Apêl i ganfod hanes lluniau o Ynys Môn oedd mewn sgip

  • Cyhoeddwyd
Llun BurrowsFfynhonnell y llun, Archifau Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Ydych chi'n adnabod y siop anarferol yma, sy'n gwerthu cymysgedd eclectig o feiciau, recordiau, batiau criced a byrddau dartiau?

Mae hanes casgliad o luniau a gafodd eu canfod wedi'u gadael mewn sgip yn parhau i achosi penbleth i haneswyr ac archifwyr ar Ynys Môn.

Mae 'Casgliad Burrows' yn cael ei gadw gan wasanaeth archifau'r cyngor, ac yn cynnwys lluniau du a gwyn a gafodd eu cymryd gan ffotograffydd o Gaergybi.

Roedd y ffotograffydd yma, RLV Burrows, yn croniclo pob agwedd o fywyd ar yr ynys yn ystod gyrfa a barodd ddegawdau lawer yn ystod yr 20fed ganrif.

Ond pan ganfuwyd y lluniau ychydig flynyddoedd yn ôl mewn sgip, doedd dim gwybodaeth am ble y cymerwyd nhw na phwy sydd ynddynt.

Ffynhonnell y llun, Archifau Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Oes rhywun yn adnabod y ddwy fenyw yma, neu'n gallu egluro beth sy'n mynd 'mlaen yn y llun?

Mae archifwyr, staff a gwirfoddolwyr yn Llangefni wedi bod yn asesu'r ffotograffau er mwyn ceisio eu dyddio a chanfod pam eu bod wedi'u cymryd.

Mae un o'r lluniau dan sylw yn dangos siop anarferol sy'n gwerthu cymysgedd eclectig o feiciau, recordiau, batiau criced a byrddau dartiau.

Mewn un arall mae dwy ddynes yn coginio, yn sefyll wrth ochr dwy sosban enfawr gyda phlatiau mawr o fwyd.

'Efallai y bydd rhywun yn gwybod'

Dywedodd uwch-archifwr Ynys Môn, Kelly Parry: "Dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd 'mlaen yn y llun 'na.

"Fe allen nhw fod yn rhoi cymorth o ran bwyd yn ystod, neu yn y cyfnod ar ôl y rhyfel - efallai ei fod yn ystod cyfnod dogni bwyd.

"Dydyn ni ddim yn gwybod, ond 'dyn ni'n gobeithio efallai y bydd rhywun allan 'na.

"Mae'r llun o'r siop yn gwerthu beiciau yn wych.

"Mae'r siop i weld yn cynnig casgliad od iawn o bethau - efallai bod rhywun yn cofio prynu record neu fwrdd dartiau?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kelly Parry yn annog unrhyw un sydd â hen ffotograffau neu ddogfennau i gysylltu â nhw cyn eu taflu i'r sbwriel

Mae lluniau eraill yng Nghasgliad Burrows yn dangos bywydau pobl ar Ynys Môn yn yr 20fed ganrif - pobl ac anifeiliaid mewn martiau a sioeau lleol, hen dafarndai a bariau, siopau, pobl wrth eu gwaith ac ysgolion ac ystafelloedd dosbarth.

Mae'r casgliad yn un o amryw o eitemau hanesyddol sy'n cael eu cadw yng ngwasanaeth archifau Cyngor Ynys Môn.

'Pwy a ŵyr faint sydd wedi'u colli'

Mae'r staff yn ceisio annog mwy o ddefnydd gan y cyhoedd o'r casgliadau a'r adnoddau ar-lein, a dangos nad dogfennau llychlyd o ddiddordeb i academyddion yn unig ydy'r archifau.

Gyda mwy o bobl yn dangos diddordeb, maen nhw'n gobeithio y gall hynny arwain at wybodaeth well o Gasgliad Burrows.

Mae Ms Parry hefyd yn annog unrhyw un sydd â hen ffotograffau neu ddogfennau i gysylltu â nhw cyn eu taflu i'r sbwriel.

"Mae'n drist fod y lluniau Burrows wedi'u canfod mewn sgip - pwy a ŵyr faint o eitemau gwerthfawr sydd wedi'u colli i sgipiau dros y blynyddoedd.

"Mae'n rhaid bod yna lawer o bethau yn cuddio yn yr atig, mewn cypyrddau a siediau ar draws yr ynys all ein helpu ni i ddweud ei stori."