Ail gartrefi: 'Amhosibl gwybod faint yn union sydd ar hyn o bryd'
- Cyhoeddwyd
Mae'n amhosibl gwybod faint yn union o ail gartrefi sydd yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Senedd Cymru.
Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio diffiniadau cyson o beth yw 'ail gartrefi' pan yn cynllunio polisïau.
Ond mae gormod o alw am ymchwil pellach yn hytrach na gweithredu yn argymhellion yr adroddiad yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Mae mynd i'r afael â'r cynnydd mewn ail gartrefi yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Ar hyn o bryd, meddai'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, mae'r data a gesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru ond yn gallu mesur sawl eiddo sydd wedi cael ei brynu gan unigolion lle nad oedd yr eiddo i fod yn brif breswylfa.
Ond medd y pwyllgor, "pwynt hollbwysig yw ni all wahaniaethu rhwng buddsoddiadau prynu i osod ac eiddo y gellir eu hystyried yn ail gartrefi neu yn llety gwyliau, sy'n golygu ei bod yn amhosibl gwybod faint yn union sydd ym mhob categori".
Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag Awdurdod Cyllid Cymru "i sicrhau bod data ar ail gartrefi ac eiddo prynu i osod yn cael eu gwahanu'n glir, a'u bod ar gael ar lefel gymunedol i helpu i lywio polisïau yn y dyfodol."
'Ble mae'r brys?'
Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith dydy'r argymhellion ddim yn cyfleu maint na difrifoldeb y broblem.
Dywedodd Jeff Smith ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Mae cael cartref yn broblem real ac yn broblem nawr, ond does dim awgrym o frys yn yr argymhellion, dim ond gofyn am ddiweddariadau am gynlluniau sy'n bodoli yn barod, cynnal ymchwiliadau pellach a chreu comisiwn newydd, nad yw'n glir beth fydd ei rôl.
"Mae'r adroddiad fel petai'n awgrymu y bydd gwerthusiad llawn o'r cynllun peilot yn Nwyfor ar ddiwedd y cynllun ac mai dim ond wedi hynny y bydd mesurau yn cael eu ehangu.
"Pam na ellid dechrau rhoi mesurau llwyddiannus ar waith yn ehangach yn syth? Ble mae'r brys?"
'Bydd dim cymuned ar ôl'
Mae Rachel Lewis o Solfach, sir Benfro, yn pryderu am effaith ail gartrefi ar ei chymuned hi.
Meddai, "Rydych chi'n tyfu i fyny ac yn mynd i'r brifysgol i gael gradd, ac rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gwneud 'y peth iawn' a byddwch chi'n gallu symud yn ôl a byw ar bwys eich teulu - ond dyw hi ddim yn bosibl.
"Dwi wedi symud wyth gwaith mewn dwy flynedd - yn byw yn nhai haf pobl, mewn iwrts ac mewn carafanau."
Ychwanegodd, "Fan hyn, dyw cyflogau ddim yn cymharu o gwbl â phrisiau tai, dyw e ddim yn agos. Mae hyd yn oed yn anodd dod o hyd i rywle i'w rentu gan mai llety gwyliau neu Air BnBs yw'r cyfan yn hytrach na lleoedd rhentu tymor hir.
"Mae pobl yn dod yma oherwydd eu bod yn caru'r arfordir a'r gymuned fach hynod, ond yr eironi yw, os yw pethau'n para fel maen nhw, fydd ddim cymuned ar ôl."
Yn ôl John Griffiths AS, cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, "Mae 'ail gartrefi' yn fater emosiynol i gymunedau ledled Cymru, ond mae'n bwysig sicrhau cynaliadwyedd cymunedau gwledig ac arfordirol ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.
"Mae defnyddio diffiniad cyson o beth yw 'ail gartref', sicrhau bod data cywir yn cael eu casglu, a chadw llygad barcud ar y cynllun peilot yn Nwyfor i gyd yn flaenoriaethau."
Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru am ymateb i'r adroddiad.
Wrth ymddangos gerbron y pwyllgor fis diwethaf, rhybuddiodd y gweinidog Julie James bod "heriau cymhleth" a bod angen "osgoi canlyniadau anfwriadol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021