Ymchwiliad wedi i goed gael eu gwenwyno'n fwriadol
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i nifer o goed gael eu dinistrio ar ôl cael eu chwistrellu a gwenwyn yn ardal Port Talbot.
Daw wedi i gyngor Castell-nedd Port Talbot gael eu hysbysu gan aelod o'r cyhoedd am goed marw ar dir rhwng Crofton Drive a Willow Grove, Baglan.
Dywed y cyngor bod tyllau wedi cael eu drilio i waelod wyth o goed, a bod profion pellach wedi dangos bod "chwynladdwr cryf" wedi cael ei chwistrellu i mewn iddynt.
Yn ôl y cyngor maen nhw wedi gweld "cynnydd mewn bwriad maleisus yn erbyn coed ledled y sir".
Dywedodd llefarydd: "Ar ôl ei chwistrellu, amsugnwyd y cemegyn i mewn i system fasgwlaidd y coed, ac roedd hi'n anorfod mai dirywiad sydyn iawn fyddai'r canlyniad.
"Ymddengys ein bod ni'n gweld cynnydd mewn bwriad maleisus yn erbyn coed ledled y sir, a byddwn ni'n monitro'r sefyllfa, ac os bydd angen, byddwn ni'n gweithredu ymhellach."
"Hoffem ofyn i aelodau'r cyhoedd yn yr ardal hon a allai fod wedi gweld unrhyw weithgaredd amheus o gwmpas y coed hyn i gysylltu â'r cyngor neu â Heddlu De Cymru," meddai llefarydd.
Dywedodd y Sarjant Anthony Willmet o Heddlu De Cymru ei bod yn ymddangos fod y coed wedi eu gwenwyno.
"Mae'n un peth i geisio lladd coeden iach, ond mae yna hefyd ystyriaethau ehangach fel diogelwch, wrth i'r coed ddod yn llai sefydlog, ac unai'r goeden neu'r canghennau yn cwympo a difrodi eiddo neu hyd yn oed achosi niwed i bobl.
"Rydym yn cydweithio gyda'r cyngor i fonitro'r sefyllfa rhag bod yna ddigwyddiadau eraill tebyg yn yr ardal."
"Fandaliaeth" oedd disgrifiad y Cynghorydd Jeremy Hurley, aelod cabinet y cyngor dros newid hinsawdd a llesiant, o'r hyn ddigwyddodd, gan ychwanegu ei fod yn drosedd gyfreithiol.
"Mae coed yn hanfodol yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac maen nhw'n anhepgor ar gyfer ein llesiant hefyd.
"Os gŵyr unrhyw un unrhyw beth am y gweithredoedd echrydus hyn, rwy'n erfyn arnoch i adael i'r heddlu neu'r cyngor wybod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2021