Mwy o bresenoldeb heddlu wedi difrod bryngaer Dinas Dinlle
- Cyhoeddwyd
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cynyddu eu presenoldeb ar safle hanesyddol yn Ninas Dinlle yn dilyn difrod.
Yn ôl y llu, fe gafodd offer ei losgi yn y bryngaer sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn.
Ar hyn o bryd, mae gwaith archeolegol yn digwydd yno gyda phryderon ers blynyddoedd y bydd y safle'n diflannu i'r môr oherwydd erydiad.
Dywedodd y tîm troseddau cefn gwlad y byddan nhw'n "cadw golwg" ar y lleoliad hanesyddol ers y difrod.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae gwaith cloddio'n digwydd ar y safle gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a chyrff eraill ar hyn o bryd, a gwirfoddolwyr yw'r mwyafrif sy'n cloddio.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr ymddiriedolaeth eu bod wedi tristáu o weld y difrod.
'Tân, gwydr a cherrig wedi symud'
Roedd gweld y difrod a'r poteli cwrw gwydr yn siom i un o'r aelodau sydd yno'n cloddio.
"Mae pobl 'di bod yn gweithio yn galed iawn yno a 'dio ddim yn neis iawn i droi fyny a gweld y difrod," meddai Dan Amor o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
"Roedd 'na lot o wydr ar y llawr a photeli cwrw. Roedd 'na bolion ffens wedi cael eu cario mewn a'u llosgi ar waliau'r tŷ crwn, ac roedd 'na ddwy elfen i'r difrod tân.
"Roedd 'na gerrig wedi cael eu difrodi, eu cracio gan y gwres ond hefyd cerrig wedi cael eu symud. Mae o just yn dristwch really."
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn "siomedig" gyda'r difrod.
Dywedon fod pobl wedi "gosod offer ar dân, chwalu waliau yno a gadael llanast ofnadwy ar eu holau".
"Mae hi yn holl bwysig ein bod yn cadw golwg a gwarchod ein safleoedd treftadaeth ac felly os welwch bobl yn ymddwyn yn wrth-gymdeithasol yn ein safleoedd hanesyddol cysylltwch â'r heddlu."
Ychwanegodd y llu y bydd mwy o oruchwyliaeth o amgylch y safle.
Mae'r bryngaer yn dyddio'n ôl i'r Oes Haearn ac mae'r gwaith cloddio ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar olion gweddillion y tŷ crwn mawr.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu a'i gynnal ar y cyd rhwng Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r prosiect CHERISH.
Yn ôl Dan Amor, cafwyd caniatâd i gloddio gan fod y rhan hon o'r bryngaer mewn safle mor fregus.
Mae tua 40cm o dir yn cael ei golli i'r môr bob blwyddyn, meddai, ac mae peryg i'r rhan yma o'r fryngaer ddiflannu am byth ymhen ychydig flynyddoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd20 Awst 2019