Dirgelwch graffiti i gofio am fandiau eiconig Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Mae graffiti wedi ymddangos yng nghanol Aberteifi sy'n talu teyrnged i rai o fandiau mwyaf nodedig yr ardal - ond mae 'na ddirgelwch am bwy sy'n gyfrifol am y gwaith.
Mae fideo cylch cyfyng, sydd wedi'i rannu gyda Cymru Fyw, yn dangos unigolyn gyda'i wyneb wedi'i orchuddio yn paentio'r graffiti yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn.
Roedd hyn ychydig oriau ar ôl cyngerdd arbennig i ddathlu 40 mlynedd o'r label recordiau lleol, Fflach, yng Nghastell Aberteifi.
Y llynedd, o fewn wythnosau i'w gilydd, bu farw tri o gewri cerddorol yr ardal - David R Edwards o'r band Datblygu, a'r brodyr Wyn a Richard Jones o'r band Ail Symudiad.
Wyn a Richard Jones hefyd sefydlodd label Fflach yn y dref.
Wedi i'r graffiti ymddangos ar wal maes parcio yn ardal Pwllhai y dref fore Sadwrn, fe aeth y cynghorydd tref Clive Davies ati i wylio fideo cylch cyfyng o'r ardal.
"Pob un dwi wedi eu holi, does neb yn gwybod pwy beintiodd e," meddai.
"Tua pump o'r gloch y bore, mae'r CCTV yn dangos person mewn hoodie a mwgwd, yn gwisgo du i gyd, yn cyrraedd gyda phaent - o'dd e wrthi'n peintio am tua tri chwarter awr.
"Dynnodd e luniau ar ei ffôn o'r graffiti ar ôl gorffen," medd Mr Davies, ond mae'n amhosib gweld ei wyneb.
"Dirgelwch yw e! Os ydyn nhw am gadw'r peth yn gudd, chwarae teg iddyn nhw.
"Mae'n ddarn o gelf hyfryd - mae sawl murlun gyda ni yma yn Aberteifi, ac mae'n ychwanegu at y dref."
Mae cwmni 4CG, sy'n rheoli'r maes parcio ble grëwyd y graffiti, wedi cadarnhau eu bwriad i gadw'r graffiti ar y wal fel dathliad o hanes a diwylliant Aberteifi.
'Dathlu arwyr y dref'
Dywedodd un o drigolion Aberteifi, Stuart Ladd, fod y llun yn ymddangos yn "steil Banksy" - yr arlunydd byd enwog sydd wedi gwneud ei farc yng Nghymru yn y gorffennol.
"Bu'n rhaid i fi wneud double take pan sylwais i ar y murlun," meddai Mr Ladd.
"Mae e'n deyrnged hyfryd i David R Edwards a'r brodyr Fflach - tri o arwyr y dref."
Fe fyddai'r brodyr "wrth eu bodd" gyda'r dirgelwch ynghylch y graffiti, meddai'r cynghorydd tref Catrin Miles.
"O'dd Wyn wastad yn gofyn, 'beth yw'r goss heddi?' pan o'n i'n gweld e ar y stryd!"
Yn ôl Theatr Mwldan, un o drefnwyr y gyngerdd i ddathlu label Fflach nos Wener, mae'r graffiti yn "ddathliad dirdynnol o dri dyn - Richard, Wyn a Dave - oedd yn annwyl iawn i gymuned Aberteifi".
Dywedodd y Prif Weithredwr Dilwyn Davies: "Fe wnaethon nhw gyfoethogi ein bywydau, a'n treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol drwy'r gerddoriaeth a'r geiriau y gwnaethon nhw adael ar eu hôl.
"Er ein bod ni wedi colli'r tri dyn talentog yma yn ddiweddar, fe fyddwn ni'n parhau i'w cofio."
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i Heddlu Dyfed Powys am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021