Rhybudd am stormydd o daranau yn y canolbarth a'r de ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd
rhybudd diweddarafFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae rhybudd melyn am stormydd o daranau mewn grym yng Nghymru ddydd Gwener.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dolen allanol, bydd rhan helaeth o'r wlad yn wynebu glaw trwm a stormydd rhwng 10:00 a 22:00.

Daw'r rhybudd yn dilyn cyfnod o dywydd crasboeth ledled y wlad - gyda'r record am y tymheredd uchaf yn cael ei chwalu ddwywaith ddydd Llun.

Cafodd y rhybudd tywydd ei gyhoeddi gyntaf ddydd Iau cyn cael ei ymestyn i gynnwys rhannau o ogledd ddwyrain Cymru ddydd Gwener.

Y 15 ardal awdurdod lleol sydd bellach yn dod o dan y rhybudd yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr,, Caerffili, Caerdydd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig