Llywodraeth Cymru yn addo 1,000 o dai cymdeithasol newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo 1,000 o gartrefi newydd mewn ymgais i helpu pobl sy'n cael trafferth dod o hyd i lety.
Mae'r cynllun tai cymdeithasol gwerth £62m yn cynnwys dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, defnyddio dulliau adeiladu modern ac adnewyddu neu ad-drefnu adeiladau presennol .
Ond ni fydd rhaid i'r cartrefi hyn lynu at y safonau arferol ar gyfer tai cymdeithasol newydd.
Dywedodd Plaid Cymru nad yw'r cynllun yn mynd yn ddigon pell.
Ym mis Ebrill roedd 7,999 o bobl mewn llety dros dro wrth iddyn nhw aros am gartrefi mwy parhaol, gyda chwarter mewn gwestai a llety gwely a brecwast.
Yn ôl elusen Shelter Cymru, mae'r ffigwr yn cynnwys tua 2,000 o blant, ac mae safon wael y llety mewn rhai achosion yn golygu fod rhaid i rieni fwydo eu plant heb fynediad at gegin a chyfleusterau coginio.

Nid yw'r cynllun yn mynd yn ddigon pell, yn ôl Mabon ap Gwynfor
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) sy'n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Bydd bron i hanner yn gartrefi hirdymor neu barhaol gyda'r lleill yn cynnig cartrefi dros dro sy'n addas i'w defnyddio gan unigolion a theuluoedd am nifer o flynyddoedd.
Gan nad oes rhaid i'r llety lynu at y safonau arferol - gallai hynny olygu bod y tai yn llai, neu fod yr adeilad yn cael ei rannu gan wahanol denantiaid.
Yn ôl llefarydd tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, mae'r buddsoddiad hwn "i'w groesawu, ond mi allai'r cynlluniau fynd ymhellach".
"Ry' ni angen gweld mwy o uchelgais gan y llywodraeth os am sicrhau fod anghenion y rhai mewn llety dros dro yn cael eu cyflawni," meddai.
Ychwanegodd: "Dwi'n hynod bryderus hefyd, am y ffaith bod nifer y bobl sy'n debygol o fod angen llety am gynyddu wrth i'r argyfwng costau byw ddwysau yn yr Hydref a'r Gaeaf."

Y gobaith yw cwblhau'r cynllun o fewn y 18 mis nesaf
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig bod y llywodraeth wedi "colli cyfle i daclo digartrefedd" ar ddiwedd y pandemig.
Ar ôl i lety dros dro fod ar gael yn ystod y pandemig, "rydyn ni nawr wedi cymryd cam yn ôl", meddai Janet Fich-Saunders AS.
"Dylai gweinidogion Llafur fod wedi sicrhau bod mwy wedi ei wneud i symud pobl oedd mewn llety dros dro yn ystod y pandemig i lety parhaol."
'Effeithio ar iechyd meddwl ac ar fywyd teuluol'
Dywedodd Ruth Power, prif weithredwr Shelter Cymru ei bod hi'n croesawu cyhoeddiad y llywodraeth.
"Ry' ni'n gweld mwy o bobl sydd wedi bod yn sownd mewn llety dros dro am fisoedd, weithiau yn gorfod aros dros flwyddyn am rywle y gallan nhw ei alw'n gartref.
"Mae safon y llety mewn rhai achosion wedi bod yn sâl iawn... ac mae byw fel hyn, yn rhannu cyfleusterau gyda dieithriaid, yn cael effaith ar iechyd meddwl ac ar fywyd teuluol, ac mae'r niferoedd yn codi yn fisol."
Nid yw'r cynllun yma'n rhan o darged y llywodraeth i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yng Nghymru erbyn 2026

Yn ôl Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James, angen mwy o opsiynau llety dros dro o ansawdd uchel
Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James: "Rydym wedi llwyddo i helpu miloedd o bobl i gael llety dros dro dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ond mae llawer mwy o bobl yn dal i fynd at ein hawdurdodau lleol i gael help brys.
"Ein huchelgais yw i bawb gael cartref diogel, addas, parhaol ond mae ein system dai dan bwysau sylweddol, dyna pam ein bod yn adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol.
"Ble mae pobl mewn gwestai neu lety B&B dros dro, yn arbennig, gall fod yn anodd iddyn nhw symud ymlaen gyda'u bywydau.
"Mae angen mwy o opsiynau llety dros dro o ansawdd uchel - lle i alw'n gartref - er mwyn caniatáu i bobl fwrw ymlaen â'u bywydau, tra ein bod yn eu cefnogi i ddod o hyd i gartref parhaol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021