Cyneclampsia: Croesawu newid profion i fenywod beichiog

  • Cyhoeddwyd
Eleri
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eleri Wyn Foxhall cyneclampsia yn 2020 ac mae'n dweud bod angen profion rheolaidd ar famau beichiog

Gallai newidiadau i'r cyngor ar brofi menywod beichiog ar gyfer cyflwr cyneclampsia helpu i warchod mamau a'u babanod rhag peryglon difrifol.

Mae'r corff sy'n cynghori ar gyffuriau - NICE - bellach yn argymell y dylai profion gael eu defnyddio ar gyfer diagnosis mewn achosion amheus.

A hithau'n feichiog ers 35 wythnos, fe gafodd Eleri Wyn Foxhall o Benygroes yng Ngwynedd cyneclampsia yn 2020. Mae'n croesawu'r newid, ond yn galw am brofion rheolaidd i fenywod.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi croesawu'r cyngor newydd, ond dywedodd nad yw sgrinio rheolaidd yn cael ei argymell.

Beth ydy cyneclampsia?

Mae cyneclampsia yn gyflwr sy'n effeithio ar rai menywod beichiog, fel arfer yn ystod ail hanner beichiogrwydd neu'n fuan wedi'r geni.

Mae arwyddion cynnar yn cynnwys pwysedd gwaed uchel, protein yn yr wrin, ac er nad yw mwyafrif yr achosion yn ddifrifol, mae'n gallu arwain at gymhlethdodau.

Yn yr achosion mwyaf difrifol, mae risg bod y fam yn datblygu ffitiau eclampsia, sy'n anghyffredin ond yn gallu bygwth bywyd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tomos ei eni'n gynnar oherwydd bod cyneclampsia ar ei fam, Eleri

Fe aeth Eleri Wyn Foxhall o Benygroes at ei bydwraig am apwyntiad arferol ym mis Awst 2020 a chael diagnosis o gyneclampsia.

Doedd hi ddim wedi sylweddoli bod ganddi symptomau, ac mae'n cefnogi'r newid yn y profion.

"'Naeth hi checio fy mhwysau gwaed i a gweld bod y pwysau gwaed yn reit uchel, a hefyd bod 'na brotein yn yr wrin.

"A dyma hi'n dweud: 'Oes 'na rywun yn gallu dod i dy 'nôl di? Ti angen mynd i'r ysbyty. 'Dan ni'n amau efallai bod gen ti gyflwr o'r enw cyneclampsia.'"

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i Eleri Foxhall fod ar ben ei hun yn yr ysbyty ar y pryd oherwydd rheolau Covid

Doedd Eleri erioed wedi clywed am y cyflwr o'r blaen: "O'n i reit ofnus yn mynd mewn i'r ysbyty."

Yno, fe wnaeth meddygon gadarnhau mai cyneclampsia oedd gan Eleri a phenderfynu bod angen cychwyn yr enedigaeth y diwrnod wedyn.

"O'dd e'n hollol annisgwyl a digwyddodd popeth mor sydyn... doeddwn i heb hyd yn oed pacio bag ysbyty, o'dd pob dim ar lawr gen i. O'n i just ddim yn teimlo'n barod.

"Dwi just yn cofio teimlo mor ofn bod hi'n rhy fuan i eni'r babi, bod 'na gymaint o gymhlethdodau'n gallu digwydd, ac o'n i'n poeni am iechyd fy hun ac iechyd y babi."

'Newid fi fel person'

Wrth edrych yn ôl, mae Eleri'n sylweddoli fod ganddi nifer o symptomau'r cyflwr.

"O'dd gen i chwydd un ochr o' nghorff, o'n i'n cael cur pen, ac oedd gen i boen ar dop fy stumog.

"Ond fel o'n i'n mynd yn ôl ac ymlaen o'r ysbyty gafodd o'i fethu, felly mae 'na fethiant yn fan 'na."

Fe gafodd y profiad effaith fawr ar Eleri - ychydig fisoedd wedi'r enedigaeth, fe gafodd hi ddiagnosis o anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

"Yn reit fuan ar ôl o'n i'n cael flashbacks a breuddwydion cas amdan y profiad, ac mae o'n dal i effeithio arna i nawr, bron i ddwy flynedd ar ôl i Tomos gael ei eni.

"Yn sicr, mae o wedi newid fi fel person."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 6% o fenywod beichiog yn cael cyneclampsia yn ôl corff NICE

Mae Eleri'n cefnogi'r newidiadau yn y cyngor ynghylch profi menywod beichiog.

"Dwi'n meddwl bod o'n gam positif yn y ffordd cywir... Fatha unrhyw beth, os ydyn nhw yn spotio fo'n gynnar, mae'n bosib rhoi pethau yn eu lle i stopio fo rhag mynd yn waeth.

"Mae 'na gymaint o brofion yn cael eu gwneud, dwi'm yn gweld pa ddrwg bysa fo'n gwneud i ychwanegu un arall.

"'Sa fo'n gallu bod yn ganlyniad o farwolaeth i'r babi ac i'r fam - mae o yn reit difrifol, a does 'na ddim llawer o ymwybyddiaeth amdano fo o gwbl."

Disgrifiad,

Paige Thomas: "Annheg" nad oedd y prawf ar gael yng Nghymru

Tra'r oedd profion yn cael eu defnyddio yn y gorffennol oedd yn gallu dweud mai nad cyneclampsia oedd gan fenywod, doedd hi ddim yn glir os oedd y profion yn ddigon da i gadarnhau mai cyneclampsia oedd ganddynt.

Mae pedwar prawf newydd wedi cael eu cymeradwyo sy'n mesur lefelau ffactor tyfiant brych (PlGF) yn y gwaed.

Mae PlGF yn brotein sy'n helpu datblygiad pibellau gwaed yn y brych, ac i fenywod sydd â chyneclampsia, gall lefelau fod yn isel.

'Cyngor gwerthfawr'

Dywedodd Jeanette Kuse o NICE fod y profion yn gam mawr yn sut y bydd cyneclampsia'n cael ei drin a'i reoli.

Ychwanegodd y bydd y cyngor yn "werthfawr i ddoctoriaid a mamau beichiog gan y gallan nhw nawr fod yn fwy hyderus yn eu cynlluniau triniaethau ac wrth baratoi am enedigaeth ddiogel".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydy cyngor Sgrinio Cenedlaethol y DU ddim yn argymell PlGF ar gyfer sgrinio rheolaidd cyneclampsia.

"Ry'n ni'n croesawu cyngor NICE i gefnogi diagnosis y cyflwr ac yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ddilyn y cyngor NICE perthnasol a chanllawiau Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

"Gallai cael diagnosis o cyneclampsia trwy ddefnyddio profion gwaed fod yn rhan addas o asesiad clinigol."

Pynciau cysylltiedig