Disgyblion o gefndir difreintiedig dal ar ei hôl hi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mae llyfrgell wedi'i sefydlu yn Ysgol Gyfun Trorci i wella llythrennedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae llyfrgell wedi'i sefydlu yn Ysgol Gyfun Treorci i wella llythrennedd

Erbyn gwneud arholiadau TGAU mae addysg disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru tua dwy flynedd y tu ôl i'w cyfoedion a does 'na fawr o welliant wedi bod yn y sefyllfa yn y degawd diwethaf, yn ôl arbenigwyr.

Daw adroddiad newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) i'r casgliad bod y bwlch ar gyfartaledd yn 22 i 23 mis, gan gynyddu i 29 mis i'r plant tlotaf.

Mae'r data ar sail canlyniadau TGAU hyd at 2019 ond dywedodd ymchwilwyr bod y bwlch "bron yn sicr" wedi mynd yn fwy oherwydd effaith y pandemig.

Mae'r Gweinidog Addysg wedi disgrifio'r adroddiad fel un "digalon", ond mae'n mynnu bod "dull system gyfan" Llywodraeth Cymru yn ceisio cau'r bwlch cyrhaeddiad.

Mewn araith ddiweddar dywedodd Jeremy Miles bod effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn "yn bell tu ôl i le fydden ni wedi dymuno bod".

Dywedodd bod y darlun ar draws Cymru yn rhy amrywiol - "allwn ni ddim derbyn y sefyllfa yma", ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bod y sefyllfa yn ddigalon

Mae dadansoddiad yr EPI yn awgrymu bod y bwlch mwyaf - rhwng 25 a 28 mis - yn Wrecsam, Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.

Roedd y bwlch yn llai yng Nghaerdydd, Abertawe a Cheredigion ond roedd dal yn 17 i 20 mis.

Fe wnaeth ymchwilwyr gymharu data Cymru â Lloegr a chanfod bod yna fwlch o 18 mis dros y ffin.

Fe ddywedon nhw fod y sefyllfa yng Nghymru "yn arbennig o bryderus".

"Mae'r bwlch yng Nghymru yn fwy nag yw e yn Lloegr", meddai Luke Sibieta, cymrodor ymchwil gyda'r EPI.

"Ond i ddweud y gwir mae'r ddau yn siomedig tu hwnt a'n destun pryder achos mae'n ymddangos bod y sefyllfa braidd wedi gwella yng Nghymru a Lloegr dros y deg mlynedd diwethaf".

'Dim digon o ymdrech'

Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud bod mynd i'r afael â'r agendor anfantais yn brif flaenoriaeth "mae'n awgrymu un ai bod yr ymdrechion ddim yn effeithiol neu does 'na ddim digon o ymdrech wedi bod i leihau anghyfartaledd", ychwanegodd.

Mae adroddiad yr EPI yn galw am ddysgu gwersi gan dystiolaeth ryngwladol ac ysgolion yn y Deyrnas Unedig sydd wedi llwyddo i gau'r bwlch.

Dywedodd y Gweinidog Addysg ei fod yn bwriadu peilota ffyrdd i ddenu athrawon i ddysgu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a rhoi mwy o gymorth i arweinwyr ysgolion yn yr ardaloedd yno.

Gofynnodd hefyd am ymchwil ar effaith 'setio' disgyblion yn ôl gallu, fydd yn arwain at ganllaw cenedlaethol i ysgolion.

Mae Mr Miles yn cydnabod bod casgliadau'r adroddiad yn "ddigalon" ac fe ychwanegodd: "Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn edrych ar hyn fel rhan o'r system gyfan o'r blynyddoedd cynnar i'r uwchradd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen edrych ar lefelau sylfaenol llythrennedd yn yr ysgol gynradd pan maen nhw'n dod atom ni ar ddiwedd blwyddyn 6, medd Jennifer Ford

Mae Ysgol Gyfun Treorci yn rhan o brosiect RADY sef Raising the Attainment of Disadvantaged Youngsters.

Y nod yw cau'r bwlch cyrhaeddiad i ddisgyblion ac mae'r ysgol yn darparu hyfforddiant arbennig i athrawon.

Fe agorodd yr ysgol lyfrgell newydd y llynedd ac mae'r brifathrawes Jennifer Ford yn dweud fod hynny'n "rhan enfawr" o amcan yr ysgol i gael disgyblion i ddarllen.

Ond mae hi'n dweud ei bod hi'n siomedig nad yw'r "bwlch cyrhaeddiad wedi cau, er ei fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru".

"Mae'n rhaid i ni geisio meddwl a bod mor greadigol ag sy'n bosib gan edrych ar syniadau ar lawr gwlad," meddai.

"Mewn nifer o ysgolion uwchradd ry'n ni wedi ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu disgyblion blwyddyn 11 i gael y cymwysterau hynny.

"Ond mae angen edrych ar lefelau sylfaenol llythrennedd yn yr ysgol gynradd pan maen nhw'n dod atom ni ar ddiwedd blwyddyn 6," meddai.

Mae hi'n dweud bod y darlun yn un "cymysg", gan ychwanegu: "Nid dim ond dysgu ac addysgu ydy hyn. Mae'n ymwneud â phopeth o fewn lles a gofynion y person ifanc a'u teuluoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Luke Sibieta, un o'r ymchwilwyr, bod angen i grantiau fod yn uwch

Y grant Datblygu Disgyblion sydd wedi bod yn ganolog i ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae arian yn cael ei roi i ysgolion am bob disgybl sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim neu sy'n derbyn gofal.

Mae 'na grantiau ar gael i deuluoedd hefyd i helpu gyda chostau gwisg ysgol ac offer.

Dywedodd Luke Sibeita bod y grant "yn beth da" ond "i fod yn blwmp ac yn blaen mae angen iddo fod yn uwch".

Dywedodd yr EPI y dylai'r ymchwil ysgogi trafodaeth yng Nghymru am y rhesymau dros y sefyllfa siomedig a beth a ellir ei wneud i'w gwella.