Cynghorydd: Ymddygiad landlord stad ym Môn yn 'ffiwdal'
- Cyhoeddwyd
Mae landlord stad ar Ynys Môn wedi cael ei gyhuddo o ymddwyn yn "ffiwdal" dros gynlluniau i droi tenantiaid allan o'u tai er mwyn eu troi yn llety gwyliau.
Fe wnaeth tua dwsin o bobl ymgynnull y tu allan i Ystad Bodorgan ddydd Gwener mewn protest.
Daw ar ôl i bryderon am y mater gael eu codi gan Rhun ap Iorwerth - Aelod o'r Senedd Ynys Môn - yn y Senedd ddydd Mawrth.
Mae Ystad Bodorgan yn eiddo i George Meyrick - sydd hefyd yn berchen ar Hinton Admiral yn Hampshire - ac mae'n cynnwys llawer o ffermydd ac eiddo yn ne-orllewin yr ynys.
Dydy'r stad ddim wedi ymateb i sawl cais am sylw gan BBC Cymru.
Ymhlith y rheiny aeth i'r stad i leisio'u hanfodlonrwydd oedd cynghorydd sir yr ardal, Arfon Wyn, a gymharodd y sefyllfa "i'r Highland Clearances" hanesyddol yn Yr Alban.
"Allai'm credu pa mor ffiwdal ydy hyn," meddai.
"Mae gan y bobl fawr 'ma cymaint o afael ar yr ardal o hyd, ac mae o'n fy nychryn i fod nhw'n medru, yn ein hoes ni, yn medru gwneud rhywbeth tebyg.
"Ges i un ddynes yn ei dagrau yn dod ata i yn Aberffraw yn d'eud: 'Dwi'n cael fy nhaflu allan o nhŷ mis Awst yma, a dwi'm isio mynd. Dwi 'di cael notice i fynd.'"
Dywedodd bod "prinder tai" yn yr ardal eisoes i bobl ifanc, oherwydd nifer y tai haf ar yr ynys, ac y byddai cynlluniau Stad Bodorgan yn gwaethygu'r sefyllfa.
"Mae hyn yn mynd rhy bell... 'dan ni angen bob tŷ fedrwn ni gael i bobl gael byw ynddyn nhw drwy'r flwyddyn."
Ychwanegodd Osian Jones o ymgyrch 'Nid Yw Cymru Ar Werth' ei bod hi'n "gyfan gwbl annerbyniol" os oedd y stad yn dewis gwneud hyn er mwyn gwneud rhagor o elw.
"Un teulu yn cronni cymaint o arian a thir a tai i'w hunain - dwi'n meddwl bod o'n sefyllfa hollol, hollol anfoesol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2022