Dysgwyr y Flwyddyn 2022: Dod i adnabod Joe Healy

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Joe Healy
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd yr iaith Gymraeg yn rhan o fy mywyd am weddill fy mywyd," meddai Joe Healy

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion, un o'r seremonïau ar lwyfan y pafiliwn ddydd Mercher fydd cyhoeddi enw Dysgwr y Flwyddyn 2022.

Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae Cymru Fyw wedi cael cyfle i gwrdd â'r ymgeiswyr.

O Wimbledon yn ne Llundain y daw Joe Healy ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd.

Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018.

'Mynd mas 'da Chymraes'

"O'dd da fi ddiddordeb mewn ieithoedd yn barod," meddai.

"O'n i'n astudio Sbaeneg ac wedi dysgu Catalaneg - trwy hwnna hefyd felly o'n i'n ymwybodol o'r Gymraeg erbyn i fi orffen fy ngradd.

"Ond beth ddigwyddodd i fi, 'nes i ddechrau mynd mas gyda Chymraes oedd yn dod o Geredigion, ac o'dd hi yn helpu fi i ddysgu'r iaith Gymraeg...

"Ond ddim jyst achos o'dd hi'n helpu fi ac o'dd 'da fi ddiddordeb, ond achos o'n i wedi bod 'da hi mewn sefyllfaoedd lle o'n ni'n siarad gyda phobl dim ond yn Gymraeg trwy'r amser, so i fi o'dd hwnna'n ysbrydoliaeth cynta' rili."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst

Gyda'i brofiad o ddysgu sawl iaith, mae'n cymharu'r profiad o feistroli'r Gymraeg gyda'r lleill.

"O'n i'n ffeindio fe'n anoddach na Sbaeneg a Chatalaneg achos bod e mor wahanol yn ieithyddol i'r Saesneg," meddai Joe.

"Ond hefyd o'n i'n dechre dod i 'nabod yr iaith Gymraeg a dod i 'nabod y diwylliant achos o'n i'n byw yma, so doedd e ddim yn teimlo fel iaith o'n i'n dysgu mas o lyfr neu mewn gwersi.

"O'n i'n dysgu trwy siarad gyda phobl mewn sefyllfaoedd cymdeithasol - mynd i watsho cerddoriaeth Gymraeg, mynd i'r theatr a phethe fel hyn a mynd trwy'r broses o ddod yn Gymro."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe yn "benderfynol" o barhau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol

Un sydd wedi gweld gafael Joe ar yr iaith yn cryfhau dros y blynyddoedd yw ei gyfaill Elin Arfon.

"'Naethon ni gyfarfod am y tro cynta' yn 2018 pan oedden ni'n dechrau'n gradd meistr efo'n gilydd ac ar y pryd, o'dd Joe a fi'n siarad Saesneg efo ambell air o Gymraeg," meddai.

"Yn gyflym iawn mi 'aethon ni ati i ddechre siarad Cymraeg, achos o'dd e'n wych gweld Joe yn mynd o ychydig eiriau o Gymraeg i rywun wedyn o'dd yn gallu siarad yn hollol rugl efo fi."

Mae Joe yn dal i fyw yng Nghaerdydd ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol, ac mae'n dweud ei fod yn benderfynol o barhau i wneud hynny ac aros yng Nghymru.

'Rhan o fy mywyd am weddill fy mywyd'

"Fi'n gweld yr iaith Gymraeg fel rhywbeth fi eisiau cario ymlaen gyda, fi ddim ishe colli fe - fi wedi clywed gymaint o straeon o bobl fi'n nabod sydd 'di colli'r iaith - dysgu fe a wedyn colli fe ar ôl peidio'i defnyddio hi dros amser.

"Dwi'n sicr yn mynd i aros yng Nghymru a fi'n siŵr bydd yr iaith Gymraeg yn rhan o fy mywyd am weddill fy mywyd siŵr o fod."

Roedd clywed ei fod wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn dipyn o syndod.

"Bach o sioc a bod yn onest - do'n i ddim yn gwybod 'mod i wedi cael fy enwebu - nes i dderbyn e-bost yn dweud llongyfarchiadau, a dyna'r peth cynta' o'n i'n gwybod amdano fe!

"O'n i'n gwybod bod cystadleuaeth yn bodoli, ond do'n i ddim wedi rhoi fy hunan ynddo fe."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cystadleuwyr dysgwr y flwyddyn eleni. O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Stephen Bale, Joe Healy, Sophie Tuckwood a Ben Ó Ceallaigh

Mae clywed profiadau y tri arall fydd yn cystadlu yn ystod yr Eisteddfod yn Nhregaron wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo.

"Fi wedi bod yn gwrando ar Radio Cymru a gwrando ar bobl eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol - a fi'n sylwi weithiau mae'n teimlo mai fi yw'r unig un sydd wedi dysgu - fi wedi siarad gyda chymaint o bobl sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf," meddai Joe.

"Mae'n grêt gwybod bod pobl mas 'na hefyd sydd wedi cyrraedd yr un safon lle y'f fi, ac sy'n defnyddio Cymraeg yn eu cymunedau nhw hefyd.

"Mae'n wych gwybod bod yr iaith Gymraeg yn iach, a mae'n tyfu."

Mae Joe yn dweud ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i'r Eisteddfod - ei ymweliad cyntaf â Thregaron a'i brofiad cyntaf o'r brifwyl ar faes traddodiadol ar ôl bod yn y brifwyl yn 2018 a gafodd ei chynnal ym Mae Caerdydd.

Yn ystod yr wythnos cawn glywed am brofiadau y tri dysgwr arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn 2022.