Ysgolion o Gymru yn rowndiau terfynol neidio ceffylau

  • Cyhoeddwyd
Chloe, Megan a Sally o Ysgol Greenhill
Disgrifiad o’r llun,

Chloe, Megan a Sally o Ysgol Greenhill

Mae ysgolion o Gymru wedi sicrhau lle yn rowndiau terfynol cystadleuaeth Neidio Ceffylau Ysgolion Prydain ar ôl cyrraedd brig y gynghrair.

Ym mhob categori, roedd yr wyth tîm uchaf ar draws y DU yn cymhwyso ar gyfer y rownd derfynol ac mae nifer o dimau o Gymru yn eu plith.

Ymhlith y rhai fydd yn cystadlu mae timoedd o ysgolion uwchradd Dyffryn Taf, Bishopston, Bro Preseli a Greenhill, ac fe fyddant yn cystadlu yn erbyn ysgolion ar draws y DU yn Stoneleigh ar 8 Awst.

Y ceffylau blaen

Yn ôl un o dimoedd Ysgol Dyffryn Taf, pencampwyr y tabl yn y naid 60cm, mae'r cyfle i gystadlu yn y rownd derfynol yn un cyffrous.

Dywedodd Nerys, aelod o dîm yr ysgol: "Fe wnaethon ni gystadlu mewn nifer o gystadlaethau a chael pwyntiau, a nawr ein bod ni wedi casglu'r pwyntiau hynny ry'n ni wedi cael digon i fod ar y brig.

"Mae'n deimlad da ac ry'n ni'n edrych ymlaen at fynd i Stoneleigh."

Hefyd yn yr wyth uchaf i gystadlu dros Brydain yn eu categorïau mae timoedd o Ysgol Bro Preseli. Nhw ddaeth yn ail yn nhabl y gynghrair yn y naid 60 a 80cm.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gwenan (chwith) y bydd hi a Molly yn ymarfer llawer dros yr haf

"Ni'n dîm agos iawn," meddai Gwenan o dîm 'Sêr' yr ysgol, sy'n cystadlu am y tro cyntaf eleni.

"Ry'n ni'n cael lot o hwyl yn gwneud y sioeau a chystadlu a jyst y teimlad yna o fod yn glwb a pherthyn i rywbeth."

Er y mwynhad, mae'n dweud bod rhaid hyfforddi'n galed nawr ar gyfer y gystadleuaeth, sydd wedi profi'n her ar adegau.

"Pan oedd profion gyda ni, roedd e'n eithaf caled i gadw i hyfforddi ond hefyd gwneud gwaith ysgol. Ond mae'n haf nawr, a byddwn ni'n mynd ati'n frwd i hyfforddi cyn y sioe yn yr haf."

Unigolion

Ynghyd â chystadlu fel tîm mae nifer o unigolion o Gymru hefyd wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Neidio Ceffylau Ysgolion Prydain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Connie o Ysgol Bro Myrddin ar frig y tabl naid 80cm

Allan o ryw 200 cystadleuydd ar draws Prydain, llwyddodd Connie ,14, o Ysgol Bro Myrddin gyrraedd brig y tabl yn y naid 80cm.

Hi yw un o'r 10 unigolyn gorau ar draws y DU fydd yn cystadlu yn Stoneleigh yn ei chategori.

"Mae lot o baratoi i fod yn onest" meddai. "Mae 'da ceffylau ymennydd eu hunain felly dy'ch chi ddim yn gwybod os mae e'n mynd i fod yn dda neu ddim. Mae angen paratoi lot am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Maisie yn cystadlu'n unigol ac ymhlith y cystadleuwyr ieuengaf

Ymhlith yr ieuengaf o Gymru i gystadlu'n unigol mae Maisie o Ysgol Penparc. Yn 10 oed, fe sicrhaodd le yn y 10 uchaf mewn dau gategori, sef y naid 60cm a'r naid 70cm.

Gan gystadlu am y tro cyntaf, mae'n dweud bod hi a'i cheffyl 'Nicky', sy'n "dda ac yn gloi", yn edrych ymlaen at y rownd derfynol.

Cyfleoedd i bobl ifanc

Mae Heather Jenkins, un o sylfaenwyr Clwb Neidio Ceffylau Caerfyrddin wedi trefnu nifer o gystadlaethau neidio i bobl ifanc yn lleol.

Iddi hi, mae'n hollbwysig bod pobl ifanc yn medru cystadlu yn y gamp, ennill pwyntiau a chael y cyfle i fynd ymlaen i gynrychioli eu hysgolion ar lefelau uwch.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwysig rhoi cyfle i bawb," medd Heather Jenkins

"'Na beth o'n i moyn o'dd rhoi chance i bobl leol i gael mynd 'mlaen i'r British National Championships," meddai.

"Os na fydden i 'di rhoi rhain arno [y cystadlaethau], bydde dim chance gyda nhw."

Ers cynnal y cystadlaethau dros y degawd diwethaf, mae Ms Jenkins yn dweud mai eleni yw'r flwyddyn gyntaf iddi weld gymaint o bobl ifanc o Gymru'n cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Neidio Ceffylau Ysgolion Prydain.

"Dwi'n credu bod y gystadleuaeth yma wedi tyfu ac mae plant wedi gweld bod dim rhaid cael ponis drud. Mae'r gystadleuaeth 'ma yn rhoi chance i bob plentyn," meddai.

"Mae'r gefnogaeth o'r ysgolion wedi bod yn rhagorol. Ni'n gobeithio nawr bod nhw'n gweld bod rhywbeth arall i gael, dim jyst ffwtbol, rygbi a hoci - bod pobl arall yn gallu gwneud pethau gwahanol."

'Gallu bod yn gostus'

Mae'r gamp, fodd bynnag, yn medru bod yn un costus.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gamp gostus a'r costau teithio wedi cynyddu yn ddiweddar," medd Bethan Scourfield

Dywedodd un o'r rhieni, Bethan Scourfield: "Mae gyda chi costau'r offer ac wedyn wrth gwrs mae'r costau teithio. Mae'r rheiny wedi bod tipyn yn fwy nawr yn y misoedd diwethaf yma."

Ychwanegodd rhiant arall, Michelle Hickin: "Dyw e ddim yn cheap ond dwi'n meddwl bod e'n sacrifice.

"Ni'n rhoi'r arian mewn achos dy'n ni ddim yn gwybod, falle bydd hi [ei merch] yn broffesiynol mewn blynyddoedd i ddod."

Gydag ychydig o amser yn unig cyn y diwrnod mawr, carlamu i'r brig yw gobaith y timoedd a'r unigolion o Gymru, gan ddangos i ysgolion Prydain mai nhw yw'r ceffylau blaen.

Pynciau cysylltiedig