Bodorgan: 'Troi tenantiaid allan i greu llety gwyliau'
- Cyhoeddwyd
Mae tenantiaid ystadau gwledig ar Ynys Môn wedi cael cais i adael "er mwyn i'w cartrefi gael eu troi'n llety gwyliau", yn ôl yr Aelod o'r Senedd lleol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth yn siambr Senedd Cymru ddydd Mawrth fod etholwyr sy'n denantiaid ar Ystad Bodorgan wedi cysylltu i ddweud bod "tenantiaid tymor hir yn cael eu troi allan er mwyn troi eu cartrefi yn llety gwyliau tymor byr".
Mae Ystad Bodorgan yn eiddo i George Meyrick - sydd hefyd yn berchen ar Hinton Admiral yn Hampshire - ac mae'n cynnwys llawer o ffermydd ac eiddo ar yr ynys.
Gofynnwyd i'r Ystad wneud sylw.
'Braint hanesyddol'
Roedd yr Ystad yn gartref i Ddug a Duges Caergrawnt pan oedd y Dug yn gweithio fel peilot hofrennydd gyda'r awyrlu, ac mae wyth eiddo wedi eu rhestru fel tai haf ar y wefan.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Drwy fraint hanesyddol mae Ystad Bodorgan yn landlord pwysig iawn.
"Mae'r ystad yn berchen ar lawer o dai, ond rydw i wedi siarad â thenantiaid sy'n dweud eu bod wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt adael er mwyn troi eu cartrefi yn llety gwyliau."
Cymharodd Mr ap Iorwerth y gweithredu honedig â Chliriadau Ucheldir yr Alban yn y 18fed a'r 19eg ganrif, lle'r oedd tirfeddianwyr yn troi crofftwyr allan o'r tir i wneud lle ar gyfer pori da byw yn ddwys.
Meddai, "ar Ynys Môn yn yr 21ain ganrif mae'n dwristiaeth, ond yr un yw'r egwyddor".
'Pryderus'
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn "bryderus" am yr hyn yr oedd wedi'i glywed gan Mr ap Iorwerth a'i fod am weld tystiolaeth bellach.
"Ni all pobl yn syml gael eu troi allan trwy gael cais i adael, mae yna reolau a gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i landlordiaid gadw atynt ym mhob sector," meddai.
Cysylltwyd ag Ystad Bodorgan am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022