Teyrnged i ddwy fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pontlotyn

  • Cyhoeddwyd
Justine Hughes (chwith) a Denise HughesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Justine Hughes (chwith) a Denise Hughes, a fu farw yn y digwyddiad

Mae teulu dwy ddynes a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerffili yn gynharach yn y mis wedi eu disgrifio fel pobl "gariadus a hapus" mewn teyrnged.

Bu farw Justine Hughes, 30, a Denise Hughes, 79, yn y fan a'r lle yn dilyn y digwyddiad ar Heol Fochriw, ger Pontlotyn, am 10:15 ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf.

Cafodd bachgen tair oed a oedd yn teithio gyda nhw mewn Citroen C3 glas, ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau, ac mae bellach wedi cael dod adref.

Mae dyn 22 oed oedd yn gyrru'r car arall - Ford Ranger gwyn - mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, gydag anafiadau difrifol.

Mam-gu a phenteulu

Dywedodd teulu'r ddwy ddynes, sy'n cael cymorth swyddogion heddlu arbennig:

"Mae Denise wedi cael ei chymryd oddi arnom yn drasig. Roedd hi'n wraig, mam, mam-gu, a hen fam-gu hyfryd yr oedd pawb yn dwli arni.

"Roedd hi'n caru ac yn cael ei charu, wastad yn barod i helpu lle gallai. Roeddem i gyd yn edrych arni fel penteulu.

"Ni all geiriau fynegi'r boen yr ydym yn ei deimlo, ond mae'n fwy goddefadwy diolch i gefnogaeth teulu a chyfeillion. Tanddatganiad fyddai dweud y byddem yn ei cholli hi.

Disgrifiad o’r llun,

Blodau a adawyd ger safle'r digwyddiad ar Heol Fochriw

"Justine, dynes ifanc a hapus, y torrwyd ei bywyd mor drasig o ifanc.

"Bywyd oedd yn addo cymaint ond ddaeth i ben mewn trasiedi. Mam gariadus, chwaer, merch, wyres a nith a roddodd yr un faint o gariad ag a dderbyniai.

"Yn fam i Megan a Rowan, byddant yn tyfu yn gwybod pa mor garedig, hapus a chariadus yr oedd eu mam. Chawn nhw byth eu hanghofio.

"Hoffem ddiolch i bawb yn y chwarel a helpodd ac a fu mor garedig, a'r cyhoedd a stopiodd i geisio helpu ac i'r gwasanaethau brys i gyd am eu cymorth."

Dywed Heddlu De Cymru bod eu hymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau, ac maent yn gofyn am unrhyw dystion neu yrwyr oedd ar Heol Fochriw rhwng 09:45 a 10:15 ar 19 Gorffennaf i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig