'Pwysig rhannu stori Operation Julie,' medd deliwr LSD

  • Cyhoeddwyd
Alston 'Smiles' HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Alston 'Smiles' Hughes ei garcharu am wyth mlynedd am ei ran yn Operation Julie

Mae hi'n bwysig rhannu stori un o ymgyrchoedd gwrth-gyffuriau mwyaf Cymru a'r byd, yn ôl un o'r rhai oedd yn rhan o'r gadwyn gyflenwi.

Dywed Alston 'Smiles' Hughes, deliwr cyffuriau a chwaraeodd rhan ganolog yn hanes Operation Julie, fod sefyllfa'r byd heddiw yn cyfiawnhau agweddau'r troseddwyr ar y pryd.

Daw ei sylwadau wrth i sioe gerdd newydd agor dros y penwythnos, sy'n dweud stori'r ymgyrch gwrth-gyffuriau a effeithiodd ar ardaloedd o Geredigion a Phowys yn yr 1970au.

Beth yw hanes Operation Julie?

Mae stori Operation Julie yn darllen bron fel chwedl. Ffatri LSD yng nghanolbarth Cymru. Y gwyddonydd yn byw ger Tregaron. Criw o hipis yn Llanddewi Brefi. Ymgyrch ryngwladol i stopio'r cynhyrchu.

Yn 1975 mae'r stori yn dechrau i'r heddlu, wedi i gar Range Rover, oedd yn eiddo i gemegydd o Brifysgol Lerpwl, Richard Kemp, fod yn rhan o ddamwain angheuol ger Machynlleth.

Wrth archwilio'r cerbyd fe ddaethon nhw o hyd i ddarnau papur oedd yn sillafu "Hydrazine Hydrate" - cynhwysyn allweddol i greu'r cyffur seicadelig LSD.

Fe dreuliodd swyddogion cudd y rhan fwyaf o 1976 wedi gwisgo fel hipis yn cadw golwg ar adeiladau a phobl yng Ngharno, Llanddewi Brefi a Thregaron.

Disgrifiad o’r llun,

Llun heddlu a dynnwyd o Richard Kemp yn 1975

Ym 1977 fe wnaeth yr heddlu gynnal cyrchoedd ar draws gwledydd Prydain, a welodd dwy rwydwaith cynhyrchu yn cael eu chwalu oedd yn dosbarthu tua 90% o'r farchnad LSD ym Mhrydain.

Wedi misoedd o gadw golwg ar bobl o ddiddordeb yng Nghymru, Lloegr a Ffrainc, daeth swyddogion o hyd i 6.5 miliwn o dabiau LSD, yn ogystal â thystysgrifau rhandaliadau a chyfrifon banc yn y Swistir gwerth miliynau.

Cafodd 120 o bobl eu harestio a 15 o bobl eu dedfrydu am gyfanswm o 120 o flynyddoedd.

'Ceisio newid meddyliau ac agweddau'

Yn ôl y rhai tu ôl i'r cynllwyn, eu bwriad oedd newid y byd, agor llygaid pobl i'r problemau roedd ein planed yn wynebu gan ddefnyddio LSD. Problemau sy'n cynnwys newid hinsawdd.

Yn eu plith roedd Alston 'Smiles' Hughes, dyn o Fanceinion a ymgartrefodd yn Llanddewi Brefi fel deliwr LSD.

"Ar y pryd roedden ni'n ceisio cael pobl i newid eu meddyliau a'u hymddygiad oherwydd roeddech chi'n gallu gweld nad oedd y llwybr roedden ni'n cymryd yn dda i ni fel pobl," meddai.

"Dwi'n teimlo rhyw fath o gyfiawnhad erbyn heddiw o weld lle ry'n ni 'di cyrraedd... y man lle roedden ni'n credu bydden ni'n cyrraedd os na fydden ni'n newid. Mae pethau ond yn mynd i waethygu. Fe 'naethon ni drio ein gorau.

"Os gallen ni fyw mewn ffordd fwy cydweithredol, a dim defnyddio cymaint o adnoddau'r byd, fe fyddai hynny'n well i ni. Ond dwi'n credu ein bod ni wedi mynd heibio'r pwynt yna a ni mewn trwbl mawr."

Ffynhonnell y llun, Central Press/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

15 Chwefror 1978: Tŷ 'Penlleinall' yn Nhregaron, lle darganfuwyd casgliad mawr o LSD wedi ei gladdu o dan yr ystafell fyw

Er y sylw ddaeth i ardal Tregaron a Llanddewi Brefi, does gan neb yr un gair gwael i ddweud am y rhai fuodd yn cynhyrchu cyffuriau yng nghanolbarth Cymru.

Yn ôl Lyn Ebenezer, awdur y llyfr Operation Julie: The World's Greatest LSD Bust, roedden nhw'n rhan o'r gymuned.

"Amser 'ny dwi'n cofio problemau mawr tai haf, ail-gartrefi a mewnfudwyr - roedd Adfer wrthi," meddai.

"Ond yng nghanol hynna i gyd, dyma'r stori fwya' dwi'n cofio yn torri - Operation Julie. A honno wedi digwydd o dan fy nhrwyn i, mewn ardaloedd o'n i'n nabod mor dda. O'n i'n cico'n hunan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lyn Ebenezer wedi ysgrifennu'n helaeth am hanes Operation Julie

Ychwanegodd: "Un o'r elfennau rhyfedda' yn y stori - roedd 'na ddau [ddeliwr] yn byw yn Llanddewi Brefi, Smiles [Alston Hughes] a Buzz [Ciaran Healy] - clywch chi ddim gair yn erbyn y ddau yna. O'n nhw'n rhan o'r gymuned.

"Roedd ymfudwyr fel arfer yn cadw draw wrth bobl leol, ond roedd rhein yn eu canol nhw. O'dd Smiles yn arbennig yn towlu darnau £5 neu £10 ar y cownter. Clywch chi ddim hyd y dydd heddi' unrhyw un yn dweud unrhyw beth yn eu herbyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg, heb glywed am hanes Operation Julie tan yn ddiweddar

Mae'r stori nawr yn cael ei hadrodd mewn sioe gerdd gan Theatr na nÓg fydd yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf.

"O'n i ddim yn ymwybodol o'r stori o gwbl tan fod ffrind i fi mewn rhyw barti yn dweud 'dyma'r sioe gerdd nesa' ddylech chi 'neud'," meddai Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg.

"Nes i ddechrau gyda llyfr Lyn Ebenezer, fel mae pawb yn 'neud, ac o'n i'n credu ei fod e'n anhygoel o stori, ac oedd e gyd wedi digwydd yng nghefn gwlad Cymru. O'n i'n meddwl bydde fe'n dda fel caper show, cops and robbers.

"Ond wrth i fi ymchwilio mewn i'r sioe o'n i'n gallu gweld bod egwyddorion y bobl yma yn wahanol ac o'n nhw am newid y byd gyda'i LSD.

"O'n i'n teimlo yn enwedig nawr pa mor berthnasol yw hwnna gyda beth sy'n digwydd yn ein byd ni nawr."

Mae Sioe Gerdd Operation Julie ar daith yn Neuadd y Celfyddydau, Aberystwyth (30 Gorffennaf-13 Awst), Theatr Brycheiniog, Aberhonddu (24 Awst-26 Awst) ac yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin (31 Awst-2 Medi).