Dysgwyr y Flwyddyn 2022: Cwrdd â Stephen Bale
- Cyhoeddwyd
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion eleni, un o'r seremonïau ar lwyfan y pafiliwn fydd cyhoeddi enw Dysgwr y Flwyddyn 2022.
Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae Cymru Fyw wedi cael cyfle i gwrdd â'r ymgeiswyr.
"Dwi wastad wedi teimlo'n gryf dros yr iaith - cyn i fi ei siarad hi o gwbl," meddai Stephen Bale.
Bellach yn byw ym Magwyr, Sir Fynwy, cafodd Stephen ei fagu yn ardal Castell-nedd, gan ddechrau dysgu'r Gymraeg yng Nghwm Tawe wedi gadael y brifysgol yn y 70au.
Ond fe symudodd dros y ffin i weithio yn Llundain, a byw am flynyddoedd yng Ngwlad yr Haf.
Am flynyddoedd roedd yn ohebydd rygbi gyda rhai o bapurau amlyca' Prydain - yr Independent, Express a'r Sunday Times.
"R'on i gyda'r papurau yn Llundain - yn Fleet Street fel petai - am ryw dri degawd," meddai.
"Gohebydd rygbi yr Independent o'n i, wedyn yr Express, wedyn des i'n ôl i Gymru i weithio i'r Sunday Times ar ddiwedd fy ngyrfa.
"Fi 'di mynychu mwy na 500 o gemau rhyngwladol, 'di dilyn saith neu wyth taith y Llewod, saith Cwpan y Byd - y Cwpan y Byd ola' yn Japan, dyna oedd yr un cynta', i fi golli am ddegawdau."
Cofio Eisteddfod 1978
Ond cyn symud i Loegr, bu'n gweithio i rai o bapurau Cymru, gan gynnwys y South Wales Evening Post yn Abertawe.
Un o'r straeon bu'n gweithio arni oedd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd ym 1978.
"Yn ystod fy ngyrfa, fy mwriad trwy'r amser oedd dychwelyd i Gymru i fyw, ac wrth gwrs pan oedd amser gyda fi ar ôl i fi ymddeol... wel dyna beth o'n i mo'yn gwneud yn unionsyth sef dysgu neu ailddysgu y Gymraeg."
Ar ôl meistroli'r iaith, mae bellach yn rhan o fywyd Cymraeg Sir Fynwy.
"Fi 'di cael cymaint o gymorth trwy'r broses, gyda pobl sydd 'di helpu fi yn lleol yma trwy'r pum mlynedd diwetha' - hebddyn nhw fydda'i ddim wedi bod yn bosib o gwbl, felly nawr fi'n trio helpu pobl eraill.
"Fi'n aelod o'r fenter yn lleol - Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, dwi ar y bwrdd. Hefyd fi yw'r ysgrifennydd felly bydd raid i fi gymryd y cofnodion pob cyfarfod a hynny yw'r peth anoddaf i fi 'neud yn y Gymraeg heb os nac oni bai!"
Mae Stephen hefyd wedi cymryd rhan yng Nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lle mae dysgwyr yn paru gyda siaradwyr rhugl.
Dysgwyr y Flwyddyn 2022: Pwy yw'r tri arall ar y rhestr fer?
Ar ôl gwneud hynny fel dysgwr rai blynyddoedd yn ôl, mae newydd gwblhau ail gynllun fel y siaradwr rhugl.
"Mae wedi bod yn dda iawn. Ar y cynllun cynta', roedd fy mhartner yn dod yn wreiddiol o Gwm Tawe a gyda'r un yn ddiweddar, mae fy mhartner i yn byw yn lleol ond hefyd yn dod o Gwm Tawe - o'r un pentre', Gellinudd, lle o'n i'n byw ar ôl ein priodas... cyd-ddigwyddiadau trwy'r amser!"
'Brwdfrydedd arbennig'
Un o'r rhai fu'n annog Stephen i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn oedd ei diwtor, Helen Morfudd.
"Mae wedi gweithio'n galed, ond mae hefyd yn siarad yn naturiol erbyn hyn," meddai Helen.
"O'dd e wastad yn mynychu digwyddiadau - unrhyw beth ychwanegol tu fas i'r dosbarth, fe oedd y cynta' ar y rhestr. O'dd e wastad yn gwneud y gwaith cartref - mae ei frwdfrydedd yn rhywbeth arbennig."
Mae Stephen wedi synnu braidd ei fod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn yr Eisteddfod eleni.
"Roedd e'n sioc, syndod - dwi ddim yn credu bod fy Nghymraeg yn ddigon da a dweud y gwir, i fod yn y pedwar ola'!
"Dwi'n credu eu bod nhw'n chwilio am rywun sy'n trio helpu'r iaith yn ogystal â dysgu'r iaith yn y lle cynta', so falle ma' hynny yn bwysig."
Felly mae'n edrych ymlaen at y profiad o fod ar y Maes yn Nhregaron.
"Mae'n gyffrous rhaid dweud, fi'n chuffed iawn i gyrraedd y rownd derfynol, ond fi'n nerfus iawn!
"Fi wastad yn poeni nad ydw i'n mynd i ddeall y cwestiwn, er enghraifft, a bod yn rhaid i fi ofyn i'r person ailadrodd y cwestiwn, neu fi'n gw'bod pob tro fi'n agor fy ngheg fi'n neud gwallau!"
Ond mae cyrraedd y rownd derfynol yn dipyn o gamp.
Cafodd 18 o unigolion eu cyfweld eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi'u henwebu.
Yn ôl y beirniaid, roedd y safon eleni'n uchel iawn, ac y byddai wedi bod yn hawdd iawn i ddewis wyth i fynd yn eu blaenau i'r rownd derfynol.
Fe fydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddydd Mercher, 3 Awst am 15:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022