Beth allwn ni ei ddisgwyl o'r tymor pêl-droed newydd?
- Cyhoeddwyd

A ninnau'n dal ddim ond ym mis Gorffennaf mae'r tymor pêl-droed newydd wedi'n cyrraedd unwaith eto. Mae hi'n flwyddyn enfawr i dîm cenedlaethol y dynion wrth gwrs gyda Chwpan y Byd yn Qatar yn dechrau ar 21 Tachwedd, ond mae hefyd yn flwyddyn hollbwysig i glybiau Cymru.
Dylan Griffiths, gohebydd pêl-droed BBC Radio Cymru, sy'n trafod yr heriau fydd yn wynebu ein clybiau a'n timau cenedlaethol.

Dyma ni felly ar drothwy tymor newydd arall! Ar y cyfan mae'n rhaid dweud mai digon siomedig oedd hi i Gaerdydd ac i Abertawe y tymor diwethaf yn y Bencampwriaeth - gyda Caerdydd yn gorffen yn 18fed ac Abertawe yn 15ed.
Caerdydd
Ar ôl cael ei benodi yn rheolwr ym mis Hydref, blaenoriaeth Steve Morison oedd diogelu lle Caerdydd yn y gynghrair: mi wnaeth o hynny, ond mi fydd o a'r cefnogwyr am weld cynnydd yn sicr y tymor yma.
Mae'n dweud cyfrolau mai'r prif sgoriwr y tymor diwethaf oedd yr amddiffynnwr Aden Flint sydd bellach wedi gadael y clwb gyda chwe gôl yn unig.

Gorffennodd Caerdydd yn yr 18fed safle yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.
Mae Morison wedi bod yn eithriadol o brysur yn ystod yr haf, gyda dros ddwsin o wynebau newydd wedi ymuno a mwy i ddod. Er, wrth edrych ar y garfan fel mae hi, mae angen dod o hyd i ymosodwr fydd yn medru sgorio o leia 15 gôl, ac mae angen i'r chwaraewyr canol cae gyfrannu gyda goliau hefyd.
Mi fydd y gêm agoriadol gartref yn erbyn Norwich brynhawn Sadwrn yn dalcen caled i'r Adar Gleision.
Abertawe
Taith i Rotherham sy'n wynebu Abertawe. O'r cychwyn cynta', roedd y rheolwr Russell Martin yn benderfynol o fabwysiadu steil o bêl-droed fyddai'n bleserus i'w wylio a'r tymor yma, adeiladu ar waith y tymor diwethaf, siawns, fydd y targed.
Mae gwaith o hyd i'w wneud o ran trosglwyddiadau, mae colli y chwaraewr canol cae Flynn Downes i West Ham yn ergyd drom, ond o leia' mae'r mab afradlon, Joe Allen, yn dychwelyd ddeng mlynedd ers gadael am Lerpwl. A gyda Harry Darling a Nathan Wood wedi arwyddo mae hyn yn cryfhau'r amddiffyn.

Gadawodd Joe Allen Abertawe gan symud i Lerpwl yn 2012, ac roedd gyda Stoke City o 2016-2022.
Mae Martin yn mynnu bod eu paratoadau y tymor yma tipyn gwell na'r tymor diwethaf, dim ond wythnos gafodd o ar y cae ymarfer cyn i'r tymor gychwyn yn dilyn ymadawiad Steve Cooper.
Tydy o ddim wedi gosod unrhyw dargedau i'r garfan, ond yr hyn sy'n holl bwysig ydy cadw yr ymosodwyr Joel Piroe, y prif sgoriwr y tymor diwethaf gyda 22 gôl yn y gynghrair, a Michael Obafemi; er iddo gael dechrau tawel mi gyfrannodd 12 gôl. Mae'r bartneriaeth rhwng y ddau yma yn holl bwysig os ydy'r Elyrch am brofi llwyddiant.
Casnewydd
I Gasnewydd yn yr ail adran mi fydd y rheolwr James Rowberry wedi elwa o'r profiad y tymor diwethaf. Ar ôl i Mike Flynn adael ym mis Hydref 2021, roedd yr Alltudion yn safloedd y gemau ail gyfle erbyn y Nadolig a'r gobeithion yn uchel am ddyrchafiad i Adran 1.
Ac am gyfnod roedd dyrchafiad awtomatig yn bosibilrwydd cryf; gyda wyth gêm i fynd roedden nhw yn y trydydd safle.
Ond wedyn mi aeth pethau ar chwâl. Gan ennill dim ond un o'r saith olaf doedd y gemau ail-gyfle ddim yn bosib ac mi orffennodd y tîm yn unfed ar ddeg.

Yn 37 oed mae James Rowberry yn un o'r rheolwyr ieuengaf yn y gynghrair bêl-droed.
Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur o ran mynd a dod yn Rodney Parade hefyd - gyda wyth chwaraewr newydd yn ymuno.
Mi fyddan nhw'n gweld colli y prif sgoriwr Dom Telford sydd wedi ymuno â Crawley, ond os ydy Casnewydd am brofi llwyddiant mae'n rhaid cael cysondeb o ran perfformiadau a chanlyniadau drwy'r tymor.
Wrecsam
I Wrecsam maen nhw'n paratoi am eu pymthegfed tymor allan o'r Gynghrair Bêl-droed. Roedd cymaint o sylw wedi ei hoelio ar y Dreigiau y tymor diwethaf gyda'r perchnogion newydd o Hollywood wrth y llyw. Ac mi gafodd hyn ei adlewyrchu yng ngwerthiant tocynnau i'r Cae Ras: roedd dros 7,500 yn bresennol ar gyfer pob gêm gynghrair gartref ac yn agosach at 10,000 tuag at ddiwedd y tymor.
Fodd bynnag yr un hen stori oedd hi - boddi wrth ymyl y lan eto. Er gwaetha goliau Paul Mullin, Ollie Palmer a Jordan Davies doedden nhw ddim digon da i ddal Stockport ar y brig a colli wnaethon nhw yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle mewn gêm ryfeddol yn erbyn Grimsby.

Chwaraewr a all brofi'n gwbl allweddol i obeithion Wrecsam am ddyrchafiad y tymor hwn - Paul Mullin.
Mae arwyddo Elliot Lee am gryfhau ochr greadigol y tîm, ond mae'n rhaid cael dechrau da i'r tymor neu mi fydd na bwysau cynyddol ar y rheolwr Phil Parkinson.
Y Seintiau Newydd
Am y pedwerydd tro ar ddeg, Y Seintiau Newydd gafodd eu coroni'n Bencampwyr y Cymru Premier, ac er iddyn nhw brofi siom yn Ewrop mae'n anodd gweld unrhyw un arall yn rhoi pwysau arnyn nhw.
Cymru
Ac am fisoedd cyffrous sydd ar y gorwel i dimau dynion a merched Cymru, mae Qatar a Cwpan Y Byd lai na phedwar mis i ffwrdd i Robert Page a'r garfan, a Gemma Grainger yn gobeithio arwain y merched at gemau ail-gyfle Pencampwriaethau Ewrop.
Fel ym mhob tymor arall mi fydd na gyfnodau anodd, ond mae na deimlad o gyffro y tymor yma a chymaint, gobeithio, i edrych ymlaen ato yn 2022-23.

Carfan Cymru'n dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Wcrain a chyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Hefyd o ddiddordeb: