi, tra yng Nghaerdydd y ffigwr yw 36%, a 35.6% ar Ynys Môn.
'Diweddaru'n agweddau'
Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ati i lunio strategaeth gwrth-dlodi, yn ôl Ellie Harwood o'r Child Poverty Action Group, wnaeth weithio ar yr adroddiad.
"Mae'n rhaid i ni ddiweddaru'n agweddau tuag at dlodi plant," meddai.
"Allwch chi ddim hyd yn oed dechrau ar y gwaith heb gynllun lle mae pawb yn tynnu i'r un cyfeiriad.
"Os wnawn ni aros bum mlynedd am strategaeth arall, bydd llawer o'r plant yma wedi tyfu ac yna mae eu hunig gyfle nhw wedi mynd.
"Does dim angen i ni aros am strategaeth o San Steffan, allwn ni fwrw ati ein hunain heddiw."
Ond yn San Steffan mae'r arfau gorau - sef pwerau trethu a budd-daliadau - ar gyfer taclo tlodi plant, yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Dywedodd Ms Hutt ei bod hi wedi ymroi i ddiweddaru'r strategaeth gwrth-dlodi, ac fe fyddai'n gweithio dros yr haf i'w chyhoeddi eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU eu bod nhw'n cydnabod fod costau cynyddol yn effeithio ar fywydau pobl, a bod taliad o £1,200 yn cael ei wneud yn syth i'r teuluoedd mewn angen fwyaf.
Roedd £79m hefyd wedi'i dalu i lywodraethau datganoledig, meddai.
'Cost trafnidiaeth'
Yn ôl un ysgol yng Nghaerdydd, mae cost trafnidiaeth gyhoeddus yn atal plant rhag mynd i'r ysgol.
Mewn arolwg, daeth i'r amlwg fod 39% o rieni plant yn Ysgol Uwchradd Llanisien wedi dweud fod eu plentyn wedi colli diwrnod o ysgol gan nad oedd ganddyn nhw arian i dalu am y bws.
Mae Ruben yn mynychu'r ysgol ac hefyd yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Roedd rhai o ganfyddiadau'r arolwg yn "eithaf brawychus," meddai.
"Roedd pobl yn dweud pethau fel - wel, mae'n rhaid i mi benderfynu p'un ai i dalu fy miliau a'r rhent neu ddanfon fy mhlentyn i'r ysgol - a dyw hynny ddim yn benderfyniad dylai rhiant orfod gwneud."
Roedd hi'n hanfodol fod plant yn dod i'r ysgol, yn enwedig yn sgil y pandemig, ychwanegodd.
Mae Heledd Fychan AS Plaid Cymru wedi codi pryderon Ruben yn y Senedd.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n ofnadwy bo' ni'n gorfod sôn am un ai fod pobl yn cael pryd o fwyd neu gyrraedd yr ysgol - mae'r sefyllfa wedi gwaethygu cymaint ers i ni wneud y cytundeb cydweithio dwi'n meddwl.
"Ry'n ni'n wynebu sefyllfa argyfyngus."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd y byddai'r cyngor yn goruchwylio sut y bydd y grantiau o £2.2 miliwn ar gyfer costau byw yn cael eu gwario.
Cafodd yr arian ei neilltuo i'r cyngor fel rhan o gynllun costau byw £25m Llywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021