Eisteddfod yn dychwelyd i'r Rhondda wedi dros hanner canrif
- Cyhoeddwyd
Fe fydd eisteddfod leol wyneb yn wyneb yn cael ei chynnal yn y Rhondda am y tro cyntaf ers dros hanner canrif.
Roedd y trefnwyr wedi eu hysbrydoli gan ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal, ond mae dwy flynedd o Covid wedi achosi oedi.
Maen nhw nawr yn bwrw ymlaen â threfniadau i gynnal y digwyddiad ym mis Tachwedd.
Fe gafodd yr eisteddfod ei sefydlu fel digwyddiad ar-lein ddwy flynedd yn ôl, ac yn ôl un o'r trefnwyr, Seren Haf Macmillan fe fydd hynny'n help wrth iddyn nhw gynnal digwyddiad wyneb yn wyneb.
"Mae dwy flynedd o brofiad gyda ni. Mae'n bwysig i gynnal y digwyddiad yn fyw.
"Mae'n tynnu pawb at ei gilydd yn y gymdeithas ac mae'n rhoi hwb i'r iaith Gymraeg yn y gymuned a dyna'n union beth ni moyn gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod yma yn 2024."
'Ffordd dda o ddathlu'r iaith'
Yng nghapel Hermon Treorci bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal, ac yno hefyd y buon nhw'n cwrdd i drefnu.
Mae Ben Screen yn teimlo fod yr eistedddfod yn gyfle i roi llwyfan i'r iaith yn lleol.
"Mae 'na lot o Gymraeg yn yr ardal felly mae'n braf gweld hyn yn digwydd achos maen cydnabod bod yr iaith yma a'i bod hi'n gryf," meddai.
"Mae e'n ffordd dda o ddathlu'r iaith ac o ddefnyddio'r iaith hefyd."
Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal tua'r un adeg ag Eisteddfodau lleol eraill yng Nghaerdydd ac yng Nghaerffili, a'r gobaith yw y bydd hon yn rhan o gylchdaith leol, yn ôl Lisa Sheppard.
"Mae lot ohonom ni yn aelodau o Aelwyd Cwm Rhondda a ni wedi bod yn cystadlu yn yr eisteddfodau yna dros y blynyddoedd, felly bydden ni'n gobeithio bod ni'n parhau i fynd a chefnogi'r eisteddfodau lleol yna a bod pobl sy'n mynd i'r eisteddfodau yna yn dod atom ni hefyd."
Yn ôl Cennard Davies, gafodd ei eni yn y Rhondda Fawr ddiwedd y 30au, roedd yna draddodiad eisteddfodol cryf yn yr ardal, er nad oedd yr eisteddfodau wastad yn rhai Cymraeg.
"Roedd tair eisteddfod yn y Rhondda fawr, Eisteddfod y Parc a'r Dar oedd yn cael ei chynnal ar y Sulgwyn ac yn para dau ddiwrnod cyfan.
"Roedd yna ddwy eisteddfod mewn ffatrïoedd yma hefyd. Un yng ngwaith dur TC Jones ac un arall yn ffatri Polikoff ac fe aeth y rheina ymlaen i ddechrau'r 60au ac roedd y ffatrïoedd yn cynnal corau hefyd.
"Roedd Côr Merched yn ffatri Polikoff a Chôr Meibion yn TC Jones felly roedd yna dipyn o fynd ar y cystadlu."
Tra bod y trefnwyr yn rhagweld cynnal eisteddfod draddodiadol Gymraeg, maen nhw'n awyddus i sicrhau eu bod nhw'n cynnwys pawb.
Dywedodd Thomas Tudor-Jones, un o'r trefnwyr: "Fydd e'n rhywbeth traddodiadol, yr hyn ni wedi arfer â fe ond hefyd ni'n gobeithio gallu cysylltu â'r gymuned drwy rhai o'r cystadlaethau yn enwedig gyda'r dysgwyr - mae hynna wedi bod yn reit bwysig i ni.
"Ni wedi cael trafodaethau gyda rhai o'r ysgolion lleol er mwyn iddyn nhw fod yn rhan o'r eisteddfod.
"Fe fydd cystadlaethau celf hefyd a'r gobaith yw y bydd disgyblion lleol yn dod i arfer â'r eisteddfod ac y bydd hynny'n rhoi hyder iddyn nhw gystadlu yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021